Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 22 Mawrth 2023.
Ychydig funudau yn ôl roeddwn i'n gofyn i'r Gweinidog cyllid am gefnogaeth i Ynys Môn yn sgil cau gwaith 2 Sisters Food Group. Mi all arian ychwanegol sy'n dod ar gael rŵan drwy'r bid twf fod yn fodd i roi cefnogaeth i'r sector bwyd yn Ynys Môn rŵan hefyd. Dwi'n eiddgar i weld a oes modd defnyddio'r arian hwnnw i ddelifro'r parc cynhyrchu bwyd—mae'r Gweinidog yn gwybod dwi wedi bod yn gwthio amdano fo ers blynyddoedd—a dwi yn gweld os oes modd, yn erbyn y cloc, creu cais ar gyfer sefydlu pentref bwyd Ynys Môn. Mae'r galw yno, mae Coleg Menai yn dweud eu bod nhw'n barod i'w gefnogi fo, yn gweithio efo'u canolfan dechnoleg bwyd nhw, a'r datblygiad sy'n mynd i fod yn digwydd yng Nglynllifon, sydd hefyd yn cynnwys elfen fwyd. Mi fuasai'n dda cael cefnogaeth y Gweinidog mewn egwyddor i fwrw ymlaen efo hynny, ac unrhyw gefnogaeth y gallai hi a'i swyddogion ei roi. Ond hefyd mi fyddwn i yn gwerthfawrogi addewid y gwnaiff hi bopeth y gall hi i sicrhau, yn sgil cau 2 Sisters, fod tyfu swyddi bwyd yn Ynys Môn wir yn flaenoriaeth.