Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 21 Mawrth 2023.
'Darpariaeth wirioneddol', rwy'n clywed aelodau eich meinciau cefn yn ei ddweud. Yr hyn y mae pobl eisiau ei wybod yw: a fydd cynnig gofal plant cyffredinol i blant un a dwy oed a fydd yn cynnwys pobl nad ydyn nhw'n manteisio ar y 30 awr hynny o ofal plant am ddim? Mae'r arian yn dod i chi allu gwneud hynny. Enghraifft o ateb syml fyddai, 'Gwnawn, fe wnawn ni ei ddarparu, a bydd pobl ledled Cymru yn mwynhau'r budd hwn.' Dro ar ôl tro, am resymau ideolegol, rydych chi'n dewis peidio â dod ag arfer gorau yma i Gymru, fel y dreth stamp a'r dreth trafodiadau tir: £425,000 yn Lloegr yw'r man cychwyn ar gyfer treth stamp; £225,000 yw'r man cychwyn ar gyfer trafodiadau tir yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] O ran—