Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch am dderbyn ymyriad. Rwyf braidd yn ddryslyd ynghylch yr hyn rydych yn gobeithio'i gyflawni yma, felly efallai y gallwch ei egluro. A allech egluro i mi sut y credwch y bydd y gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn cael eu gwella dros nos drwy gael gwared ar y Gweinidog iechyd? Nid ydych yn egluro hynny. Neu ai brygowthan gwleidyddol yn unig yw hyn?