1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl dalentog i weithio mewn llywodraeth leol o ystyried effaith yr argyfwng costau byw? OQ59301
Mae awdurdodau lleol yn darparu eu gwasanaethau hanfodol drwy eu staff dawnus. Er bod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am eu recriwtio eu hunain, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth drwy raglenni arweinyddiaeth Academi Wales gan gynnwys rhaglen graddedigion gwasanaeth cyhoeddus Cymru, cyfrifon dysgu personol a’n rhaglen brentisiaethau ehangach.
Diolch, Weinidog. Rwyf bob amser yn falch o weld y gwaith y mae fy nghyngor lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn ei wneud i wella'r gymuned. Gyda chymhlethdodau Brexit yn achosi llwyth gwaith cynyddol, i'r gwaith o adfywio ein cymuned, i wrthsefyll yr argyfwng hinsawdd a natur, mae staff llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau bob dydd pawb. Fodd bynnag, yn ôl ymchwil a wnaed gan yr Institute for Government, oedran cyfartalog gweision sifil ar draws y DU yw 44, ac er bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio cynllun graddedigion—y mae rhai aelodau ohono yn yr oriel yma heddiw—Weinidog, mae hon yn broblem wirioneddol. Felly, o ystyried y llwyth gwaith cynyddol i lywodraeth leol, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i lenwi swyddi gwag mewn llywodraeth leol, ac a wnaiff annog cynlluniau fel hyn ledled Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi’r mater pwysig hwn y prynhawn yma. Rwy'n sicr yn ymuno â chi i gydnabod y rôl hanfodol y mae ein staff llywodraeth leol yn ei chwarae yn gwasanaethu eu cymunedau. Mae'n ddrwg iawn gennyf nad wyf yn gallu cyfarfod â graddedigion Pen-y-bont ar Ogwr yn bersonol y prynhawn yma, ond mae'n wych eu gweld yn y Senedd.
Credaf fod rhai pethau gwirioneddol bwysig y mae Pen-y-bont ar Ogwr yn eu gwneud gyda'r defnydd sylweddol o brentisiaethau. Gwn fod 144 ohonynt, ac mae hynny wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol ym maes TGCh, gofal cymdeithasol a rheoli adeiladu. Mae’r rheini i gyd yn feysydd lle mae angen inni fod yn annog pobl ddawnus i ddilyn gyrfa mewn llywodraeth leol. Fel y mae Pen-y-bont ar Ogwr yn ei wneud, credaf fod angen i bob awdurdod lleol feddwl sut y gallwn hyrwyddo manteision gweithio yn y sector cyhoeddus. Yn ogystal â chael cyfle i wneud cyfraniad cryf i'ch ardal leol, ceir cyfleoedd gwych hefyd o fewn awdurdodau lleol i gamu ymlaen yn eich gyrfa. Yn fy marn i, gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i ddechrau cael pobl ifanc yn yr ysgol a’r coleg i ddechrau meddwl am yrfaoedd mewn llywodraeth leol, oherwydd fel y dywedwch, mae yna gyfleoedd gwych i'w cael, ac mae’n swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth enfawr.
Ceir llawer o bobl mewn cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ag ystod o sgiliau a fydd o fudd wrth ddarparu gwasanaethau awdurdodau lleol, megis sgiliau iaith a gwybodaeth helaeth am wahanol gymunedau diwylliannol. Weinidog, beth ddylai awdurdodau lleol ei wneud i wella cyfraddau cyflogaeth ymhlith y cymunedau hyn er mwyn adlewyrchu'r bobl y maent yn eu gwasanaethu yn well?
Credaf ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol—a'r sector cyhoeddus yn fwy cyffredinol—yn manteisio ar gyfleoedd i geisio denu ystod lawer ehangach a mwy amrywiol o bobl i weithio yn eu sectorau. Gallant wneud hynny drwy, er enghraifft, sicrhau bod yr hysbysebion ar gyfer rolau yn cael eu gosod yn briodol mewn mannau lle mae pobl â nodweddion mwy amrywiol yn debygol o’u gweld, a dod o hyd i ffyrdd hefyd o wneud y broses gyfweld yn ffordd fwy croesawgar a chynhwysol o ddod o hyd i'ch staff newydd. Ac unwaith eto, rwy'n credu bod y cynlluniau mentora, y buom yn sôn amdanynt yn gynharach yng nghyd-destun rolau gwleidyddol, yn gyffrous a phwysig yng nghyd-destun y sector cyhoeddus hefyd. Dylai llawer mwy ddigwydd yn y gofod hwnnw, ond mae llawer y gallwn ei ddysgu o’r gwaith a wnawn ar wella amrywiaeth mewn democratiaeth, oherwydd mewn sawl ffordd, rwy'n credu mai dwy ochr i'r un geiniog ydynt.