Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 22 Mawrth 2023.
Ie, diolch, ac yn sicr mae'n swnio'n brosiect gwych ym Maendy ac os yw'r Prif Weinidog yn mynychu ddydd Sadwrn, rwy'n siŵr y bydd y digwyddiad yn llwyddiannus iawn. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn eich bod chi'n gweithio gyda chymunedau ynglŷn â'r hyn y maent ei eisiau yn eu mannau agored a'u mannau gwyrdd, oherwydd wedyn rwy'n meddwl y cânt eu gwerthfawrogi fwy, a chânt eu parchu fwy hefyd. Felly, yn sicr, drwy weithio'n agos gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, byddwn yn bendant yn edrych ar beth arall y gallwn ei wneud ledled Cymru.