Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 22 Mawrth 2023.
Weinidog, mae sicrhau bod gwariant y rhaglen datblygu gwledig yn cael ei ddyrannu a'i ddarparu'n effeithiol yn allweddol i sicrhau ei fod yn cynnig gwerth am arian, gan gefnogi datblygiad cymunedau gwledig ar yr un pryd. Yng nghyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig, fe ddywedoch chi na fyddwch chi'n sefydlu bwrdd cynghori ar ddatblygu gwledig mwyach i gynghori ar gynnwys a darpariaeth y rhaglen cymorth gwledig ddomestig. Rwyf am bwysleisio pwysigrwydd trefniadau adrodd ar gyfer cyllid datblygu gwledig newydd i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd er mwyn sicrhau monitro effeithiol, yn enwedig o gofio adroddiad damniol Archwilydd Cyffredinol Cymru fod cyllid y rhaglen datblygu gwledig wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru drwy daliadau uniongyrchol heb unrhyw gystadleuaeth. Felly, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r ymrwymiadau, dyraniadau cyllidebol, a'r mesurau arfaethedig, a gwariant ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol yn y cyfnod pontio? Diolch.