Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, mae fformiwla Barnett, yn rhy aml o lawer, yn cael ei defnyddio fel rheswm eithaf cyfleus, byddai rhai’n dweud, i Lywodraeth Cymru ohirio rhoi polisïau trawsnewidiol ar waith. Mae’r achos diweddaraf o hyn, efallai, yn ymwneud â chyflogau’r sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Oherwydd gwyddom, yn aml iawn, fod y diffyg gweithredu yn Lloegr yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn eistedd ar eu dwylo—byddwn yn dychmygu y byddech yn dweud eich bod, 'yn gorfod eistedd ar eich dwylo'. A ydych chi'n cytuno bod cyllideb ddiweddar Llywodraeth y DU a’r ffiasgo parhaus ynghylch cyllid HS2, a bellach, y penderfyniad hyd yn oed yn fwy hurt ar ddim cyllid canlyniadol i Gymru yn sgil y gwaith Northern Powerhouse Rail, unwaith eto wedi tanlinellu’r hyn y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosto ers tro—fod angen inni newid o'r trefniadau presennol i fformiwla ariannu sy’n seiliedig ar anghenion, a ddarperir drwy swyddfa gyllid teg annibynnol, a fyddai â rhwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau cydbwysedd economaidd tecach ar draws gwledydd a rhanbarthau’r DU, ac wedi'i rhwymo'n gyfreithiol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn arwain at ganlyniadau cyfartal ledled y Deyrnas Unedig?