Rhaglen Buddsoddi i Arbed

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:15, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Gwnaeth Prifysgol Caerdydd waith gyda ni i geisio cael trafodaethau ledled y sector cyhoeddus lle defnyddiwyd y rhaglen buddsoddi i arbed, ac mae wedi'i defnyddio ledled Cymru mewn ystod o ffyrdd i ddeall beth oedd y rhwystrau i weithredu ac ehangu'r prosiectau da hynny a'r dysgu ledled Cymru fel y gellid gwneud y mathau hyn o ymyriadau heb fod angen y cyllid buddsoddi i arbed. Felly, rydym yn dal i ystyried y gwersi o hynny mewn gwirionedd, ac roedd yn ymwneud i raddau helaeth â sicrhau bod yna gyfleoedd i gydweithio a rhannu'r wybodaeth honno. Ond ar hyn o bryd rydym yn archwilio ac yn ystyried sut fydd y gronfa'n gweithredu yn y dyfodol, pa weithgareddau y dylai ganolbwyntio arnynt, a rhan o hynny fydd ystyried y gwersi am y rhwystrau i ehangu arferion da.