Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 22 Mawrth 2023.
Wel, yn gyntaf oll, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi, Jenny. Ni ddywedais unrhyw beth am gael 22 o fyrddau unigol; yr hyn a ddywedais yw nad yw gofal sylfaenol a gofal eilaidd yn gweithio'n dda gyda'i gilydd, ac rydym wedi cael problem ddifrifol gyda hynny, ac nid yw'r bwrdd mawr iawn yng ngogledd Cymru wedi gweithio. Fy nghyngor i yw cadw Betsi Cadwaladr ar gyfer swyddogaethau cefn swyddfa a gofal sylfaenol, nid y 22, a chyflwyno trefniadau newydd ar gyfer gofal eilaidd yn seiliedig ar y tri phrif ysbyty. Bydd angen i'r ysbytai gydweithio, gyda'u bwrdd a'u strwythur rheoli eu hunain, gan leihau'r bwlch rhwng y bwrdd a'r ward.
Rwyf am ddarllen e-bost a gefais ddydd Gwener, sy'n dangos bod y problemau ym maes iechyd ymhell y tu hwnt i reolaeth y Gweinidog:
'Rydym wedi ffonio doctoriaid Llansamlet i geisio cael apwyntiad i fy nhad-cu bob dydd, ddwywaith y dydd, ers 27 Chwefror yn sgil haint ar y frest gan fod ganddo glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Ni lwyddasom i fynd drwodd i gael apwyntiad o gwbl, er inni ffonio ddwywaith y dydd. Roedd ei anadlu'n dirywio, a chan nad oedd yn cael y meddyginiaethau roedd eu hangen, am ei fod yn ddioddefwr COPD, roedd yn rhaid inni fenthyg nebiwleiddiwr a meddyginiaeth i'w helpu. Roedd yn anghyfforddus ac yn bryderus ynglŷn â mynd i’r adran ddamweiniau ac achosion brys. O'r diwedd, llwyddasom i siarad â rhywun ar 6 Mawrth. Cafodd wybod, oherwydd ei fod yn ysmygwr, na fyddent yn rhoi gwrthfiotigau.
'Yn hwyrach y noson honno, roedd mor sâl, bu'n rhaid inni ddeialu 111. Yna daeth parafeddyg i'r tŷ i'w asesu, darparu pecyn achub o wrthfiotigau a steroidau. Cawsom ein cynghori gan y parafeddyg i ffonio'r feddygfa y diwrnod canlynol i ofyn i feddyg ddod draw i'w archwilio a rhagnodi rhagor o wrthfiotigau a steroidau. Fel y cynghorwyd, fe wnaethom ffonio'r meddygon, ond ni lwyddasom i fynd ymhellach nag ymholiadau cyffredinol, lle gwnaethom anfon adroddiad y parafeddyg gan nad yw'r feddygfa'n defnyddio system ar-lein, felly dyna oedd y ffordd gyflymaf o gael yr adroddiad i'r feddygfa. Fe ddywedodd ymholiadau cyffredinol wrthym y byddai meddyg yn ffonio'n ôl. Fe wnaethom roi gwybod iddynt ei fod angen mwy o feddyginiaethau at yr hyn a gafodd yn ei becyn achub, a gofyn i feddyg alw'n ôl cyn gynted a phosibl i ragnodi hynny. Yn anffodus, ni ffoniodd yr un meddyg yn ôl. Fe wnaethom ffonio eto yn y prynhawn i weld a oedd y doctor yn mynd i ffonio'n ôl. Dywedwyd wrthym am aros. Ni chawsom alwad yn ôl. Fe wnaethom ffonio eto ar 8 Mawrth—unwaith eto ni chawsom alwad yn ôl. Fe wnaethom alw eto ar 9 Mawrth, bore a phrynhawn— a dim ond hanner diwrnod o'i steroidau oedd ganddo ar ôl—
'fe wnaethom ofyn yn y fferyllfa, ond nid oeddent wedi cael gwybod bod ei bresgripsiwn wedi cyrraedd.
'Ar 10 Mawrth, fe wnaethom ffonio'r doctor eto ac o'r diwedd fe gawsom afael ar rywun a oedd yn fodlon gwrando arnom. Anfonwyd meddyg allan i'w asesu. Rhoddodd y meddyg bresgripsiwn i ni ar gyfer ei wrthfiotigau a'i steroidau, ynghyd â meddyginiaeth nebiwleiddiwr. Dywedodd y meddyg ei fod angen mynd i'r ysbyty y diwrnod hwnnw. Cafodd ei dderbyn i'r ysbyty, ac erbyn 2 p.m. cafodd wybod bod hanner ei ysgyfaint wedi ymgwympo. Cafodd hylif ei ddraenio ohono. Roeddwn yn gynddeiriog oherwydd gellid bod wedi osgoi'r cyfan pe bai meddyg, ar 27 Chwefror, wedi bod yn barod i siarad ag ef. I ychwanegu at hyn, pan ddaeth y meddyg allan, ni allent ddweud pryd oedd ei feddyginiaeth wedi'i hadolygu ddiwethaf. Fe wnaeth y meddyg fynd â thabledi dŵr ganddo, gan na ddylai fod wedi bod yn eu cymryd, ond roedd wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd.'
Dyma sy'n digwydd. Nid bai'r Gweinidog yw hyn. Mae yna broblemau gweinyddol o fewn y gwasanaeth iechyd. Mae'r syniad y bydd creu sefydliadau mwy yn gwella'r sefyllfa, mae'n anodd credu bod pobl yn dal i ddweud hynny, gyda'r holl brofiad rydym wedi'i gael yn dangos nad yw'r sefydliadau mwy hyn yn gweithio. Ond byddwn yn dal ati i greu rhai mwy, oherwydd fe fyddant yn gweithio yn y pen draw.
Yn olaf, rwy'n credu bod angen inni gael sefydliadau iechyd o'r maint cywir a chefnogi'r Gweinidog, sydd, yn fy marn i, yn gwneud gwaith da iawn. Gofynnaf i'r Ceidwadwyr dynnu'r cynnig hwn yn ôl. Ni fydd yn cyflawni unrhyw beth, ac rydym yn gweithio gyda'r Gweinidog iechyd, sy'n ceisio gweithio gyda ni.