Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 22 Mawrth 2023.
Rydym wedi edrych ar yr achos a wnaed gennych chi a chan eraill o ran lle mae eiddo’n cael ei redeg gan elusen, a chredaf y bydd yr amgylchiadau’n dibynnu ar y sefyllfa benodol mewn perthynas â’r eiddo hwnnw. Bydd yr eithriad presennol neu'r eithriad newydd eisoes yn gymwys i rai, ac mewn achosion lle nad yw hynny'n wir, mae gan awdurdodau bwerau disgresiwn y gallant eu defnyddio. Gall natur llety elusennol amrywio, a byddai’n anodd diffinio categori penodol ar gyfer hyn, ond credaf fod yna achosion lle bydd awdurdodau lleol yn defnyddio'r canllawiau diwygiedig newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i’w helpu i wneud y penderfyniadau hynny, pan fyddant yn credu bod yna achos gwirioneddol dros eithrio eiddo unigol, neu grŵp o eiddo neu gategori o eiddo yn lleol.