1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2023.
1. Pa asesiad mae’r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith ar Gymru yn dilyn oedi o ddwy flynedd ar ddarn llinell rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Crewe? OQ59295
Llywydd, fe gafodd y penderfyniad i ohirio rhannau o'r llinell HS2 ei wneud heb gyfeirio o gwbl at Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn chwalu'r myth mai prosiect Cymru a Lloegr yw hwn.
Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Nid wyf i eisiau ymhelaethu ar ladrad trên mawr Cymru sef HS2, ac nid wyf i eisiau ymhelaethu ar sylwadau Keir Starmer yn Llandudno yn ddiweddar, pan wrthododd ymrwymo i roi ei chyfran deg o HS2 i Gymru. Nid wyf i'n disgwyl i chi, Prif Weinidog, ysgrifennu maniffesto nesaf y DU—er fy mod i'n siŵr y byddai'n llawer gwell pe bai eich ôl bawd chi arno na rhai aelodau Llafur y DU—ond rwyf i eisiau canolbwyntio ar le y gallai cyllid ychwanegol fod o gymorth, lle byddai'n gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae'r arbenigwr trafnidiaeth, Mark Barry, wedi galw cyffordd Gorllewin Caerdydd yn Nhreganna yn dagfa. Byddai lleddfu'r dagfa honno yn galluogi pedwar trên yr awr ar linell y ddinas. Byddai hynny'n gweddnewid y rhwydwaith rheilffyrdd yn y brifddinas ac yn cynyddu cysylltedd â'r Cymoedd yn aruthrol. A wnewch chi, felly, Prif Weinidog, ymrwymo i ysgrifennu at Network Rail ac at Weinidog trafnidiaeth y DU i leddfu'r dagfa yn y gyffordd honno, ac efallai y gallai arweinydd yr wrthblaid wneud yr un peth? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am yr hyn y mae wedi ei ddweud. A bydd yn deall bod yn rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â drysu'r cyfrifoldebau sydd gen i fel Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerdydd. Yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n gyfarwydd iawn â'r holl ddadleuon y mae Rhys ab Owen wedi eu cyflwyno, ac, yn rhinwedd y swydd honno, rwy'n ysgrifennu ar ran trigolion Caerdydd yn y modd y mae wedi ei awgrymu. Fel Prif Weinidog, mae'n rhaid i mi fod yn ofalus bob amser nad wyf i'n gweithredu mewn unrhyw ffordd sy'n awgrymu fy mod i'n defnyddio'r swydd sydd gen i yma yn y Senedd hon yn annheg i roi mantais i'r bobl sy'n byw yn fy ardal fy hun. Ond mae'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd yn gwbl sicr yn gwneud y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi, ac yn eu gwneud nhw am yr holl resymau y mae wedi eu cyflwyno.
Prif Weinidog, mae'n amlwg bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy ymarferol i'r cyhoedd, yn wahanol i'r sefyllfa yng Nghymru, lle mae'r Llywodraeth yn gorfodi pobl allan o geir ond heb roi opsiynau amgen cryf ar waith. Ni wnaf i wadu bod yr HS2 wedi cael ei oedi rhyw fymryn, ond yn y pen draw bydd yn cynyddu capasiti rheilffyrdd ac yn hybu twf. Mae gennym ni rwydwaith rheilffyrdd gwael dros ben yng Nghymru, gyda threnau'n aml yn rhedeg yn hwyr, neu weithiau ddim hyd yn oed yn ymddangos o gwbl. Dim ond yr wythnos hon, dywedwyd wrthym ni i ddisgwyl tarfu ar y rheilffyrdd ymhell i fis Ebrill yn dilyn cyfres o danau ar drenau dosbarth 175. Cafodd dros 100 o wasanaethau eu canslo neu eu gohirio o ganlyniad, a dywedwyd wrthym yn wreiddiol i ddisgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau wythnosau yn ôl. Ond dyma ni eto, Prif Weinidog, yn wynebu anhrefn parhaus ar ein rheilffyrdd. Felly, Prif Weinidog, onid ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael trefn ar eich materion eich hun, ac efallai mai lle da i ddechrau fyddai trwy ddiswyddo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd?
Waw. Allech chi ddim ei ddyfeisio, Llywydd, ond mae'n siŵr bod rhywun wedi gwneud hynny ar ran yr Aelod, oherwydd fe'i darllenodd ar lafar i ni. Edrychwch, nid oedd yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed, hyd yn oed gyda'r deunydd mwyaf disylwedd, werth amser y Senedd. Mae'r syniad bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, y syniad bod HS2 wedi cael ei oedi rhyw fymryn, pan fo bellach yn diflannu ymhell ar ochr arall yr etholiad cyffredinol—. Gadewch i mi ailadrodd y ffigurau. Rwy'n gwybod ein bod ni wedi eu clywed nhw o'r blaen ar lawr y Senedd, ond maen nhw'n dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am hanes Llywodraeth y DU. Tra byddwn ni'n trydaneiddio, yn y rhannau hynny o'r rhwydwaith sydd o dan reolaeth y Senedd, dros 170 cilomedr o reilffordd yma yng Nghymru, i'r llinellau hynny sydd o dan reolaeth Llywodraeth y DU, tra yn y DU gyfan, mae 38 y cant o'r llinellau hynny wedi'u trydaneiddio, ac, yn Lloegr, mae dros 40 y cant wedi'u trydaneiddio, yma yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU wedi llwyddo i drydaneiddio 2 y cant—2 y cant ar gyfer Cymru, 40 y cant ar gyfer Lloegr. A yw'r Aelod wir yn meddwl bod hwnnw'n hanes y mae'n barod i'w amddiffyn?
Prynhawn da, Prif Weinidog. Rwy'n ei alw'n lladrad trên mawr Cymru—dyna mae Llywodraeth San Steffan yn ei wneud i Gymru drwy honni unwaith eto, ac rydych chi wedi cyfeirio at hyn, bod HS2 yn brosiect Cymru a Lloegr, sy'n golygu mewn gwirionedd y bydd Cymru yn colli gwerth £5 biliwn o gyllid. Ac yna, i roi sarhad ym mhen anaf, mae'r cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr yn cael ei ddosbarthu fel prosiect Cymru a Lloegr, heb yr un metr o drac yng Nghymru, yn golygu ein bod ni'n colli gwerth £1 biliwn arall o gyllid ar gyfer ein system drafnidiaeth. Am ffracsiwn o hynny, yma yng Nghymru, fe allem ni mewn gwirionedd wneud trafnidiaeth gyhoeddus am ddim ar gael, nid i blant o dan 25 oed yn unig, ond i'r boblogaeth gyfan. Ac mae hyn ar ben degawdau, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, Prif Weinidog, o danfuddsoddiad mewn rheilffyrdd. Er hynny, rwyf i eisiau meddwl yn adeiladol, ac rwy'n gobeithio, yn eich swyddogaeth a'ch perthynas, rwy'n gobeithio, gyda Keir Starmer, ac o gofio ei bod hi'n debygol y bydd Llywodraeth Lafur mewn grym nesaf yn y DU, a wnewch chi ddychwelyd y cyllid coll hwn i Gymru, neu, o gofio'r sylwadau diweddar gan Keir Starmer, a yw'r trên hwnnw eisoes wedi gadael yr orsaf? Diolch.
Wel, Llywydd, yn gyntaf oll, mae'r Aelod yn cyfeirio at yr anhawster sylfaenol sydd wrth wraidd yr hyn yr ydym ni wedi ei weld gyda HS2, a bellach, yn wir, efallai gyda Phwerdy Gogledd Lloegr hefyd, sef gallu mympwyol Trysorlys y DU i wneud dosbarthiadau o'r mathau y cyfeiriodd Jane Dodds atyn nhw, ac sy'n arwain at ddynodi Pwerdy Gogledd Lloegr yn fath o fuddsoddiad Cymru a Lloegr. Mae'n amlwg nad yw hynny'n wir; mae'n nonsens awgrymu ei fod, ond y Trysorlys yw'r barnwr a'r rheithgor yn y mater hwn—mae'n pennu'r dosbarthiad, ac, os ydych chi'n dymuno ei herio, y Trysorlys, a wnaeth y dosbarthiad hwnnw yn y lle cyntaf, sy'n penderfynu a wnaethon nhw ei gael yn iawn ai peidio. Ac yn rhyfeddol ddigon, maen nhw bron bob amser yn dod i'r casgliad eu bod nhw wedi ei gael yn iawn. Felly, ceir annhegwch sylfaenol yn y system. Yn y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio peirianwaith y berthynas rynglywodraethol, llwyddwyd i gyflwyno elfen annibynnol i anghydfodau â Llywodraeth y DU, lle'r oedd Llywodraeth ddatganoledig yn dymuno codi mater, ac eithrio mewn penderfyniadau a wnaed gan y Trysorlys. Ac mae hynny oherwydd bod y Trysorlys ei hun wedi gwrthod, hyd yn oed yn Whitehall, a hyd yn oed o dan bwysau, fel y credaf, gan Swyddfa'r Cabinet, gwneud ei benderfyniadau yn destun unrhyw fath o drosolwg annibynnol. Ac mae'r diffyg sylfaenol hwnnw yn dal i fod yn weithredol, a hynny ar draul Cymru.
Rwy'n ddiolchgar am yr hyn a ddywedodd yr Aelod am y siawns o Lywodraeth Lafur newydd. A phe baem ni'n rhan o wleidyddiaeth o ddifrif, byddem yn deall, os ydych chi'n paratoi ar gyfer Llywodraeth, nad ydych chi'n mynd i wneud cyfres o benderfyniadau untro mewn cyfweliad pan ofynnir y cwestiwn hwnnw i chi. Bydd Prif Weinidog sy'n paratoi ar gyfer Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau ar sail gytbwys; byddwn yn parhau i wneud y ddadl—wrth gwrs y byddwn ni—ynghylch HS2. Mae gwrthblaid aeddfed, sy'n paratoi ar gyfer Llywodraeth, yn mynd i orfod gwneud llu o benderfyniadau anodd ar sail gytbwys, ac nid ydych chi'n gwneud hynny drwy ymateb i geisiadau am symiau mawr o arian mewn cyfweliad.
A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, ei fod yn gryn agoriad llygad y byddai'n well gan y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi Llywodraeth y DU na sefyll dros Gymru? Mae'n rhaid fy mod i wedi cael fy ngwersi daearyddiaeth yn ofnadwy o anghywir yn yr ysgol, oherwydd rwyf i newydd ddarganfod dros y penwythnos bod rheilffordd Huddersfield i Leeds yn gwasanaethu Cymru, a bod Crewe i Fanceinion yn gwasanaethu Cymru, ond dim ond os ydych chi'n Dori. Oherwydd yn y pen draw, pan fyddaf yn edrych i lygaid fy etholwyr, maen nhw'n gweld Llywodraeth Cymru yn chwilio am arian i fuddsoddi yn rheilffordd Glynebwy, fel y maen nhw ym Maesteg hefyd, ac maen nhw'n edrych ar draws y dyffryn yn Rhymni, maen nhw'n edrych draw at Ferthyr, maen nhw'n edrych draw at Aberdâr, maen nhw'n edrych draw at y Rhondda, lle mae seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ac maen nhw'n gweld y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, buddsoddiad nad yw Llywodraeth y DU yn barod i'w wneud yng Nghymru. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi, os ydym ni'n mynd i roi terfyn ar ffars y Torïaid yn dweud wrthym ni fod Crewe, Manceinion, Leeds a Huddersfield yng Nghymru mewn gwirionedd, yna mae angen i ni ddatganoli'r holl gyfrifoldeb am fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd i Gymru a'i wneud yma ein hunain?
Wel, Llywydd, mae hanes Llywodraeth Cymru yn siarad drosto'i hun: dros £800 miliwn eisoes wedi'i fuddsoddi mewn datblygiadau metro ledled Cymru, £800 miliwn arall wedi'i fuddsoddi mewn fflydoedd trenau newydd ledled Cymru—trenau sy'n cael eu cynhyrchu yma, nawr, yng Nghymru. Am gyferbyniad â'r ffigyrau a roddais i chi ar drydaneiddio. Yr hyn sydd ei angen arnom ni, Llywydd, yw gweld datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yma yng Nghymru, ynghyd â setliad cyllid teg, a does dim pwynt cael y cyntaf os na chewch chi'r ail, ac mae gen i ofn, mai prin iawn yw'r hyder y mae'r hanes o ymdrin â Llywodraeth bresennol y DU yn ei roi i chi y byddech chi fyth yn cael bargen deg.