Prosiect Down to Earth

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:52, 22 Mawrth 2023

Diolch yn fawr, Trefnydd. Mae nifer o etholwyr o ardal yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd wedi cysylltu â fi ynglŷn â phrosiect Down to Earth. Beth maen nhw eisiau gwybod a beth dwi eisiau gwybod hefyd yw a all y Gweinidog esbonio pam mae arian gwledig yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ar un o fannau gwyrdd y brifddinas, yng ngogledd y brifddinas, a sut mae ardal drefol fel ein prifddinas yn gymwys i arian y gronfa datblygu gwledig. Diolch yn fawr.