Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel rydych wedi'i amlinellu, mae'r prif eithriad a roddwyd ar waith mewn perthynas ag amodau cynllunio yn nodi mai dim ond fel llety gwyliau ac ati y gellir defnyddio eiddo. Ond rydych newydd nodi hefyd, yn eich ymateb, yr eithriadau eraill a geisiwyd gan y busnesau hyn yng Nghymru, ac yn benodol, roedd hyn yn cynnwys eithriad ar gyfer elusennau cofrestredig sy'n darparu seibiant i ofalwyr ac eiddo sy'n darparu ar gyfer pobl ag anghenion arbennig. Felly, yng ngoleuni hyn, Weinidog, a wnewch chi ailasesu premiymau'r dreth gyngor ac ystyried cyflwyno eithriad i’r rheini sy’n darparu gofal seibiant yng Nghymru?