Iechyd Meddwl

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 21 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:00, 21 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae cyllid sylweddol a pharhaus gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin De Cymru, o ehangu ymyriadau mynediad uniongyrchol haen 0 a haen 1 i wasanaethau arbenigol, er enghraifft mewn anhwylderau bwyta a seicosis.