Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 22 Mawrth 2023.
Mae'n debyg taw Gustavo Petro wnaeth ddweud taw'r ffordd o adnabod gwlad ddatblygedig ydy nid trwy ffeindio rhywle lle mae gan y bobl dlawd geir ond dod o hyd i rywle lle mae'r bobl gyfoethog yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. A dyna ydy crux ein dadl y prynhawn yma, mewn ffordd. Dyw e ddim yn unig yn ddadl am gwestiynau brys ynglŷn ag ariannu trafnidiaeth gyhoeddus; mae hefyd cwestiynau ynghlwm wrth hyn i gyd—cwestiynau sylfaenol am y lefel o barch mae ein cymdeithas yn ei roi i drafnidiaeth gyhoeddus. Rŷn ni fel gwlad ar siwrnai tuag at net sero erbyn 2035. Mae angen inni fod ar y siwrnai yna, ond bydd y bont yna ond yn groesadwy os ydy'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn dod yn norm yn ein bywydau pob dydd. Felly, dyna'r cyd-destun y mae'n rhaid inni osod ein dadl y prynhawn yma ynddo.
Ond, gwnaf i droi at bwyntiau penodol ein cynnig, Llywydd, oherwydd allwn ni ddim cael y drafodaeth lawn yma heb fod y diwydiant bysiau yn bodoli, ac mae hyn am fodolaeth, am oroesiad y diwydiant. Mae ein cynnig yn ffocysu ar yr angen am sicrwydd ar gyfer y diwydiant yng Nghymru—sicrwydd a fydd yn arbennig o bwysig i gwmnïau bach, y rhai heb arian wrth gefn, y rhai teuluol, y rhai y bydd ein cymunedau yn ddibynnol arnynt. Rŷn ni’n gofyn am sicrwydd am faint o arian ychwanegol fydd ar gael i helpu'r diwydiant, a hefyd i wybod am faint o amser bydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael. Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys am o leiaf 18 mis, achos does dim sicrwydd ar hyn o bryd, a dydy darparwyr ddim yn gallu cynllunio ymhellach na’r mis rŷm ni ynddo. Ers i ni glywed fod dyfodol y cynllun brys, neu BES, o dan fygythiad, adeg y gyllideb, mae estyniad o dri mis yn unig wedi cael ei gynnig. Wrth gwrs, mae'r estyniad i'w groesawu, ond nid yw'r amser, yn anffodus, yn ddigonol i roi'r sicrwydd yna. Nawr, wrth gwrs, mae angen trafodaeth am ddyfodol cynaliadwy y diwydiant, sicrwydd am arian sydd ddim dim ond yn cael ei ystyried fel rhywbeth brys, ac mae ein cynnig yn cyfeirio at hynny hefyd. Ond y cyfnod nawr sy’n achosi’r pryderon mwyaf.
Fel bydd yn hysbys i nifer ohonom sydd wedi clywed yn uniongyrchol gan y diwydiant bysiau yn ein hardaloedd, dydy’r cyfnod eithriadol o fyr yma—tri mis—ddim yn ddigonol i weithredwyr bysiau gynnal gwasanaethau yn y tymor hir. Y perygl, wrth gwrs, ydy y bydd darparwyr yn penderfynu cael gwared ar y teithiau hynny sydd ddim yn fasnachol buddiol, ond sydd, gwaetha’r modd, yn deithiau lle mae nifer o drigolion yn dibynnu arnynt i fyw bywyd llawn—i gyrraedd y coleg, neu’r gwaith, neu’r ysbyty, neu i weld teulu neu ffrindiau.
A dyma’r peth, Llywydd: nid dadl ar gyfer achub y diwydiant bysiau yn unig ydy hon. Mae’n ddadl sy’n ffocysu ar yr angen i warantu ffyrdd trigolion Cymru o fyw. Mae bron i 80 y cant o siwrneiau trafnidiaeth cyhoeddus yn digwydd trwy ddefnyddio bysiau. Mae dyfodol ein diwydiant bysiau yn gwestiwn o gyfiawnder cymdeithasol. Nid dadl oeraidd am strwythurau ac arian ac isadeiledd ydy hon, ond dadl frys am sicrhau tegwch i’n cymunedau.