Part of the debate – Senedd Cymru am 5:25 pm ar 21 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i agor y ddadl hon trwy ddiolch i Owen Evans, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant Ei Fawrhydi yng Nghymru, am ei adroddiad blynyddol. Mae'n rhoi disgrifiad annibynnol o sut mae ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant yn perfformio ac yn helpu ein dysgwyr i ddatblygu. Mae'r adroddiad yn cynnig ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth, gan helpu llywio datblygiad polisi cenedlaethol.
Hoffwn i ddechrau drwy groesawu'r dull newydd y mae Estyn wedi’i ddefnyddio ar gyfer ei adroddiad blynyddol eleni—wedi ceisio cynyddu ei effaith gymaint â phosib drwy gyhoeddi negeseuon interim ym mis Medi, a rhoi cipolwg cynnar o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd angen ei gryfhau. Cafodd yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi ym mis Ionawr gyda chyfres o gwestiynau ac adnoddau hunanfyfyrio, ac mae'r prif arolygydd wedi rhannu gyda fi fod yna fwy o ymgysylltu wedi bod eleni o ran canfyddiadau'r adroddiad blynyddol. Da yw clywed hyn.
Mae'n werth nodi bod yr adroddiad blynyddol hwn yn tynnu ar dystiolaeth uniongyrchol ers i’r gwaith arolygu ailddechrau yn nhymor y gwanwyn 2022. Mae’n ein hatgoffa ni o effaith barhaus y pandemig ar ein dysgwyr a'r gweithlu addysg. Rŷn ni’n gwybod bod effaith COVID ar sgiliau iaith a darllen yn dal i gael ei deimlo gan lawer o ddysgwyr; dyna pam dwi wedi buddsoddi mewn rhaglen a fydd yn cefnogi dros 2,000 o blant i wella eu sgiliau iaith, sgiliau cyfathrebu a sgiliau darllen. Mae'r rhaglen 10 wythnos, a arweinir gan Brifysgol Bangor, yn darparu rhaglen iaith a llythrennedd ddwys a rhyngweithiol i blant saith i 11 oed. Rŷn ni hefyd wedi sefydlu, a byddwn ni’n parhau i ariannu, rhaglen gyllido bwrpasol i gefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ddelio gydag effeithiau parhaus y pandemig. Rŷn ni hefyd yn monitro effeithiau’r pandemig ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc dros y tymor canolig a'r tymor hir. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw faterion sy'n dod i'r amlwg yn cael eu nodi'n gynnar, a bod camau lliniaru priodol yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym.