Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 22 Mawrth 2023.
Wrth gwrs, mae Gweinidog iechyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddwyn byrddau iechyd i gyfrif, ac mae'n rhaid iddi ddatgan ei barn, fel y mae hi wedi'i wneud—[Torri ar draws.] ac mae hi'n gwneud hynny, rwy'n cytuno, Jenny; mae'n gwneud ei barn yn hysbys—pan nad oes ganddi hyder ynddynt. Ac yn yr un modd, i'r rhai ohonom yn y Siambr hon nad ydym yn y Llywodraeth, ein gwaith ni yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif a lleisio ein pryderon pan nad oes gennym hyder mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Weinidogion.
Ni ellir gwadu bod y pandemig wedi ail-addasu’r hyn y gallwn ei ddisgwyl gan y GIG, ond nid yw'n gyd-ddigwyddiad nac yn ffaith y gellir ei hanwybyddu—ac mae'n ffaith—fod Cymru ymhell y tu ôl i Loegr a'r Alban gyda'r adferiad mewn amseroedd aros—[Torri ar draws.] Mae'n wir; gallaf glywed rhywun yn sibrwd 'Nid yw'n wir' y tu ôl i mi. Mae hyn hefyd yng nghyd-destun y ffaith bod Cymru wedi mynd i mewn i'r pandemig mewn cyflwr llawer gwaeth na gwledydd eraill y DU.
Nawr, rydym yn aros am ffigurau yfory ar gyfer mis Ionawr, ac rwyf am gymharu Cymru a Lloegr i ddangos i ba raddau y mae cleifion yng Nghymru yn cael cam. Rwy'n gwneud hynny—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, Jenny.