Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 22 Mawrth 2023.
Fe fyddwch yn ymwybodol fod meini prawf llym iawn o gwmpas yr arian hwn. Mae'r prosiect Down to Earth yn cael ei ariannu drwy gydweithrediad cynlluniau LEADER a rhaglen datblygu gwledig yr UE, ac yn sicr mae'n gallu gwneud hynny. Rydych yn ymwybodol iawn, rwy'n siŵr, o'r hyn y bydd y prosiect yn gweithio arno—dau gynllun penodol. Mae prosiectau'r rhaglen datblygu gwledig yn ddarostyngedig i amodau arbennig, ac fel y dywedais, bydd hyn yn cael ei asesu. Mae'n rhaid iddo gael ei asesu gan asesydd allanol annibynnol o fewn chwe mis i ddyddiad cychwyn y prosiect. Nid oes unrhyw bryderon wedi cael eu dwyn i fy sylw. Os oes gennych unrhyw beth yr hoffech ei godi gyda mi, ysgrifennwch ataf os gwelwch yn dda.