Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Mawrth 2023.
Mae'n hanfodol fod y ddarpariaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r hyn y byddem ei eisiau ar gyfer ein hetholwyr ar draws gogledd Cymru. Fy nealltwriaeth i o'r gwaith a gyflawnodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw mai dyma'r ffordd orau o gynnig darpariaeth. Rwy'n cytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud am yr iaith; mae'n bwysig iawn fod hynny'n rhan o'r ystyriaeth. Ond rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn bragmatig iawn yma a dweud na allwn gael unedau mamau a babanod ym mhob ysbyty, yn anffodus. Nid oes gennym gapasiti na gallu i wneud hynny. Yr hyn rwyf ei eisiau i fy etholwyr, gan eich bod wedi gofyn i mi'n benodol, ac fel Gweinidog gogledd Cymru, yw i'n babanod gael y mynediad gorau yn y ffordd orau sy'n bosibl, ac rwy'n credu mai'r ffordd o sicrhau hynny yw drwy gael uned arbenigol.