2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.
6. Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi'u cynnal gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am uned mamau a babanod i’r gogledd a fyddai'n gwasanaethu pobl Arfon? OQ59297
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag uned mamau a babanod i bobl Arfon. Wrth gwrs, rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau i wella mynediad at ddarpariaeth arbenigol uned mamau a babanod i'r bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru.
Yn ôl datganiad diweddar gan y bwrdd iechyd lleol, maen nhw’n gweithio efo NHS England i ddarparu uned yng Nghaer, gyda dau wely ynddi ar gyfer mamau o bob rhan o’r gogledd. Dwi’n deall mai yn Ysbyty’r Countess of Chester y bydd yr uned yma. A fedrwch chi gadarnhau hynny?
Mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd gan y Comisiwn Ansawdd Gofal, nodwyd fod gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty’r Countess of Chester yn annigonol, a bod diffyg staff a chyfarpar yn broblemau a oedd angen sylw, ynghyd â phroblemau arweinyddiaeth yn yr ymddiriedolaeth. A ydych chi’n meddwl bod sefydlu dau wely dros y ffin yn Lloegr ar gyfer mamau fyddai angen teithio yn bell, a hynny mewn ysbyty sydd â track record gwael o ran mamolaeth, yn gynllun doeth a synhwyrol yn eich barn chi fel Gweinidog y gogledd?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod yna fynediad i'r babanod hyn at y gofal gorau sydd ar gael, a fy nealltwriaeth i yw bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal asesiad o'r galw yn y gogledd ac wedi dod i'r casgliad fod angen ariannu dau wely mewn uned mamau a babanod, ac o fewn eu cynlluniau, daethant i'r casgliad mai'r dull mwyaf priodol o ddarparu hyn oedd drwy weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a GIG Lloegr er mwyn datblygu cynlluniau ar gyfer yr uned a rennir.
A gaf fi groesawu'r cwestiwn gan Siân Gwenllian a rhoi clod iddi hefyd am ei dyfalbarhad ar y mater hynod bwysig hwn i bobl y gogledd? Hoffwn ehangu ar y cwestiwn a ofynnwyd eisoes, Weinidog, fel Gweinidog gogledd Cymru ac fel Aelod yn y rhanbarth hefyd wrth gwrs, tybed pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd anghenion penodol pobl gogledd Cymru, boed yn ymwneud ag iaith neu'n ymwneud â'r pellter y mae'n rhaid ei deithio i gael mynediad at y gwasanaethau hyn, yn enwedig o ystyried breuder posibl y bobl sydd angen cael mynediad at y gwasanaethau hyn—. Tybed pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y bydd y ddarpariaeth arfaethedig yn addas ar gyfer pobl gogledd Cymru.
Mae'n hanfodol fod y ddarpariaeth arfaethedig yn cyd-fynd â'r hyn y byddem ei eisiau ar gyfer ein hetholwyr ar draws gogledd Cymru. Fy nealltwriaeth i o'r gwaith a gyflawnodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw mai dyma'r ffordd orau o gynnig darpariaeth. Rwy'n cytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud am yr iaith; mae'n bwysig iawn fod hynny'n rhan o'r ystyriaeth. Ond rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn bragmatig iawn yma a dweud na allwn gael unedau mamau a babanod ym mhob ysbyty, yn anffodus. Nid oes gennym gapasiti na gallu i wneud hynny. Yr hyn rwyf ei eisiau i fy etholwyr, gan eich bod wedi gofyn i mi'n benodol, ac fel Gweinidog gogledd Cymru, yw i'n babanod gael y mynediad gorau yn y ffordd orau sy'n bosibl, ac rwy'n credu mai'r ffordd o sicrhau hynny yw drwy gael uned arbenigol.