Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch am dderbyn yr ymyriad. Sut y byddech yn ymateb i'r sylw hwn gennyf fi—nad ydych, drwy wneud hyn heddiw a chefnogi'r cynnig hwn, yn chwarae dwy ochr y ffens yma? Ar y naill law, rydych yn llwyr gydnabod yr anawsterau o ran y diffyg buddsoddiad yng Nghymru, amhosibilrwydd yr hyn y ceisir ei wneud yma yn eich barn chi, ond nawr, heddiw, rydych yn cefnogi agenda sy’n bersonol ac yn wleidyddol.