Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 22 Mawrth 2023.
Yn sicr, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda DEFRA. Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld cacynen Asia yng Nghymru, ac nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw un wedi gweld un yn Lloegr ers cryn dipyn o amser mewn gwirionedd—yn sicr, nid eleni. Ond pan fo rhywun yn gweld un, yn amlwg mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn ac maent yn mynd i'r afael â'r mater yn gyflym iawn hefyd, ac nid yw'n rhywbeth rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Nid yw'n rhywbeth rwy'n ei drafod yn aml gyda DEFRA, ond fel rwy'n dweud mae swyddogion yn gweithio'n agos iawn i sicrhau, os oes rhywun yn gweld un, fod camau gweithredu'n cael eu cymryd.