Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch am eich ymateb unwaith eto, Weinidog. Rwy’n siŵr mai chi fyddai’r cyntaf i gydnabod pwysigrwydd y busnesau llety hunanddarpar hyn yn cefnogi ein cymunedau, o ran y swyddi y maent yn eu creu ac yn eu cynnal a’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i’w cymunedau, ac rwy’n siŵr y byddech hefyd yn cydnabod ac yn derbyn rhywfaint o’u pryderon ynglŷn â'r rheoliadau 182 diwrnod hyn y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac roedd nifer wedi gobeithio y byddai rhai eithriadau synhwyrol i’r premiymau, ond yn amlwg, nid yw hyn wedi digwydd, a chredaf fod angen ailadrodd hynny yma heddiw. Ond yng ngoleuni hyn, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo heddiw i weithio'n agos gyda'r sector hynod bwysig hwn i sicrhau na fydd y busnesau dilys a gweithgar hyn yn cau, a fyddai o ganlyniad yn arwain at golli swyddi, ac felly'n effeithio ar ein cymunedau yma yng Nghymru?