Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 22 Mawrth 2023.
Ni fydd y Gweinidog yn cael ei diswyddo heddiw gan y bydd Llafur yn ennill y bleidlais hon. Yr hyn rwyf wedi’i ddweud yw fy mod i heddiw yn gweld pwysigrwydd cael y cyfle i bwysleisio’r hyn rydym yn ymladd drosto. Ac i mi, mae'n ymwneud ag atebolrwydd. A byddwn yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth a’r rheini ar y meinciau Llafur yn croesawu’r cyfle i ddangos eu bod am fod yn atebol. Mae angen inni wybod bod gennym Lywodraeth, fod gennym Weinidogion, sy’n atebol ac sy’n dymuno bod yn atebol. Mae gwasanaethu mewn Llywodraeth yn anrhydedd. Mae'n gyfrifoldeb enfawr hefyd, a heb os, mae'n swydd anodd. Ond ni ellir osgoi cyfrifoldeb am ei bod yn swydd anodd, ac mae cyfaddef pan fyddwch yn gwneud pethau'n anghywir yn rhan bwysig o'r broses o geisio atebolrwydd.
Nawr, nodaf fod ymateb Llafur i’r bleidlais y prynhawn yma wedi'i ddyfynnu ar wefan newyddion y BBC heddiw: dywedodd Llafur Cymru fod Ms Morgan yn gwneud gwaith gwych. Nawr, gwn mai dim ond gwleidyddiaeth yw hynny, a dyna'r perygl pan fydd cynnig o ddiffyg hyder fel hwn yn cael ei gyflwyno, neu'n wir, pan gafwyd galwad braidd yn ddidaro gan Aelod Ceidwadol arall ddoe am ddiswyddo Gweinidog arall: rydym yn encilio i'n ffosydd gwleidyddol. Ond mae'n rhaid inni geisio codi ohonynt rywsut. Felly, pam y dywedais—[Torri ar draws.] Felly, pam y dywedais rai wythnosau yn ôl fod angen dechrau newydd ym maes iechyd? Dyma fy nghyfle i egluro.
Rwy’n mynd i droi at eiriau cyn-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mark Polin, sy'n ysgrifennu yn y Daily Post heddiw. Dywedais fy mod am bwysleisio'r hyn sydd yn y fantol, a chredaf ei fod yn gwneud hynny'n anhygoel o rymus heddiw. 'Yn ôl unrhyw fesur', meddai,
'mae cleifion ledled Cymru, ac yn enwedig yn y gogledd, yn cael eu peryglu gan system GIG sy'n ddiffygiol dros ben, ac sydd, gellir dadlau, wedi torri.'
Ac ar fater allweddol atebolrwydd, cyfeiria’n benodol at y datganiad yn y Senedd gan y Gweinidog iechyd ar 28 Chwefror, ac mae'n dweud,
'cymerodd y Gweinidog Iechyd ran yn yr hyn na ellir ond ei ddisgrifio fel ymarfer i geisio ymbellhau ei hun, ei llywodraeth a'i swyddogion oddi wrth unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw beth i'w wneud â gwella gofal iechyd ledled Cymru, yn ôl pob tebyg, ac yn enwedig yma yn y gogledd.'
A dyma sydd wrth wraidd y mater. Cofiwch eiriau'r Gweinidog ei hun yn y cyfweliad gyda'r BBC am fwrdd Betsi Cadwaladr: 'Nid fy ngwaith i yw cael gafael ar y sefyllfa.' Mae Mark Polin yn mynd rhagddo:
'Mae angen i'r llywodraeth a'r gweinidog iechyd hefyd roi'r gorau i feio eraill am fethiannau a dechrau derbyn ac arddangos cyfrifoldeb yn hytrach nag esgusodion.'
Geiriau damniol, ond rhai sy’n adleisio sylwadau rwyf fi ac eraill wedi’u gwneud yn y Siambr hon droeon, gan fod patrwm yma. Mae hon yn Weinidog ac mae hon yn Llywodraeth sydd efallai'n credu bod ganddynt weledigaeth ar gyfer dyfodol y GIG yng Nghymru, ond os felly, mae bellach yn weledigaeth anobeithiol o aneglur, wedi’i phylu gan y gwaith diddiwedd o orfod ymdrin ag un broblem ar ôl y llall, ac yn amddifad o syniadau newydd i'w gwireddu. Iawn.