Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 21 Mawrth 2023.
Does dim ffi gwrandawiad gydag achosion y tribiwnlysoedd; does dim angen cyfreithiwr arnoch chi ar gyfer achosion yn y tribiwnlysoedd. Mae wedi cael ei wneud fel ei fod yn rhwydd i bobl ei ddeall. Mae'n cael ei wneud mewn ffordd bod pobl yn cael eu cynghori lot. Mae'n lot llai adversarial na'r system llysoedd. Felly, beth yw cynlluniau'r Cwnsler Cyffredinol i ehangu hynny ac i'w wneud e hyd yn oed yn haws i bobl i ddod at dribiwnlysoedd Cymru?