Gweithwyr Iechyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:41, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i gadw gweithwyr presennol, i recriwtio'n lleol ac i ddod â chlinigwyr newydd i'r ardal. Er bod heriau yn parhau, ac yn rhai go iawn, mae'r canolbarth yn parhau i fod yn lle deniadol i weithio, byw a hyfforddi ynddo. Mae gweithlu bwrdd iechyd lleol Powys wedi gweld cynnydd o dros 700 mewn swyddi llawn amser dros y degawd diwethaf.