6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:35, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Gallwn gyfeirio y prynhawn yma at gatalog o fethiannau yn y GIG o dan oruchwyliaeth y Llywodraeth hon, y Gweinidog presennol a’i rhagflaenwyr: yr amseroedd aros gwaethaf erioed; y methiant ystyfnig i wneud rhywbeth gwahanol pan fu'n amlwg nad oedd yr ymdrechion i dorri'r amseroedd aros hynny'n mynd i lwyddo, a hynny o bell ffordd; argyfwng amseroedd aros ambiwlans; prinder staff; agweddau tuag at bobl sy'n gweithredu'n ddiwydiannol; llanast y gwasanaeth deintyddol, a drafodwyd yn y Senedd eto yr wythnos diwethaf. Ond y ffordd y gwnaeth y Gweinidog ymdrin â mater Betsi Cadwaladr ddiwedd y mis diwethaf oedd ei diwedd hi i ni ar y meinciau hyn, a dyna a wnaeth inni alw arni i ystyried ei swydd neu i’r Prif Weinidog ei diswyddo, galwadau na chafodd eu gwneud ar chwarae bach. Yn y cyd-destun hwnnw, ac er ei bod ychydig wythnosau yn ddiweddarach bellach, byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn yma heddiw.

Ond yr hyn sydd bwysicaf i mi y prynhawn yma yw'r cyfle i bwysleisio'r hyn sydd yn y fantol yma, yr hyn rydym yn ymladd amdano mewn perthynas â dyfodol y GIG. Joyce Watson.