Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 22 Mawrth 2023.
Rwyf am gwestiynu eich argymhelliad, Mike, oherwydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud yw, os ydych eisiau rhannu gofal sylfaenol a gofal eilaidd, byddai angen ichi sefydlu 22 o sefydliadau gofal sylfaenol lleol. Ni fyddai hynny ond yn gwneud y broblem yn llawer gwaeth. Mae gennym eisoes lawer gormod o sefydliadau yn y wlad hon, felly mae'n rhaid inni weithio gyda'r system integredig sydd gennym a sicrhau bod y byrddau iechyd yn gwthio'r arian i lawr i ofal sylfaenol.