Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 22 Mawrth 2023.
Weinidog, fel y dywedwch, mae grwpiau cymunedol yn gwneud gwaith da iawn yn gwyrddu ein cymunedau lleol, ac mae hyn yn hanfodol, onid yw, wrth fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd, cysylltu pobl yn agosach â natur, a chael cefnogaeth boblogaidd i'r newid sydd ei angen arnom os ydym yn mynd i ymateb o ddifrif i heriau amgylcheddol y dyfodol? Rwy'n credu bod un enghraifft o hynny i'w gweld yn ardal Maendy yn Nwyrain Casnewydd. Ddydd Sadwrn, bydd y Prif Weinidog yn dod draw i agor safle Triongl, sy'n ymwneud â gwyrddu'r gymuned leol—mae yna gaffi cymunedol, mae yna le perfformio; mae gwaith da dros ben wedi'i wneud. Felly, Weinidog, a fyddwch chi'n parhau i edrych ar sut y gallwch chi gefnogi'r grwpiau cymunedol hyn ledled Cymru, gyda chasglu sbwriel, gyda phlannu, a chyda'u gweithgarwch gwyrdd?