Bargen Twf y Gogledd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:21, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un o'r prosiectau allweddol ym margen twf gogledd Cymru yw cefnogi'r gwaith yn y ganolfan brosesu signalau digidol ym Mhrifysgol Bangor, lle maent yn datblygu technoleg y genhedlaeth nesaf mewn cysylltedd digidol. Lywydd, ar y pwynt hwn fe wnaf ddatgan buddiant fel aelod di-dâl o fwrdd y prosiect yn y ganolfan brosesu signalau digidol. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod fy mod am weld gogledd Cymru yn dod yn arloeswr byd-eang ym maes technoleg ddigidol, ac i wneud hyn, mae angen cydweithio da gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â phartneriaid academaidd a diwydiannol. Weinidog, a wnewch chi roi diweddariad i'r Siambr heddiw ar y sgyrsiau mae swyddogion Llywodraeth Cymru, yn eich adran chi ac adran Gweinidog yr Economi, wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU am bwysigrwydd buddsoddi mewn prosiectau digidol yng ngogledd Cymru?