Rhaglen Buddsoddi i Arbed

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:14, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Rwy'n gwybod, ar un adeg, ei fod yn cael ei ddefnyddio gan Cyfoeth Naturiol Cymru i lenwi bylchau oherwydd cost yr uno. Ond yn gyffredinol, rwy'n credu bod buddsoddi i arbed yn beth da iawn, ac mae'n gyfle i helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru a chael cymaint ag y gallwn am yr hyn a wariwn. Y cwestiwn sydd gennyf yw hwn: sut mae sicrhau bod yr hyn sy'n gweithio ac sy'n cael ei weld yn gweithio mewn un lle yn cael ei rannu a'i ddilyn gan rannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru, fel y gallwn i gyd elwa yn hytrach na chael rhai llwyddiannau achlysurol yn unig yn lle cael llwyddiannau ar draws y sector cyfan?