Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Yn amlwg, rydym wedi cyfarfod o'r blaen ynglŷn â'ch cais am barc bwyd. Rwy'n ymweld â'r ganolfan technoleg bwyd yn Llangefni mewn gwirionedd—yn ystod toriad y Pasg, rwy'n credu—felly byddaf yn sicr yn gweld lle rydym arni mewn perthynas â hynny.
O ran 2 Sisters, fel y dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi. Rwy'n meddwl mai—. Yn anffodus, rwy'n credu y gallem weld beth oedd i ddod pan gyhoeddwyd yr ymgynghoriad, ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth a allwn. Efallai eich bod yn ymwybodol fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymweld yn ddiweddar, ac fel y dywedaf, rwy'n ymweld â'r ganolfan dechnoleg ac ardaloedd eraill yn Llangefni yn ystod toriad y Pasg, felly byddaf yn sicr yn hapus i gael trafodaethau pellach gyda chi ynglŷn â hynny.