Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Felly, hwn mewn gwirionedd oedd y prosiect cyntaf i gael ei gyflawni o dan gytundeb twf y gogledd, fel y gwyddoch, felly rwy'n credu ei fod yn dangos yn glir y gwahaniaeth y gall buddsoddiad y fargen ei wneud yn yr ardal. Ac yn sicr, rwy'n rhannu eich uchelgais i weld gogledd Cymru—a phob rhan o Gymru mewn gwirionedd—yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac rwy'n hapus iawn i hyrwyddo'r uchelgais hwnnw mewn unrhyw ymwneud rhyngof a Llywodraeth y DU. Ond rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi, sy'n amlwg yn arwain ar hyn—. Cafwyd cyfarfod rhyngddo a Gweinidogion y DU a oedd yn canolbwyntio ar gysylltedd digidol, yn enwedig mewn perthynas â'r modd y mae Llywodraeth y DU yn darparu'r Prosiect Gigabit yng Nghymru. Felly, mae'r Gweinidog wedi gofyn am i'w swyddogion gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar hynny.