Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 22 Mawrth 2023.
Wel, mae arnaf ofn na roddodd yr ateb hwnnw lawer iawn o obaith i mi, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae £180 miliwn ychwanegol yn dod i Gymru, a hynny ar ben—ar ben—y £600 miliwn a gyhoeddwyd yn natganiad yr hydref y llynedd. Felly, dyna £780 miliwn, £0.75 biliwn ychwanegol, sydd gennych i'w wario yn y flwyddyn ariannol 2023-24. Ac mae gennym sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o fuddsoddi ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, gan godi'r gwastad ym mhob cwr o'r wlad. Hoffwn pe bai gennym Lywodraeth Cymru sy'n benderfynol o godi'r gwastad ledled Cymru, oherwydd, yn anffodus, nid yw gogledd Cymru'n cael ei gyfran deg a chaiff ei adael ar ôl yn gyson.
Nawr, gwyddom nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i fuddsoddi'r arian ychwanegol er mwyn ymestyn y cynnig gofal plant am ddim i bob plentyn dan dair oed. Felly, a gaf fi ofyn i chi eto: beth ydych chi'n dadlau drosto yn y trafodaethau a gewch gyda chyd-Weinidogion o ran buddsoddi yng ngogledd Cymru? Rhowch eich rhestr siopa i mi.