Diogleu Gwenyn

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 2:40, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Weinidog, gofynnais pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddiogelu ein peillwyr hollbwysig oherwydd ymddangosiad bygythiad newydd, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohono, sef cacynen Asia. Mae'r rhywogaeth oresgynnol hon yn ysglyfaethu gwenyn mêl brodorol ac o ganlyniad, mae'n achosi pryder difrifol, gan fod nifer o achosion wedi'u cofnodi yn ne Lloegr. Gydag adroddiadau'n cofnodi dirywiad amcangyfrifedig o 23 y cant yn niferoedd gwenyn mêl yng Nghymru, mae angen inni fod yn wyliadwrus o'r bygythiad newydd hwn. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi dweud ei bod yn gwbl hanfodol fod unrhyw un sy'n gweld cacynen Asia yn rhoi gwybod cyn gynted â phosibl er mwyn gallu gweithredu'n gyflym. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn. A wnewch chi amlinellu pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i atal y bygythiad hwn rhag gwaethygu?