Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch. Weinidog, bron i dair blynedd yn ôl, fe wnaethoch sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen adferiad gwyrdd dan arweiniad cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn eu hadroddiad i chi, un o'u prif argymhellion oedd ail-ddychmygu ardaloedd trefol a mannau gwyrdd, gan greu mannau ar gyfer natur wrth gynllunio tirweddau trefol. Ceir llawer o enghreifftiau erchyll o ddatblygiad trefol heb fawr o feddwl am fannau gwyrdd ar gyfer hamdden a llesiant. Pa gamau penodol fyddwch chi'n eu cymryd yn ystod tymor y Senedd hon i fynd i'r afael â hyn yn eich polisïau cynllunio a datblygu? Mae pobl eisiau llefydd i fyw a mannau gwyrdd i'w mwynhau, ac nid dim ond adeiladau i eistedd ynddynt.