Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 22 Mawrth 2023.
Wel, mae’r cynnig ger ein bron heddiw, yn fy marn i, yn gwbl ddiangen, ac mae’n rhaid imi ddweud, yn ymyrraeth ddialgar. Arwydd arall eto o wrthblaid nad oes diddordeb ganddi mewn unrhyw beth, yn anffodus, ond bachu pennawd hawdd. Yn y broses, yr hyn a wnânt mewn gwirionedd yw gwneud cam â'n gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl sy'n dibynnu arnynt oherwydd eu methiant i ymgysylltu â'r heriau gwirioneddol y gwyddom ein bod yn eu hwynebu. Er enghraifft, gwyddom fod ein poblogaeth yn hŷn yng Nghymru; gwyddom fod ein hetifeddiaeth ddiwydiannol yn dod â gwaddol o salwch ac afiechyd yn ei sgil. Gwyddom fod ymateb i bandemig y coronafeirws a 13 mlynedd o bolisïau aflwyddiannus gan Lywodraeth y DU, sydd wedi cynyddu tlodi ac wedi cynyddu anghydraddoldebau iechyd, wedi rhoi pwysau digynsail yn sgil hynny ar ein GIG yng Nghymru.
Gwyddom fod hyn yn arwain at bobl yn gorfod aros am gyfnod hirach i gael triniaeth nag y mae unrhyw un ohonom yn gyfforddus ag ef. Ond gwyddom hefyd fod y Gweinidog iechyd a Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda’r cyrff sy’n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd, yn gwneud popeth a allant i leihau amseroedd aros. Gwyddom fod hyn yn dwyn ffrwyth: mae rhestrau aros yng Nghymru wedi lleihau am yr ail fis yn olynol.
Mae ymyriadau uchelgeisiol newydd wedi'u cynllunio i annog y cynnydd hwn ymhellach, megis y ganolfan diagnosteg a thriniaeth newydd a gyhoeddwyd gan y Gweinidog y mis diwethaf. Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, a'i datblygu gan dri bwrdd iechyd yn gweithio ar y cyd ac wedi'i lleoli yn Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf, gyda dull sy'n canolbwyntio ar gynnwys clinigwyr a chleifion, mae gan y ganolfan honno gapasiti i ddarparu gwasanaethau arloesol i filoedd o gleifion bob blwyddyn, a gallai hyn nid yn unig leihau, ond mewn gwirionedd gallai ddileu ôl-groniadau i gael mynediad at driniaeth i bobl yng Nghwm Cynon ac ardaloedd cyfagos. Ac os yw'n llwyddo i wneud hynny, mae'n fodel y gellir ei gyflwyno ledled Cymru.
Roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld â phrosiect arall yn fy etholaeth ar ddechrau’r flwyddyn i weld menter arloesol arall yn cael ei rhoi ar waith gan y Gweinidog. Ymwelais â Gwynns Opticians yn Aberdâr i gael gwybod am newidiadau i'r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae optegwyr lleol yn cael eu hyfforddi i ddod yn bresgripsiynwyr annibynnol, sy’n gallu gwneud diagnosis a thrin cyflyrau difrifol iawn, fel glawcoma a dirywiad macwlaidd, ac mae hyn yn dileu’r angen i gleifion gael eu hychwanegu at restrau aros ysbytai ac yn hytrach, yn caniatáu triniaeth mewn lleoliad lleol. Mae’r diwygiad hwn i’r GIG, sy'n lleddfu’r pwysau ar wasanaethau, yn grymuso ymarferwyr ac yn sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at ofal cyflym, diogel ac arbenigol yn flaenoriaeth i’r Gweinidog iechyd, yn ogystal â chydnabod gwerth y gweithwyr proffesiynol sy’n gyfrifol am ddarparu’r gwasanaethau hyn.
Rwy'n falch fod gennym nifer gyfrannol fwy o feddygon a nyrsys yng Nghymru nag sydd ganddynt yn Lloegr; ein bod yn hyfforddi mwy o feddygon a nyrsys; ein bod yn talu’r cyflog byw gwirioneddol i holl weithwyr y GIG. A rhag inni anghofio, mae’r Gweinidog iechyd hefyd yn gyfrifol am wasanaethau cymdeithasol. Gyda’i thîm, mae’r Gweinidog wedi cyflawni ein haddewid maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021 i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i bob gweithiwr gofal yng Nghymru. Ac mae hwn yn gyflawniad aruthrol, yn newid yn sylweddol ein canfyddiad o'r hyn sy'n rôl hanfodol gyda'n poblogaeth sy'n heneiddio, a sicrhau bod gwaith gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y cyflog teg y dylent allu ei ddisgwyl. Felly, ar ran fy etholwyr sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, ar ran pob un o'r menywod yng Nghymru sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, ac ar ran fy etholwyr sy'n dibynnu ar ofal cymdeithasol, hoffwn ddweud, 'Diolch, Weinidog.'
Am weddill fy amser, hoffwn newid ffocws a chynnig persbectif amgen. Mae ein Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn ei swydd ers etholiad mis Mai 2021. Yn y cyfnod hwnnw, mewn cyferbyniad, mae pedwar unigolyn gwahanol wedi bod yn Ysgrifenyddion iechyd yng Nghabinet y DU.
Yn gyntaf, wrth gwrs, roedd Matt Hancock, a ymddiswyddodd am iddo anwybyddu'n drahaus y rheoliadau coronafeirws yr oedd yn gyfrifol amdanynt; llywyddu dros gyfundrefn a roddodd biliynau i'w ffrindiau mewn contractau cyfarpar diogelu personol amheus; cyfnewid gwasanaeth cyhoeddus am gyfle i fod yn seren teledu realiti; ac ennill drwg-enwogrwydd pellach drwy ei negeseuon WhatsApp cywilyddus a ddatgelwyd yn answyddogol. Yna, mae gennym Sajid Javid. Mae'n debyg mai'r peth gorau a wnaeth fel Ysgrifennydd iechyd oedd cyfrannu at gael gwared ar Boris Johnson—cael gwared ar Boris Johnson am anwybyddu'n drahaus y rheoliadau coronafeirws yr oedd yn gyfrifol amdanynt. Yna, cawsom Therese Coffey, a'i chyfraniad hi oedd nodi ar goedd ei hymrwymiad i rannu meddyginiaeth bresgripsiwn yn anghyfreithlon. A bellach, mae gennym Stephen Barclay, a ddisgrifir mewn cyfnodolyn gwasanaeth iechyd fel:
'Hunllef wirioneddol, dialgar, haerllug, bwli, gelyniaethus i'r GIG a'i holl waith, micro-reolwr ar y pethau anghywir'.
Dyna sydd gan yr wrthblaid hon i’w gynnig. Dyna pam na fydd pobl Cymru byth yn ymddiried ynddynt i redeg y GIG, a dyna pam y byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw.