Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 21 Mawrth 2023.
Mae dyluniad y gronfa integreiddio rhanbarthol yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed o dan y gronfa gofal integredig flaenorol a'r gronfa trawsnewid, a hefyd yn ymateb hefyd i'r argymhellion o'r gwerthusiadau annibynnol priodol ac adroddiadau Archwilio Cymru. Mae'r dysgu hanfodol hwn wedi ein helpu i lunio'r gronfa, sy'n cynnwys sawl nodwedd allweddol, fel mwy o bwyslais ar chwe model penodol o ofal integredig; fframwaith canlyniadau a mesur eglur; cyfleoedd i rannu dysgu trwy gymunedau ymarfer; a gorwel buddsoddi mwy hirdymor, gan wneud defnydd o ysgogiadau cyllid graddedig a chyfatebol i gefnogi prif ffrydio a chynaliadwyedd.
I'n byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'r flwyddyn gyntaf hon wedi bod yn un o drawsnewid, wrth i ni gyfuno ffrydiau ariannu a oedd ar wahân gynt i greu mwy o aliniad rhwng adnoddau, fel ein bod ni’n cael yr effaith fwyaf posibl ac yn lleihau baich gweinyddol. Mae pob bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi dylunio ei gynllun buddsoddi cronfa integreiddio rhanbarthol ac mae'n gwneud cynnydd da tuag at brofi a datblygu elfennau critigol o'n chwe model cenedlaethol o ofal. Wrth i ni weld tystiolaeth gynyddol o’r arferion gorau o bob cwr o'r wlad, bydd hyn yn cael ei ymgorffori mewn manylebau gwasanaeth cenedlaethol a fydd yn sicrhau mwy o gysondeb o ran safonau a phrofiadau ledled Cymru.
Er ei bod yn rhaglen drawsnewid mwy hirdymor yn bennaf, mae'r gronfa yn darparu ar gyfer pobl nawr. Dros fisoedd y gaeaf, mae prosiectau a ariannwyd wedi cyfrannu 360 o welyau gofal llai dwys ychwanegol i helpu pobl i adael yr ysbyty yn gyflym ac yn ddiogel a lleddfu pwysau ar y system yn rhan o'n rhaglen adeiladu capasiti gofal cymunedol. Mae enghraifft dda arall o effaith gadarnhaol y gronfa yn cynnwys prosiect osgoi derbyniadau bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn darparu cymorth cymunedol byrdymor ar lefel isel i bobl, fel tacluso cartrefi pobl i osgoi cwympiadau diangen yn y cartref, darparu cymorth i ofalwyr di-dâl a threfnu addasiadau i'r cartref er mwyn galluogi pobl i aros gartref cyhyd â phosibl.
Mae prosiect Get Me Home Plus bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro yn enghraifft dda arall o lwybr carlam lle mae timau amlddisgyblaeth yn gweithio gyda chleifion sydd angen pecynnau mwy dwys o gymorth ac ail-alluogi gartref. Mae'r prosiect hwn yn cael ei adnabod yn lleol fel 'y fyddin binc', ac mae'n darparu un pwynt mynediad a chydgysylltu o fewn yr ysbyty ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau cymunedol sy’n gallu darparu lefel uwch o ofal canolraddol i bobl gartref, gan gefnogi rhyddhau cynharach tan i'r lefel gywir o gymorth tymor hwy gael ei drefnu. Dim ond dau o lawer o brosiectau cronfa integreiddio rhanbarthol yw'r rhain sy'n helpu pobl i fyw'n dda gartref, i osgoi derbyniadau i'r ysbyty, a chynorthwyo rhyddhau’n ddiogel a chyflym i’r cartref.
Mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i ymrwymo dros 60 y cant o'u cronfa integreiddio rhanbarthol i fodelau gofal sy'n darparu mwy o gapasiti cymunedol ar gyfer nawr ac yn y dyfodol. Bydd y buddsoddiad dros y pedair blynedd sy’n weddill hefyd yn cefnogi ein huchelgeisiau yn fawr i symud yn gyflymach fyth tuag at system gofal cymunedol integredig i Gymru. Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol hefyd yn ein helpu i gyflawni blaenoriaethau allweddol eraill gan gynnwys y model NYTH/NEST. Mae hyn yn arwain dull system gyfan o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer babanod, plant a phobl ifanc. A chyda'r disgwyliad parhaus bod o leiaf 20 y cant o'r gronfa integreiddio rhanbarthol yn cael ei fuddsoddi mewn darpariaeth drwy sefydliadau'r sector gwerth cymdeithasol, mae hefyd yn helpu i gefnogi ein hagenda ar ail-gydbwyso'r farchnad gofal a chymorth.
Rwy'n cydnabod bod byrddau partneriaeth rhanbarthol a'u partneriaid wedi bod yn gweithio i sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'r gronfa ar adeg pan fo pwysau ehangach ar y system ac adferiad yn sgil COVID wedi effeithio'n enfawr ar adnoddau a chapasiti partneriaid statudol. Yn y cyd-destun hwn, ac ar gais ein partneriaid, adolygodd swyddogion Llywodraeth Cymru ofynion cyllid graddedig a chyfatebol y gronfa. Ym mis Rhagfyr, cytunodd Gweinidogion i lacio'r trefniadau hyn yn y byrdymor, ond heb golli golwg ar ddyheadau tymor hwy'r gronfa i sefydlu gwasanaethau prif ffrwd mwy hirdymor.
Mae dysgu a gwella yn rhan bwysig o'n hethos ar gyfer datblygu iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ein bod ni, ar ôl proses dendro gystadleuol, wedi sicrhau gwasanaethau Prifysgol De Cymru, mewn cydweithrediad ag Old Bell 3 a phrifysgolion Bangor ac Abertawe, i gyflawni'r gwerthusiad o'n cronfa integreiddio rhanbarthol. Mae'n amlwg bod y gronfa integreiddio rhanbarthol yn ei blwyddyn gyntaf wedi dechrau hyrwyddo dull partneriaeth gwirioneddol o fuddsoddi mewn gwasanaethau integredig ar gyfer yr hirdymor. Byddaf yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol i drafod cynnydd a byddaf yn cymryd diddordeb brwd i weld sut mae ein modelau cenedlaethol o ofal integredig yn parhau i esblygu dros y flwyddyn nesaf.