Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 21 Mawrth 2023.
Dyma ateb syml i arweinydd yr wrthblaid: byddwn yn buddsoddi £70 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf yn y sector hwn, fel y gall dyfu a dwyn mwy o blant i ofal plant. Nid oes ceiniog, dim un geiniog, yng nghyhoeddiad y Canghellor o fuddsoddiad cyfalaf yn y sector gofal plant yn Lloegr. Byddwn yn darparu rhyddhad ardrethi o 100 y cant i'r sector yma yng Nghymru: £10 miliwn mewn rhyddhad ardrethi i gynorthwyo'r sector. Nid oes yr un geiniog o ryddhad ardrethi ar gyfer y sector gofal plant yn Lloegr chwaith. Byddwn yn cyflwyno 2,500 o leoedd ychwanegol ar gyfer plant dwy oed yng Nghymru o fis Ebrill eleni, a 4,500 o leoedd newydd eraill ar gyfer plant dwy oed yng ngham 2 o fis Medi eleni.
Pan fyddwch chi'n adio'r ddau ffigur hynny at ei gilydd, rydym ni eisoes—eisoes —yn addo gwneud tair gwaith cymaint ag y mae'r Canghellor yn addo ei wneud yn Lloegr ar sail gymesurol. Dyna'r ydym ni'n ei wneud yng Nghymru. Nid wyf i'n copïo neb arall; Cymru ddatganoledig yw hon lle rydym ni'n gwneud ein penderfyniadau ein hunain. A bydd y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn gwneud llawer iawn mwy i lawer iawn mwy o deuluoedd, ac nid ar sail dyhead, nid ar y sail y gallai hyn ddigwydd, gryn amser yn y pellter pan fyddwch chi'n gwybod na fyddwch chi mewn grym, byddwn ni'n ei wneud yn nhymor y Senedd hon, gyda'r arian a'r penderfyniad y mae'r Senedd hon yn eu darparu ar ei gyfer.