Mannau Gwyrdd Cymunedol

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:24, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rydym yn datblygu sawl prosiect yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Soniais am un neu ddau ohonynt yn fy ateb agoriadol i chi; yn sicr, mae Llefydd Lleol ar gyfer Natur wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac mae wedi cael derbyniad da iawn gan ein hetholwyr ledled Cymru. Ac rydym yn parhau i gefnogi ac ehangu gwaith gwerthfawr y rhaglen benodol honno, ac yn adeiladu ar ei llwyddiant. Rydym wedi dyrannu tua £10 miliwn i bob un o'r 22 awdurdod lleol a'r tri pharc cenedlaethol; mae £1.4 miliwn—rwy'n gwybod fod gennych ddiddordeb arbennig ym Mhen-y-bont ar Ogwr—wedi'i ddyrannu i brosiectau yn ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gefnogi'r gwaith o wella natur mannau gwyrdd cymunedol yma yng Nghymru. Mae yna gynlluniau eraill, yn amlwg—rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol iawn o'r rhaglen cyfleusterau cymunedol—ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn yw bod cymunedau eu hunain yn perchnogi mannau gwyrdd.