7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau

– Senedd Cymru ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:27, 22 Mawrth 2023

Eitem 7 sydd nesaf, felly. Dadl Plaid Cymru ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yw'r ddadl yma, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig.

Cynnig NDM8229 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod tystiolaeth ysgrifenedig y Llywodraeth i bwyllgorau craffu'r Senedd ar y dyraniadau o fewn pob prif grŵp gwariant wedi dweud y byddai'r £28 miliwn a roddwyd i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn 2022-23 yn cael cyllid cyfatebol yn 2023-24, ond bod gweithredwyr bysiau wedyn wedi cael gwybod nad oedd sicrwydd o unrhyw gyllid o 1 Ebrill 2023 ar gyfer y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau.

2. Yn nodi nad yw'r estyniad 3 mis i'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig llawer o sicrwydd i weithredwyr bysiau i gynnal gwasanaethau a llwybrau allweddol yn eu hardal yn y tymor hir.

3. Yn mynegi pryder y byddai peidio ag ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn arwain at ganslo gwasanaethau ar raddfa eang, a fydd yn gadael cymunedau ledled Cymru—cymunedau gwledig yn bennaf—wedi’u hynysu.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o leiaf 18 mis i ddarparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno opsiynau cyllid diogel mwy hirdymor er mwyn cynnal gwasanaethau bysiau, yn hytrach na chynlluniau cyllido brys.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:28, 22 Mawrth 2023

Mae'n debyg taw Gustavo Petro wnaeth ddweud taw'r ffordd o adnabod gwlad ddatblygedig ydy nid trwy ffeindio rhywle lle mae gan y bobl dlawd geir ond dod o hyd i rywle lle mae'r bobl gyfoethog yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. A dyna ydy crux ein dadl y prynhawn yma, mewn ffordd. Dyw e ddim yn unig yn ddadl am gwestiynau brys ynglŷn ag ariannu trafnidiaeth gyhoeddus; mae hefyd cwestiynau ynghlwm wrth hyn i gyd—cwestiynau sylfaenol am y lefel o barch mae ein cymdeithas yn ei roi i drafnidiaeth gyhoeddus. Rŷn ni fel gwlad ar siwrnai tuag at net sero erbyn 2035. Mae angen inni fod ar y siwrnai yna, ond bydd y bont yna ond yn groesadwy os ydy'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn dod yn norm yn ein bywydau pob dydd. Felly, dyna'r cyd-destun y mae'n rhaid inni osod ein dadl y prynhawn yma ynddo.

Ond, gwnaf i droi at bwyntiau penodol ein cynnig, Llywydd, oherwydd allwn ni ddim cael y drafodaeth lawn yma heb fod y diwydiant bysiau yn bodoli, ac mae hyn am fodolaeth, am oroesiad y diwydiant. Mae ein cynnig yn ffocysu ar yr angen am sicrwydd ar gyfer y diwydiant yng Nghymru—sicrwydd a fydd yn arbennig o bwysig i gwmnïau bach, y rhai heb arian wrth gefn, y rhai teuluol, y rhai y bydd ein cymunedau yn ddibynnol arnynt. Rŷn ni’n gofyn am sicrwydd am faint o arian ychwanegol fydd ar gael i helpu'r diwydiant, a hefyd i wybod am faint o amser bydd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael. Mae ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn cyllid y cynllun brys am o leiaf 18 mis, achos does dim sicrwydd ar hyn o bryd, a dydy darparwyr ddim yn gallu cynllunio ymhellach na’r mis rŷm ni ynddo. Ers i ni glywed fod dyfodol y cynllun brys, neu BES, o dan fygythiad, adeg y gyllideb, mae estyniad o dri mis yn unig wedi cael ei gynnig. Wrth gwrs, mae'r estyniad i'w groesawu, ond nid yw'r amser, yn anffodus, yn ddigonol i roi'r sicrwydd yna. Nawr, wrth gwrs, mae angen trafodaeth am ddyfodol cynaliadwy y diwydiant, sicrwydd am arian sydd ddim dim ond yn cael ei ystyried fel rhywbeth brys, ac mae ein cynnig yn cyfeirio at hynny hefyd. Ond y cyfnod nawr sy’n achosi’r pryderon mwyaf.

Fel bydd yn hysbys i nifer ohonom sydd wedi clywed yn uniongyrchol gan y diwydiant bysiau yn ein hardaloedd, dydy’r cyfnod eithriadol o fyr yma—tri mis—ddim yn ddigonol i weithredwyr bysiau gynnal gwasanaethau yn y tymor hir.  Y perygl, wrth gwrs, ydy y bydd darparwyr yn penderfynu cael gwared ar y teithiau hynny sydd ddim yn fasnachol buddiol, ond sydd, gwaetha’r modd, yn deithiau lle mae nifer o drigolion yn dibynnu arnynt i fyw bywyd llawn—i gyrraedd y coleg, neu’r gwaith, neu’r ysbyty, neu i weld teulu neu ffrindiau.

A dyma’r peth, Llywydd: nid dadl ar gyfer achub y diwydiant bysiau yn unig ydy hon. Mae’n ddadl sy’n ffocysu ar yr angen i warantu ffyrdd trigolion Cymru o fyw. Mae bron i 80 y cant o siwrneiau trafnidiaeth cyhoeddus yn digwydd trwy ddefnyddio bysiau. Mae dyfodol ein diwydiant bysiau yn gwestiwn o gyfiawnder cymdeithasol. Nid dadl oeraidd am strwythurau ac arian ac isadeiledd ydy hon, ond dadl frys am sicrhau tegwch i’n cymunedau.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:31, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A hoffech ildio ar y pwynt hwnnw?

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. O, mawredd—pwy gyntaf? Huw. Huw, ie.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Delyth. Mae gennyf lawer o gydymdeimlad â’ch dadl, gan fod hyn yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol a chyfiawnder amgylcheddol ac ati. Yr her sy'n ein hwynebu, fodd bynnag, yw nad oedd unrhyw beth—unrhyw beth, yr un geiniog—yn y gyllideb sydd newydd ei chyhoeddi am unrhyw gynnydd ar gyfer gwasanaethau bysiau. Mae grant bysiau Lloegr eisoes wedi mynd. Rydym wedi gweld effeithiau hynny. Mae gennym rywbeth yma yn  tymor byr o leiaf. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn i chi yw hwn: o ble y daw'r arian ar gyfer ei ymestyn am 18 mis, a faint fydd hynny'n ei gostio?

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:32, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Huw. O ran—. Wel, dyma pam fod gennym y ddau safbwynt gwahanol hyn, bron—wel, nid dau safbwynt gwahanol, ond dau wahanol—. Y cwestiynau uniongyrchol ac yna'r cwestiynau mwy sylfaenol ar yr un pryd. O ran y cwestiwn uniongyrchol, rydym yn amlwg yn gofyn i'r Llywodraeth edrych eto nid yn unig ar y gyllideb drafnidiaeth sy'n cael ei rhoi i fysiau. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi bod yn onest gyda’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn y gorffennol ynglŷn â sut y mae cymaint mwy, yn gyfrannol, o’r gyllideb drafnidiaeth yn cael ei rhoi i drenau. Rwy’n derbyn y ffaith bod y prosiectau hyn ar gyfer trenau'n ddrud iawn, ond ar hyn o bryd, gan fod niferoedd gwirioneddol y teithwyr wedi'u gogwyddo i'r fath raddau o blaid bysiau a’r teithiau hynny ar hyn o bryd, credaf fod angen edrych ar hynny.

Ond credaf fod angen inni gael sgwrs lawer mwy sylfaenol hefyd ynglŷn â sut rydym yn dysgu gan leoedd fel Llundain, lle'r ymddengys eu bod yn deall hyn. Nid yn aml y byddaf yn dweud bod angen inni ddysgu gan Lundain, ond yn hyn, credaf fod angen inni edrych ar sut mae’r cydbwysedd yn gweithio. Nid wyf yn esgus bod hyn yn hawdd, ond rwy'n poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar ein cymunedau oni bai bod rhywbeth radical yn cael ei wneud.

Rhun, roeddech chi hefyd eisiau ymyrryd.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:33, 22 Mawrth 2023

Dim ond yn fyr iawn. Ar yr union bwynt yna, gweithredu ar ran dyfodol ein cymunedau ni ydyn ni yn fan hyn. Mae gen i lythyr gan gwmni O.R. Jones o Ynys Môn. Ydyn, maen nhw'n galw am ymestyn yr arian yma ac am gael buddsoddiad hirdymor yn y bysys, maen nhw'n poeni am y swyddi fyddai'n cael eu colli pe na bai hyn yn digwydd, ond poeni maen nhw yn greiddiol am yr effaith ar gymunedau. Ydy'r Aelod yn cytuno bod y cwmnïau bysys eu hunain wirioneddol yn poeni am y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu? 

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:34, 22 Mawrth 2023

Ie, a rwy'n meddwl mae hynna—. Mewn ffordd, rwy'n meddwl byddai'r ddau ohonoch chi efallai eisiau gweld yr un peth fan hyn, ac mae'r cwmnïau bysiau, yn enwedig y rhai bach, y rhai teuluol, yn gweld taw teithwyr sydd wrth galon y diwydiant hyn i gyd, a dyna pam dwi'n dweud dyw e ddim yn ddadl sydd dim ond am rywbeth oeraidd fel strwythurau; mae e hefyd am gynnal ffyrdd pobl Cymru o fyw. Ac efallai fod yn rhaid i ni edrych eto ar ein tueddiadau ni fel cymdeithas, ein hagweddau ni tuag at drafnidiaeth gyhoeddus, ac efallai fod hwnna'n plethu i mewn i beth mae Huw wedi bod yn gofyn amdano fe hefyd. Ond diolch am yr ymyriadau yna.

Nawr, bydd canslo gwasanaethau ar raddfa eang, fel rydyn ni newydd ei glywed, yn enwedig gwasanaethau sydd ddim yn fasnachol buddiol, bydd hynny’n gadael cymunedau ledled Cymru wedi eu hynysu. Dyna’r peth dwi rili yn poeni amdano fe yn fan hyn. Bydd e’n gadael pobl wedi eu hynysu, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yn y Cymoedd, neu’r rhai yng nghefn gwlad hefyd, lle oes gan bobl gymaint o ddewis ynglŷn â ffyrdd gwahanol o gyrraedd lle maen nhw eisiau ei gyrraedd. Mae’r pwynt wedi’i wneud o’r blaen—nid cerbydau yn unig ydy bysiau; maen nhw’n rhaff achub i bobl, llinynnau sy’n tynnu’n ynghyd ein cymunedau. Mae hwn yn gwestiwn ehangach na chludiant yn unig.

Mae ymchwil gan y cwmni First Bus yn awgrymu bod pobl yn dewis defnyddio bysiau am nifer o resymau gwahanol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o’r creisis costau byw, a’r creisis amgylcheddol. Mae 36 y cant yn defnyddio bysys er mwyn arbed arian, ac mae canran tebyg yn teimlo bod defnyddio’r bys yn helpu eu hiechyd meddwl. Ac mae chwant am hyd yn oed mwy. Dangosodd arolwg diweddar gan YouGov fod 90 y cant o boblogaeth yr ynysoedd hyn eisiau byw o fewn pellter 15 munud o gerdded i safle bws.

Nawr, mae gan fysys y potensial i chwarae rhan hyd yn oed yn fwy blaenllaw yn ein bywydau bob dydd, fel rydyn ni newydd fod yn ei drafod gyda Huw, gyda Rhun. Ond, heb sicrwydd ariannol i’r sector yn y tymor hir, bydd sgil-effeithiau yn cael eu teimlo gan y gweithlu, bydd sgil-effeithiau ar ddarpariaeth addysg, ac, wrth gwrs, ar ba mor fudr ydy’r aer o’n cwmpas, achos bydd mwy o bobl yn dewis defnyddio car. A methiant byddai hynny—nid yn unig methiant o ran polisi, ond methiant moesol ar ein rhan ni i gyd.

Y teithwyr, fel rwyf wedi'i ddweud, sydd wrth galon bysiau, y diwydiant, a fel rydyn ni’n ei wneud hyn yng Nghymru. Ac wrth gwrs, dydy’r rhwydwaith ddim yn berffaith—mae angen i’r Llywodraeth drafod yn helaeth gyda llywodraeth leol, gyda grwpiau teithwyr, TfW a phartneriaid eraill am ddyfodol ryddfreinio i sicrhau bod llais y cwmnïau bychain yn cael ei glywed, fod llais y teithwyr yn cael ei glywed.

Gwnaf i orffen, Llywydd, gyda chyfres o gwestiynau i’r Llywodraeth. Os ydy’r cynllun brys yn dod i ben ym mis Mehefin, pa gymorth ychwanegol bydd ar gael i’r teithiau yma sydd ddim yn fasnachol buddiol? Oes yna ddigon o arian ar gael trwy BES—neu ariannu gwahanol, fel roedd Huw, efallai, yn cyfeirio ato—i greu mecanwaith ariannu newydd sy’n fwy cynaliadwy? Ac ydy’r Llywodraeth yn credu bod dyddiad terfyn o ddiwedd mis Mehefin, ydych chi’n credu y byddai hynny’n caniatáu i’r diwydiant, llywodraeth leol ac ati—pob un o’r partneriaid—gynllunio ar gyfer y dyfodol? Achos dyna ydy’r her.

Mae’n flin gen i, Mabon, fy mod i wedi mynd ychydig drosodd, os na fyddwch chi’n cael cymaint o amser i ymateb i’r ddadl. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed gweddill y ddadl. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:38, 22 Mawrth 2023

Dwi wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a dwi’n galw ar y Dirprwy Weinidog i gynnig y gwelliant yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Lesley Griffiths

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth dros £150m o gyllid ychwanegol i’r diwydiant bysiau gydol y pandemig a’i bod wedi cefnogi’r diwydiant i adfer ar ei ôl.

2. Yn nodi nad yw nifer y teithwyr ar fysiau wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig a bod patrymau o ran defnydd wedi newid.

3. Yn nodi bod yr estyniad cychwynnol o 3 mis i’r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau yn cynnig sicrwydd yn y tymor byr i weithredwyr bysiau er mwyn cefnogi datblygiad rhwydwaith bysiau sylfaenol.

4. Yn cefnogi cynlluniau mwy hirdymor Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r diwydiant bysiau drwy reoleiddio.

5. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i ddyrannu cyllid brys cyn gynted â phosibl gan yn hytrach gyflwyno pecyn cyllid sy’n cefnogi’r trosglwyddiad i fasnachfreinio.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Jenny Rathbone.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rydym mewn sefyllfa anodd iawn yma, a chredaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn cynnal dadl ar y mater hwn, felly diolch i Blaid Cymru am hynny. Mae hon yn mynd i fod yn ddadl lawer mwy cynhyrchiol na’r un rydym newydd ei chael.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £150 miliwn o gymorthdaliadau i’r diwydiant bysiau ers y pandemig, ac nid oes unrhyw amheuaeth nad yw nifer y bobl a arferai ddefnyddio’r gwasanaethau bysiau wedi dychwelyd o hyd. Hyd yn oed yng Nghaerdydd, lle mae'r nifer sydd wedi dychwelyd wedi bod yn well na'r cyfartaledd, dim ond 75 y cant i 80 y cant o'r bobl a oedd yn defnyddio'r bysiau cyn y pandemig sy'n eu defnyddio nawr. Felly, mae rhai pobl wedi newid y ffordd y maent yn byw eu bywydau yn llwyr, naill ai oherwydd eu bod yn rhy ofnus i adael eu cartrefi am amrywiaeth o resymau, neu am eu bod naill ai wedi prynu beic—sy'n annhebygol; hoffem obeithio hynny—neu mae ganddynt gar preifat. Wrth gwrs, dyma'r cyfeiriad cwbl anghywir i'r un rydym am i bobl fynd iddo, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn ceisio cadw car preifat pan nad oes ganddynt arian i wneud hynny; maent yn byw mewn tlodi trafnidiaeth.

Rwy’n llongyfarch y Dirprwy Weinidog am y pethau arwrol y mae wedi bod yn ceisio’u gwneud i gynnal y gwasanaethau bysiau, gan ein bod ar ymyl y dibyn ac yn wynebu argyfwng gyda hyn. Ond rydym wedi clywed ddoe mai £1 filiwn o gyfalaf yn unig sydd yn y gyllideb gan Lywodraeth y DU ar gyfer popeth, ar gyfer yr holl wasanaethau a'r pethau y mae'n rhaid i ni eu hariannu. Felly, nid oes rhagor o arian ar hyn o bryd, a sut rydym yn mynd i lwyddo i ymdopi â hyn a pharhau i gael y gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnom i newid o'r car preifat—mae'n anodd iawn gweld sut y gwnawn hynny.

Rydym mewn sefyllfa amhosibl, gan fod y rhan fwyaf o’r bysiau sy’n cael eu defnyddio yn defnyddio petrol a diesel, felly mae pris y tanwyddau hyn wedi codi’n esbonyddol. Ychydig iawn o awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i gael y grantiau i drydaneiddio eu bysiau. Gwn fod Caerdydd a Chasnewydd wedi llwyddo i wneud hynny. Mae awdurdodau lleol eraill naill ai heb wneud cais neu wedi cael eu gwrthod, ac ni allaf ddweud pa un ydyw, ond yn amlwg, mae hwnnw'n gwestiwn da iawn.

Nid oes gennym unrhyw gyfarwyddyd canolog o ran ble mae ein bysiau'n mynd. Bydd cwmnïau preifat yn dewis y llwybrau y maent am eu cynnig er mwyn gwneud cymaint o arian ag y gallant o x neu y. Golyga hynny eu bod yn tanseilio hyfywedd gwasanaethau bysiau’r sector cyhoeddus, a oedd mewn sefyllfa i groes-sybsideiddio, os mynnwch, y gwasanaethau a oedd yn cael llawer o ddefnydd gyda’r rheini a oedd yn gymdeithasol bwysig ond nad oeddent yn cael llawer o ddefnydd.

Rydym wedi cael blynyddoedd lawer o danfuddsoddi mewn rheilffyrdd, sy’n ei gwneud yn anodd ofnadwy inni ddatblygu’r math o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig anhygoel sydd gan Lundain. Ond y rheswm am hynny yw bod gennym system lywodraethol sy'n gwbl annheg. Mae llawer mwy o arian wedi’i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr nag a gawsom yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth sy’n darparu ffuglen i ni sy'n dweud, rywsut, fod HS2, sy’n rhedeg rhwng Old Oak Common a Birmingham, o fudd i Gymru. Fe’ch gwahoddaf i edrych ar y ddaearyddiaeth.

Felly, hyd nes y cawn Lywodraeth newydd ag ychydig mwy o synnwyr cyffredin yn y trefniadau ynghylch ariannu teg, mae gennym y sefyllfa a ganlyn: mae gennym gwmni preifat yn gweithredu'r C8 o Heol Eglwys Fair yng nghanol Caerdydd, ac maent wedi cyhoeddi'n sydyn na fydd y gwasanaeth hwnnw'n weithredol ar ôl 4 Ebrill. Mae hyn yn bwysig i chi, oherwydd mae'n rhaid i rai o'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau i ni yn y Senedd ddechrau am 7 o'r gloch y bore. Ar ôl i’r gwasanaeth bws hwnnw gael ei ddiddymu, nid oes ganddynt unrhyw ffordd o gyrraedd yma erbyn 7 o’r gloch y bore, gan nad oes gwasanaeth bws arall. Oni bai eu bod, yn sydyn, ar ôl 40 mlynedd, yn prynu beic, ni fyddant yn gallu cyrraedd mewn pryd. Bydd yn rhaid i'w rotâu newid i gyd-fynd ag unrhyw wasanaethau bysiau sy'n dal i fodoli.

Yn yr un modd, y mater enfawr arall yn fy etholaeth yw cost cludiant i'r ysgol. Nid yw plant yn mynychu’r ysgol am fod hyd yn oed y rheini sy’n cael prydau ysgol am ddim yn gorfod talu £400 am y fraint o fynd i’r ysgol os ydynt yn byw'n rhy bell i allu cerdded, ac yn syml iawn, nid oes gennym ddewisiadau eraill eto o ran teithio llesol, gan y dylai'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ysgol uwchradd allu teithio ar feic. Felly, mae gennym sefyllfa anodd iawn, ac nid wyf yn gwybod sut  gallwn ei datrys, a hoffwn wybod gan bwy mae'r atebion.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 5:43, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn amlwg fod pob un ohonom am sicrhau bod gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus da yma yng Nghymru. Nid wyf yn amau y bydd y Dirprwy Weinidog yn gwadu hyn, er ein bod yn gwybod ei bod yn well ganddo ddefnyddio'i gar preifat, hyd at 12,000 o filltiroedd dros y pedair blynedd diwethaf. Ond yn anffodus, rydym yn wynebu argyfwng trafnidiaeth gyhoeddus. O’r negeseuon y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i ni yn ystod y pandemig, sydd wedi dychryn y cyhoedd rhag defnyddio’r gwasanaeth hanfodol hwn, i’r diffyg cyllid y mae’n ei gael i adfer wedi COVID-19, yr hyn a welwn yw Llywodraeth Cymru yn methu cymell pobl i ddefnyddio bysiau lleol.

Ar ochr draw y Siambr, Weinidog, mae'n amlwg ein bod yn gweld y Gweinidog yn dweud rhywbeth ac yn golygu rhywbeth arall, a hynny'n rheolaidd. Mae’r rheng flaen yn stori gwbl wahanol i’r darlun rydym yn aml yn ei weld wedi’i beintio yma o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru, gan gynnwys yr adolygiad ffyrdd ffaeledig yma, lle mae’r Dirprwy Weinidog yn aml yn dweud wrth y cyhoedd yng Nghymru am beidio â gyrru ar ffyrdd a dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus, ac eto, mae’r Llywodraeth wedi methu’n llwyr â buddsoddi mewn bysiau na’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru. [Torri ar draws.] Mae’r defnydd o fysiau lleol bellach ar oddeutu 75 i 80 y cant o'r lefelau cyn y pandemig, ac ni ddisgwylir iddynt godi tan oddeutu 2030. Ac nid fi sy'n dweud hyn—

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

—daw hynny gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Weinidog, eich problem chi i’w datrys yw hon, ac nid yw'n ymddangos eich bod wedi bod yn ei datrys. Ydy, mae'r cyllid brys ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bysiau i'w groesawu, ond ymddengys mai ymateb a wnaed mewn panig oedd hwn—ateb tymor byr arall i broblem hirdymor. A hynny er bod y Dirprwy Weinidog wedi rhybuddio fis diwethaf nad oedd unrhyw arian i helpu.

Gwrandewais yn ofalus hefyd ar ymateb y Prif Weinidog ar y pwnc yr wythnos o’r blaen, a theimlais, unwaith eto, ei fod yn rhywbeth nad oedd efallai wedi'i drafod gyda'r Dirprwy Weinidog, yn debyg iawn i bleidlais Llafur yn erbyn yr adolygiad ffyrdd ychydig wythnosau yn ôl. Mae'r pellteroedd a deithir gan fysiau yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf, ac ydy, mae hynny'n cynnwys blynyddoedd o dan oruchwyliaeth y Dirprwy Weinidog. Efallai ei fod yn eistedd yma, efallai ei fod yn ysgwyd ei ben, wrth symud ymlaen, yn tynnu wynebau arnaf ac yn parhau i wadu'r sefyllfa, ond eich cyfrifoldeb chi yw hyn, Ddirprwy Weinidog, a neb arall. Er bod bysiau wedi teithio 123 miliwn km yn 2010, hanerodd hyn i 64.2 miliwn km yn 2021. Beth rydych chi'n mynd i'w wneud am y dirywiad cywilyddus hwn wrth symud ymlaen, Ddirprwy Weinidog? I lawer o ddefnyddwyr gwasanaethau bysiau, mae dibynadwyedd a phrydlondeb yn brif flaenoriaethau—

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 5:45, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Na wnaf. Nid ydych am ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yn hwyr i'r gwaith neu orfod codi'n gynnar iawn i gymudo.

Yn fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru, ni fydd mwy nag un o bob 10 taith bws yn cyrraedd ar amser yn ôl defnyddwyr bysiau, a bydd hyn, heb os, yn cynyddu gyda chyflwyno’r terfynau cyflymder 20 mya. O ganlyniad i’r ffigurau cywilyddus hyn, a ydym yn gweld buddsoddiadau enfawr yn y rhwydwaith gwasanaethau bysiau? Na, dim byd. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn credu mai’r ateb fydd gwneud bysiau’n gyhoeddus eto. Ond a ydym yn ymddiried yn Llywodraeth Cymru i allu cyflawni'r gwaith? Nid ar yr ochr hon i’r Siambr, yn anffodus. Rydym wedi gweld y smonach rydych wedi'i wneud o'r GIG, yr economi, felly beth sy'n mynd i fod yn wahanol am wasanaethau bysiau, wrth symud ymlaen?

Mae'r terfynau cyflymder 20 mya hefyd yn chwerthinllyd gan y byddant yn costio oddeutu £30 miliwn, pan allai'r arian hwnnw gael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Fel bob amser, ymddengys eich bod yn llywyddu dros wastraffu arian yn warthus ar fater nad oes unrhyw un o’i blaid.

Rydych hefyd yn sôn am ddatgarboneiddio trafnidiaeth, ac eto, mae’r ffigurau’n adrodd stori wahanol. Beth sy'n newydd yma? Cyflwynwyd bysiau trydan gyda chryn dipyn o sioe gan y Dirprwy Weinidog yng Nghaerfyrddin, ond rydym yn dal i aros yma am gynllun a ariennir gan y Llywodraeth ar hyn, yn wahanol i’r Alban a Lloegr, lle mae eu cynghorau a’u gweithredwyr wedi cael cymorth gyda chostau seilwaith a cherbydau gwyrdd. Fel y soniodd fy nghyd-Aelod, dim ond dau awdurdod lleol yng Nghymru, Caerdydd a Chasnewydd, sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y maes hwn, ac er ein bod yn gweld cynlluniau ar gyfer bysiau ychwanegol sy’n bodloni meini prawf eich Llywodraeth eich hun, nid ydym yn gweld unrhyw gymorth diriaethol.

Felly, mae’n bleser gennyf gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw. Mae llawer o bethau o’i le ar safbwynt y Dirprwy Weinidog ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ar y naill law, dywed wrthym ei fod yn amlwg yn mynd i gynyddu ein defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, ac ar y llaw arall, mae'n codi rhwystrau yn ein ffordd. Diolch, Lywydd.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:47, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae cael gwasanaethau bysiau'n iawn yn rhywbeth a fydd yn drawsnewidiol i Gymru, ac yn sicr, yn y tymor hir, gwn fod y Dirprwy Weinidog yn rhannu’r angerdd sydd gan lawer ohonom i sicrhau bod gennym rwydwaith bysiau sy’n gweithio i Gymru. Bydd hynny’n cymryd amser, bydd angen buddsoddi, ond yr hyn y soniwn amdano ar hyn o bryd yw’r gwasanaethau y mae pobl yn ein cymunedau’n eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd, a’r risg i ddyfodol y gwasanaeth hwnnw. Dyna pam ein bod yn cyflwyno’r ddadl hon, oherwydd sylwadau gan y rhai yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y toriadau arfaethedig i wasanaethau.

O edrych ar ddata cyfrifiad, sy'n ddiddorol iawn, pan fyddwch yn ymchwilio i berchnogaeth ceir, rydych yn cael darlun o'r cymunedau ynysig lle mae perchnogaeth ceir—. Wyddoch chi, nid yw'n rhywbeth y mae pobl yn dewis ei ddefnyddio bob hyn a hyn. Nid oes unrhyw opsiynau eraill. Nid ydynt yn agos at orsafoedd trenau; teithio ar fws yw'r unig deithio. Mae cyfraddau perchnogaeth ceir yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yn amrywio’n fawr. Os edrychwch ar Fro Morgannwg, mae lefelau perchnogaeth ceir yn uchel iawn mewn llawer o leoedd; mae Caerdydd yn amrywio. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, yng nghanol y ddinas ei hun, nid oes ceir gan oddeutu 90 y cant mewn rhai wardiau, ond yn amlwg, mae hynny yng nghanol y ddinas—nid yw'n syndod.

Ond rydych yn edrych ar gymunedau fel Glyn-coch, y tu allan i Bontypridd, lle nad oes penderfyniad wedi'i wneud i ymestyn y llinell fetro, er gwaethaf galwadau lleol ynglŷn â'r terfyn yno, ond mae lefelau perchnogaeth ceir ymhlith yr isaf yng Nghymru. I bobl yno, yr hyn y mae’n ei olygu pan nad oes ganddynt wasanaeth bysiau neu os yw bysiau’n dod yn llai aml neu ddim yn dod o gwbl, sy’n broblem enfawr ar hyn o bryd, oherwydd prinder gyrwyr bysiau, yw apwyntiadau ysbyty neu feddyg yn cael eu methu; pobl yn hwyr i'r ysgol neu goleg; yn hwyr i'r gwaith, neu ddim yn cyrraedd y gwaith; llai o gyflog; colli gwaith; casglu plant yn hwyr o'r ysgol; aros yn y glaw am fws nad yw byth yn dod; teimlo'n ynysig, wedi'u datgysylltu, yn gaeth i'w cartrefi; methu bod yn annibynnol.

I blant, mae bysiau'n darparu mynediad cwbl hanfodol at addysg, ond hefyd at glybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau allgyrsiol. Mae bysiau'n caniatáu i'w rhieni fyw eu bywydau hefyd. Ond rydym yn gweld, yn gynyddol felly, fod pobl yn colli ysgol, fel y dangosodd Jenny Rathbone, am na allant fforddio cludiant os nad ydynt yn bodloni'r meini prawf i gael cludiant i'r ysgol am ddim, neu am nad oes gwasanaethau bws ar gael.

Felly, os edrychwch ar beth o’r buddsoddiad mewn trenau ar hyn o bryd, fe’i crybwyllwyd yn gynharach yng nghyd-destun rheilffordd Treherbert, sydd hefyd yn fy rhanbarth i. Os edrychwch ar yr ymatebion gan bobl leol i’r cyhoeddiad ar y cynllun a fydd yn cau’r rheilffordd am o leiaf wyth mis—cyfnod sylweddol o amser—wel, i lawer o bobl sy'n byw ger y rheilffordd honno, maent yn gwybod bod y gwasanaethau bysiau naill ai ddim yn bodoli ac yn bryderus iawn am eu bod hefyd wedi gweld, pan fydd gwasanaethau bysiau yn lle trenau yn cael eu defnyddio, fod y galw wedi cynyddu ar fysiau eraill, gan fod pobl yn gwybod nad yw’r cynlluniau bysiau yn lle trenau wedi bod yn gweithio. Mewn egwyddor, maent i fod i weithio, ond nid dyna'r realiti, gan fod pobl wedi bod yn aros am awr, efallai, awr a hanner, i geisio mynd ar fws a ddarparwyd yn lle trên, ac yna mae'r daith yn cymryd cymaint mwy o amser na'r hyn y mae'n ei ddweud ar bapur.

Felly, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am fysiau lleol ar lawer o’r gwasanaethau sydd mewn perygl oni bai bod y cynllun yn cael ei ymestyn. Felly, rydym yn sôn am sicrhau mynediad cyfartal. Gwn fod llawer ohonom yn gweld, o ran ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd, fod angen inni annog pobl i geisio newid o ddefnyddio ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ond rhaid derbyn y realiti fod y rhan fwyaf o bobl mewn llawer o'r cymunedau hynny yn defnyddio bysiau'n ddyddiol.

Mater arall sydd wedi’i godi gyda mi yng Nghanol De Cymru yw bod llawer o beiriannau wedi'u torri ar fysiau, ac y gall fod yn ddrud iawn gosod rhai yn eu lle, ac mae’n aml yn cymryd wythnosau i’r peiriannau gyrraedd, os ydynt yn gallu eu cael o Ewrop. Golyga hynny nad oes gennym ddarlun cywir o niferoedd y teithwyr ar rai llwybrau bysiau, a tybed a yw hyn hefyd yn rhywbeth a gafodd ei ddwyn i sylw’r Dirprwy Weinidog, gan ein bod yn dweud nad yw'r niferoedd yno ar gyfer rhai llwybrau, ond mewn gwirionedd, nid oes darlun cywir ar gyfer rhai llwybrau bysiau sy'n allweddol ar gyfer cysylltu ardaloedd fel Pontypridd â rhannau eraill o RhCT.

Rwy’n falch ein bod wedi gallu cytuno, drwy’r cytundeb cydweithio, ar rai meysydd blaenoriaeth allweddol lle hoffem weld mwy o fuddsoddiad, ac mae hwn yn un ohonynt, ond yn hollbwysig, credaf fod rhaid inni feddwl am yr holl ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â'r materion uniongyrchol yma, a'r hyn y gofynnwn amdano yw estyniad, fel y gallwn sicrhau'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt ar hyn o bryd am y rhesymau a amlinellwyd, wrth inni weithio ar atebion hirdymor. Diolch.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:52, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon, fel y gwnaeth Jenny, yn wir, a hefyd drwy gytuno â llawer o’r sylwadau a wnaed, gan Delyth yn ei sylwadau agoriadol, a hefyd gan Heledd? Roeddent yn pwysleisio’n fawr iawn mai mater o gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yw hwn, neu os ydych am roi hynny mewn termau lleyg, yr unigolyn ar ben uchaf cwm Garw sy’n gweithio mewn swydd gofal cymdeithasol, sydd angen cyrraedd yno ar gyfer ei shifft hwyr gyda'r nos a dychwelyd yn gynnar iawn yn y bore at eu teulu a mynd i'r gwely, fel y gallant fynd yn ôl i'r shifft nesaf. Felly, rwy’n cytuno â hynny oll.

Y cwestiynau y maent yn eu gofyn yw'r cwestiynau cywir. Y broblem yw—gan edrych ar y Gweinidog—nid wyf yn siŵr a ydym wedi clywed yr atebion. Oherwydd y cwestiwn a ofynnais i Delyth, ac mae'n gwestiwn dilys—a daliais rhag ymyrryd, os caf ofyn yn union yr un peth i chi, Delyth—yw i gydnabod bod y gronfa frys eisoes wedi'i thynnu'n ôl yn Lloegr ac rydym eisoes wedi gweld yr effaith yno ar wasanaethau yn Lloegr. Roedd yn drueni na allwn wneud ymyriad i ofyn hynny i'r siaradwr Ceidwadol, gan nad oedd yn derbyn ymyriadau. Rwy'n croesawu ymyriadau, gyda llaw, os oes unrhyw un yn dymuno gwneud un.

Y broblem yw nad oedd unrhyw gynnydd o gwbl ar gyfer gwasanaethau bysiau neu drafnidiaeth wedi'i ddarparu yn y gyllideb rydym newydd ei chlywed. Dylai fod wedi bod. Dylai fod wedi bod, yn sicr, i roi cyfnod pontio hirach i ni, fel y gallem gael y trafodaethau hyn, ond ni roddwyd unrhyw gynnydd. Felly, 18 mis, y cwestiwn yw: faint yn ychwanegol fydd hynny'n ei gostio i Lywodraeth Cymru ei wneud, ac o ble mae Plaid Cymru'n credu y dylai'r arian hwnnw ddod? Oherwydd dyna'r dewis gwirioneddol anodd. Felly, rwy'n cytuno â’r cwestiynau a ofynnwyd gennych. Yn anffodus, nid yw’r atebion mor syml â hynny.

Mae’n wir, heb os—fel unrhyw un sydd wedi ymdrin â’r cwmnïau bysiau dros y ddwy a thair blynedd diwethaf mewn trafodaethau llawn tensiwn, fel a gefais yn Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr gyda First Cymru a darparwyr eraill, wrth inni weld gwasanaethau’n mynd, gyda llaw—ond a bod yn onest, ni fyddai unrhyw wasanaethau yno ar hyn o bryd oni bai am y £150 miliwn o gymorth ychwanegol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n ffaith. Byddent wedi mynd i'r wal. Ni fyddai neb o’r bobl hynny, hyd yn oed gyda’r gwasanaeth cyfyngedig, yn mynd i'w swyddi, yn cyrraedd eu hapwyntiadau gyda'r meddyg, yn gallu cymdeithasu, i ymdopi â’r ynysigrwydd rydym yn sôn amdano'n aml yn y Siambr. Mae wedi'i gadw i fynd, ac mae i’w groesawu ac nid yw’n cael ei adlewyrchu, yn rhyfedd ddigon, yng nghynnig Plaid Cymru. Cafodd ei adlewyrchu yn sylwadau Delyth, ond nid yn y cynnig, fod Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, wedi mynd ymhellach ac wedi'i ymestyn i gael y sgyrsiau pellach hynny. [Torri ar draws.]

Fe wnaf ildio i’r Aelod, er fy mod yn nodi nad oedd yn awyddus i gael dadl yn gynharach, ond rwy’n fwy na pharod i gael dadl.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 5:55, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymyrryd. Nid wyf yn hoffi ymyrryd, gan fy mod am roi cyfle i bawb siarad. Dyna pam na dderbyniais yr ymyriad fy hun—dyna'r unig reswm pam. Fy newis personol i yw hynny, Lywydd. Mae hynny'n gwbl iawn; dyna fy newis personol. Mae gennyf hawl i'w wneud, fel chithau—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Ie, ie, parhewch â’ch ymyriad ar y pwnc.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

(Cyfieithwyd)

Ond i ddod yn ôl at y pwynt, roeddech am ofyn y cwestiwn i mi ynglŷn â'r cyllid ar gyfer hyn. Nawr, rwy'n ddigon ffodus, ac rwyf wedi dweud hyn droeon. Rydych yn sôn am £150 miliwn, ond fe ddywedaf wrthych ble'n union y gallech fod wedi arbed £155 miliwn: pe bai’r Llywodraeth hon, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi trafferthu codi’r ffôn a ffonio San Steffan i egluro ble y gallent fod wedi gwario'r £155 miliwn yn ychwanegol a roddwyd iddynt gan San Steffan yn y lle cyntaf, ni fyddech wedi colli'r arian hwnnw yn ôl i San Steffan, arian a oedd yma i bobl Cymru, ond ni chyrhaeddodd. Felly, diolch yn fawr iawn.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 5:56, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Credaf fy mod wedi clywed yr ymyriad nawr, Lywydd. Roedd yn ymyriad hir. Efallai nad oedd yr Aelod yma ddoe yn y ddadl a gawsom yng nghwestiynau’r Prif Weinidog, lle mai’r realiti anodd yw ein bod, ar hyn o bryd, mewn termau real, £900 miliwn ar ein colled—£900 miliwn ar ein colled—ac o ran datblygu fflyd newydd o fysiau trydan ac ati, rydym wedi cael ychwanegiad o £1 filiwn. Mae hyn yn warthus. Felly, diolch am eich ymyriad, gan ei fod dangos pa mor wan yw dadl y Ceidwadwyr ar gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus.

Rhaid imi ddweud—gwn nad wyf yn edrych yn ddigon hen, Lywydd—ond yn ddiweddar, cefais fy mhàs bws—

(Cyfieithwyd)

Member of the Senedd:

Na. [Chwerthin.]

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. [Chwerthin.] Rwyf o ddifrif yn teimlo’n fwy fel dinesydd o Gymru oherwydd y ddarpariaeth gyffredinol honno, ond yr her sydd gan y Gweinidog yw gweithio dros yr ychydig fisoedd nesaf—ac mae’n gweithio’n galed gyda’r cwmnïau bysiau a chydag awdurdodau lleol—i ddefnyddio’r seibiant byr iawn hwn i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n gynaliadwy. Nid wyf yn eiddigeddus o'i orchwyl yn hynny o beth.

Gadewch imi wneud un neu ddau o bwyntiau, gan inni gael ymyriad hir, gyda'ch disgresiwn chi, Lywydd. Yn y tymor hir, rhaid inni fwrw ymlaen â'r gwaith o wrthdroi’r dadreoleiddio trychinebus hwn, oherwydd wedyn, gallwn o leiaf gael y ddadl ddemocrataidd gyda'r bobl sydd â buddiant uniongyrchol wrth benderfynu ble mae gwasanaethau’n mynd. Yn y tymor hir, mae’n rhaid inni wneud hynny.

Yn y tymor hir, rhaid inni ddod o hyd i becyn ariannu mwy cynaliadwy hefyd. Ond wyddoch chi beth arall sydd angen i ni ei wneud? Defnyddio'r bysiau. Oherwydd dyna'r her fwyaf un, ac nid yn unig ar gyfer y cyhoedd, oherwydd os ydych yn mynnu gwasanaeth cyhoeddus a bysiau er mwyn i bobl dlawd eu defnyddio'n unig, bydd gennych wasanaeth gwael yn y pen draw. Mater i bob un ohonom—pob un ohonom, gan gynnwys fi fy hun gyda fy mhàs bws—yw mynd ar y bysiau hynny nawr a'u defnyddio, gan mai'r ffordd i dyfodol diogel iawn i fysiau—nid trenau'n unig, ond bysiau—yw os yw pob un ohonom yn mynd arnynt, neu fel arall, os na fyddwn yn eu defnyddio, byddwn yn eu colli.

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 5:58, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Yng nghwm Tawe, lle rwy'n byw, nid oes unrhyw drenau—dim o gwbl. Mae'r un peth yn wir am gymoedd cyfagos cwm Dulais, cwm Nedd a chwm Afan. Ac er bod rhai llwybrau beicio gwych, mae daearyddiaeth a thirwedd y cymoedd hyn yn gwneud teithio llesol yn fwy heriol nag mewn ardaloedd trefol eraill yng Nghymru. Maent yn ardaloedd sy’n gwbl ddibynnol ar fysiau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. A hoffwn wneud y pwynt hwn yn gwbl glir, oherwydd weithiau, mae'r ddadl hon wedi'i fframio o amgylch poblogaethau gwledig yn erbyn poblogaethau trefol neu'r defnydd o drafnidiaeth reilffordd yn erbyn bysiau.

A ffactor arall yr hoffwn ei ychwanegu i'r gymysgedd, fel y gwnaeth Heledd Fychan yma, yw perchnogaeth ceir, neu'n hytrach, diffyg perchnogaeth ceir. Mae bysiau’n gwasanaethu pobl heb geir, ac mae gan gymunedau’r Cymoedd rwy'n eu cynrychioli yng Ngorllewin De Cymru lefelau perchnogaeth ceir sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn syml, mae prynu a rhedeg car yn anfforddiadwy, ac felly, y bws yw’r unig ddewis—yr unig ffordd y gall llawer o bobl o bob oed gael mynediad at waith, addysg, gofal iechyd, siopau, gweithgareddau hamdden a chymdeithasol. Felly, os ydych yn byw yn yr ardaloedd hyn a heb fod yn berchen ar gar, mae sut y gallwch symud o le i le eisoes yn gyfyngedig. Ac mae nifer y cwynion a gaf am doriadau i wasanaethau sydd eisoes yn wasanaethau sgerbwd yn enfawr, a hoffwn rannu rhai ohonynt gyda chi, gan mai'r ddadl hon yw'r lle priodol i'r bobl hyn leisio'u barn, fel y mae llawer o Aelodau wedi'i ddweud.

Dywedodd un fenyw 37 oed wrthyf ei bod yn dibynnu’n llwyr ar wasanaethau bws. Roedd yn arfer defnyddio’r bws i fynd i’r gwaith bob dydd: un bws o’i phentref yng nghwm Nedd i Gastell-nedd ac yna un o Gastell-nedd i’w gweithle ychydig y tu allan i Bort Talbot. Ond arweiniodd oedi cyson at golli ei chysylltiad, a chyrraedd y gwaith yn hwyr. Nid yw'n gweithio yno mwyach. Mae toriadau diweddar i fysiau a llai o wasanaethau yn y Cymoedd wedi golygu, pe bai’n dal i gael ei chyflogi yno, y byddai taith a oedd eisoes yn cymryd dros awr yn cymryd mwy fyth, a hynny os yw'r bws yn dod o gwbl. Gan ei bod yn chwilio am waith ar hyn o bryd, dywed fod rhaid iddi ystyried lefelau presennol o wasanaeth wrth ystyried cyfleoedd, sy'n cyfyngu ar y swyddi y gall ymgeisio amdanynt.

Mae menyw arall, y mae ei hiechyd yn dirywio, yn defnyddio car ar hyn o bryd, ond yn poeni na fydd yn gallu gyrru cyn bo hir, a dywed ei bod yn poeni'n fawr am heneiddio yn ei chymuned. Dywedodd gwraig sy'n byw yng Ngodre'r-graig wrthyf fod y gwasanaeth eisoes yn wael. Mae'n teimlo y byddai'n cael ei thorri i ffwrdd yn llwyr pe bai unrhyw doriadau pellach i wasanaethau. Mae'n bryderus iawn am ei mab, sydd i fod i ddechrau yng ngholeg Castell-nedd ym mis Medi. Byddai colli gwasanaeth yn golygu na fyddai'n gallu mynychu. Mae ei chwaer yn gweithio yn Ysbyty Treforys. Nid yw'n gyrru, ac mae gwasanaethau bws rheolaidd a dibynadwy yn hanfodol i'w gwaith.

Ac nid cymunedau’r Cymoedd yng Ngorllewin De Cymru yn unig mo hyn. Cymuned yng Nghastell-nedd yw Dyffryn Clydach, ond mae ar fryn hir, serth—hir iawn. Mae llawer o drigolion wedi dweud wrthyf yno eu bod yn teimlo eu bod wedi'u torri i ffwrdd yn llwyr ar y penwythnos am nad oes bws ar ddydd Sadwrn, ac felly ni allant fynd i ganol y dref yng Nghastell-nedd hyd yn oed, i fynd i siopa neu i gyfarfod â phobl oherwydd diffyg bysiau.

Ond os yw bysiau'n achubiaeth, mae cost tocynnau hefyd yn rhwystr yn aml, a chredaf fod hyn hefyd yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ystyried. Dywed mam o Gastell-nedd ei bod yn cael trafferth gyda chost y tocyn os oes angen iddi fynd i hebrwng ei phlentyn o'r ysgol os yw'n sâl neu os oes ganddynt ymarfer ar ôl ysgol.

Felly, nid yw cyflwr echrydus gwasanaethau bysiau mewn ardaloedd fel fy un i yn ddim byd newydd. Gwasanaethir Gorllewin De Cymru yn bennaf gan First Cymru, gyda nifer o lwybrau'n cael eu gwasanaethu gan South Wales Transport, Adventure Travel a Stagecoach. Er bod llawer o'r gwasanaethau rhwng y prif ardaloedd trefol, Pen-y-bont ar Ogwr, Port Talbot, Castell-nedd ac Abertawe, yn cael eu rhedeg ar sail fasnachol ac yn cael llawer o ddefnydd, mae gan lawer o ardaloedd y Cymoedd lai o wasanaethau, fel y nodais. Ac yng nghwm Tawe a chwm Aman yn enwedig, mae gwasanaethau’n hynod dameidiog ac anfynych. Gall taith 15 munud mewn car gymryd ymhell dros awr ar fws, a hyd yn oed yn fwy ar brydiau. Ac fel y dywedais, ceir llawer o leoedd lle nad oes unrhyw wasanaethau ar y penwythnos, neu wasanaethau penwythnos cyfyngedig iawn. A gall argaeledd bysiau gyda'r nos olygu na fydd pobl yn gallu mynychu digwyddiadau ar ôl 6 p.m. neu gyrraedd adref, fel y soniodd Huw, ar ôl gwaith shifft. Bydd unrhyw doriadau i wasanaethau bysiau yn gwaethygu'r anawsterau hyn, gan gyfyngu ar symudedd mwy fyth o bobl.

Yn ystod gwyliau haf 2021, lansiodd Cyngor Abertawe eu menter bysiau am ddim. Ers y treial cychwynnol hwnnw, mae wedi cael ei ailadrodd sawl gwaith yn ystod gwyliau ysgol. Mewn gohebiaeth â’r cyngor, yn gofyn a oeddent wedi gwerthuso hyn a’i effaith, dywedwyd wrthyf fod tystiolaeth anecdotaidd o arolwg cwsmeriaid a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr y llynedd yn nodi na fyddai 25 y cant o’r bobl sydd wedi defnyddio’r cynllun wedi teithio fel arall. Er ei bod yn amlwg fod y cynllun yn boblogaidd ac wedi arbed arian i bobl pan oedd yn weithredol, dywedodd Cyngor Abertawe fod natur y fenter wedi'i gwneud yn anodd asesu'r effeithiau mwy hirdymor. Gyda chynlluniau tebyg yn cael eu gweithredu neu eu harchwilio mewn rhannau eraill o’r wlad, pa ymdrechion y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud, ar y cyd â gweithredwyr gwasanaethau ac awdurdodau lleol, i fonitro a dadansoddi effaith fwy hirdymor y cynlluniau hyn ar niferoedd teithwyr? O ystyried mai un o’r problemau sy’n wynebu’r sector bysiau yw llai o deithwyr, oni ddylem edrych ar yr effaith y gall ymyriadau fel hyn ei chael ar nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau, ac archwilio ffyrdd y gellir eu cyflwyno ar raddfa fwy os ceir tystiolaeth eu bod yn llwyddiannus wrth annog pobl i newid dulliau teithio?

Yn y cyfamser, mae pobl fel y rheini sy'n byw yng nghwm Tawe, cwm Nedd, cwm Dulais a chwm Afan yn teimlo bod pawb wedi anghofio amdanynt, yn ddiwerth ac yn bryderus. Nid ydynt yn deall pam fod rhai ardaloedd yn cael bysiau a threnau newydd sgleiniog, a'r sôn cyson am Gymru wyrddach, lanach yn y lle hwn, pan fydd y cymunedau y maent yn byw ynddynt yn cael eu gadael ar ôl. Lywydd, mae'n rhaid dod o hyd i ateb, ac rwy'n awyddus iawn i glywed pa gamau y gall y Llywodraeth eu cymryd i fynd i'r afael â hyn, gan fod angen iddynt fynd i'r afael â hyn.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:04, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Blaid Cymru am y ddadl hon heddiw. Byddaf yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio sy'n nodi'n briodol y pryder difrifol a wynebwn yng Nghymru, gyda chanslo gwasanaethau trafnidiaeth ar raddfa fawr gan adael cymunedau ledled Cymru yn teimlo'n ynysig iawn. Mae'r argyfwng trafnidiaeth gyhoeddus eisoes wedi ein taro yn Aberconwy, ac rydym ni, fy etholwyr, wedi cael ein gadael heb fodd o gyrraedd y gwaith, ysgolion, prifysgol, y doctor, i brynu bwyd, ac ati, a hynny heb fawr o rybudd. Ac mae'n rhaid imi fod yn onest, nid wyf yn hoffi pwyntio bys, ond rwy'n eich beio chi, Lee Waters, oherwydd rydych chi wedi cael pob cyfle i fynd i'r afael â'r mater brys hwn ac rydych wedi anwybyddu pawb yn llwyr.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Tybed a allech chi ddweud wrthyf sut mae Llywodraeth y DU—mae'n ddrwg gennyf, Llywodraeth Lloegr—wedi mynd i'r afael â hyn, gyda chanslo'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a'r toriad o 10 y cant nawr yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar unwaith?

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Iawn. Fel cyd-Aelod yma, cawn ein hethol yn Aelodau o Senedd Cymru yma, felly fy mhryder i yw—. Byddwn yn dychmygu y bydd ASau draw yn Lloegr yn dal Llywodraeth y DU yn atebol, os oes angen iddynt, ond fy ngwaith i yw craffu ar y Llywodraeth hon a Lee Waters yn benodol.

Nawr, rwy'n siomedig, Ddirprwy Weinidog, eich bod chi, gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd—Plaid Cymru—Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi caniatáu i'r T19 rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno gael ei ddirwyn i ben heb fawr o rybudd. Tair wythnos—tair wythnos—sydd wedi mynd heibio ers i'ch swyddogion Trafnidiaeth Cymru wneud addewid, yn fy nghyfarfod rhithiol o randdeiliaid, i edrych ar wasanaeth fflecsi dyffryn Conwy a'r 19X fel atebion posib. Mae'r gweithredwyr bysiau hyn wedi cynnig atebion ond wedi cael eu hanwybyddu. Mae'n frawychus. I ddyfynnu cwmni bysiau yn Aberconwy, 'Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn cyfathrebu nac yn gohebu ac nid oes ganddynt arbenigedd yn y farchnad. O draciau i darmac, mae Trafnidiaeth Cymru wedi'u llethu'n ddifrifol.' Eu geiriau hwy, nid fy ngeiriau i. Mae hyn yn effeithio ar y bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas, ac mae Trafnidiaeth Cymru'n gwybod hynny. Maent hwy eu hunain wedi dweud nad oes gan 13 y cant o gartrefi Cymru gar at eu defnydd. Mae gan 25% o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor. Ac mae Sustrans Cymru—fe fyddwch chi'n cofio Sustrans Cymru, Lee—wedi dweud bod tlodi trafnidiaeth yn brofiad cyffredin yma yng Nghymru. Byrdwn Plaid Cymru yw'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, ac rwy'n cefnogi hynny—wrth gwrs fy mod—ond nid yw'n ddigon. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o leiaf 18 mis, ond gadewch inni fod yn glir, ni fyddai camau o'r fath yn darparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru. I ddyfynnu rhanddeiliad, 'Ateb ariannol dros dro yw'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, wedi'i gynllunio i wneud iawn am golledion i fusnesau sy'n gwneud fawr ddim, os rhywbeth, i ddenu cwsmeriaid yn ôl ar eu bysiau mewn gwirionedd'.

Nawr, rwy'n gwybod ei fod yn eithaf tebyg i'r swyddfeydd post gyda bysiau. Os nad ydych chi'n ei ddefnyddio, rydych chi'n mynd i'w golli, ac nid wyf yn meddwl eich bod chi'n cael y neges honno allan ddigon. Fel arfer mae'n llawer rhy hwyr ac mae pobl yn teimlo wedi'u gadael ar ôl ac yn ynysig. Nid yw lefelau defnydd lleol o fysiau ond tua 75 y cant i 80 y cant o'r lefelau cyn y pandemig, felly dywedwch wrthyf heddiw beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud am hynny? Mae angen ymgyrch fawr arnom sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a phob gweithredwr i farchnata gwasanaethau, nid yn unig er mwyn cael penolau ar seddi bysiau, ond i argyhoeddi'r cyhoedd mai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw'r ffordd orau o gael mynediad at siopau, gweithgaredd cymdeithasol a gwaith. Dylai'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau fod yn ddibynnol ar allu i brofi twf, buddsoddiad, gwelliant yn ansawdd y gwasanaeth a marchnata mawr. Fodd bynnag, mae gweithredwyr bysiau y siaradais i â hwy wedi rhybuddio ynglŷn â phroblem enfawr sydd ond ychydig o arosfannau i ffwrdd, sef y syniad hwn o fasnachfreinio. Mae un cwmni bysiau wedi ysgrifennu ataf i ddweud, 'Nid oes gennym unrhyw ddealltwriaeth o'r hyn y mae masnachfreinio yn ei olygu i'r sector'—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau ymyrryd? [Torri ar draws.] Popeth yn iawn.

'Mae bod yn gyfan gwbl yn y tywyllwch yn golygu na allwn gynllunio na buddsoddi yn ein busnesau nac mewn cynnal gwasanaethau allweddol'. Nawr, fel rhywun sy'n dod o'r sector preifat fy hun, mae nifer y bobl yn y sector preifat sy'n gofidio am y diffyg crebwyll busnes yn eich adran—. Yn fwy pryderus fyth, mae yna bryder yn y sector nad ydych chi, hyd yn oed chi, y Dirprwy Weinidog, a Trafnidiaeth Cymru, yn gwybod ychwaith. Mae unigolion sy'n gweithio yn y sector wedi awgrymu wrthyf y bydd gweithredu model masnachfreinio tebyg i un Llundain—dewch, Blaid Cymru, ni fyddwch yn hoffi hyn—ledled Cymru'n costio o leiaf £300 miliwn y flwyddyn. Nid yw'n syndod, felly, fod y sector yn galw'n briodol am esboniad clir pam eich bod yn credu bod masnachfreinio yn hynod o hyfyw. [Torri ar draws.] Fe dderbyniais ymyriad.

Ar draws y diwydiant bysiau a choetsys, mae yna amheuaeth enfawr a yw Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru â gallu mewn gwirionedd i lunio, contractio a rheoli fframwaith masnachfraint ar gyfer Cymru gyfan. Lywydd, mae angen inni glywed gan y Dirprwy Weinidog heddiw nid yn unig sut y bydd yn cefnogi cwmnïau bysiau yn y tymor byr, ond sicrwydd bod y cynllun mwy hirdymor i fasnachfreinio yn fforddiadwy ac yn ymarferol hyd yn oed. Nid oes angen i mi eich atgoffa sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'i pherchnogaeth ar faes awyr. Diolch, Lywydd.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 6:10, 22 Mawrth 2023

Bydd y rhan fwyaf ohonom ni yma yn adnabod rhywun sy'n dibynnu'n llwyr ar fysiau i gyrraedd rhywle—boed hynny'n aelodau o'r teulu neu'n etholwyr, mae pobl angen bysus i gyrraedd y gwaith, i gyrraedd y siop, i gyrraedd yr ysgol, i apwyntiadau meddygol, neu i gael mynediad at hamdden. Yn sicr, mae'n wir yn fy rhanbarth i—cymunedau sy'n cael eu tanwasanaethu gan y rhwydwaith rheilffyrdd, er enghraifft—fod pobl yn ddibynnol ar fysiau i fyw eu bywydau, a'u byw'n dda. Fel sydd wedi sôn yn barod, mae mynediad i fysiau yn fater cyfiawnder cymdeithasol ac mae'n fater newid hinsawdd, ond, ar ben hynny, mae e hefyd yn fater economaidd. Mae'n dylanwadu ar allu pobl i gael mynediad at waith a pha waith y gall y bobl hynny ei gyrraedd, ond mae e hefyd yn penderfynu pa wasanaethau sydd ar gael i bobl. Gyda'r cynnydd mewn siopa ar-lein a marwolaeth araf y stryd fawr, mae bysiau'n mynd i fod yn hanfodol er mwyn caniatáu i gwsmeriaid gefnogi busnesau yn y dref.

Photo of Luke Fletcher Luke Fletcher Plaid Cymru 6:11, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf fi a chyd-Aelodau wedi codi'r mater hwn dro ar ôl tro. Nid yw cymunedau yn fy rhanbarth i'n cael eu gwasanaethu'n llawn gan drafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw'n help fod yna ddiffyg buddsoddiad mewn rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU, er enghraifft. Os edrychwn ar Ogwr, nid yw mwyafrif llethol yr etholaeth yn cael ei gwasanaethu gan y rheilffyrdd. Ac nid yw hon yn nodwedd sy'n perthyn i Ogwr yn unig; mae'n rhywbeth sydd i'w weld ledled Cymru. Fel y dywedais o'r blaen, mae cymoedd yn fy rhanbarth yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau bws ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus—o gymoedd Ogwr i gymoedd Nedd a Thawe. Mae llawer o'r ardaloedd hyn yn ddibynnol ar y gwasanaethau hyn ac er hynny, mae gwasanaethau dan fygythiad cyson o gael eu torri neu gael eu newid oherwydd nad ydynt yn broffidiol mwyach.

Nawr, y gwir amdani yw, cyn belled â bod gwasanaethau bws yn nwylo cwmnïau sy'n cael eu cymell gan elw, ni fyddant byth yn cael eu hysgogi gan anghenion ein cymunedau. Dyna'r gwir sylfaenol. Methiant arall polisi Thatcheraidd ac un y mae angen i ni ymrafael ag ef. Lle mae angen gwasanaethau, yn bennaf mewn cymunedau incwm isel, fe wyddom eu bod fwy neu lai'n absennol ac o ansawdd gwael, ond lle gall pobl fforddio talu mwy am y gwasanaethau hyn, mae ansawdd y gwasanaeth yn wych. Mae Huw wedi gwneud y pwynt yn barod—ac mae Huw a minnau'n aml yn taro ar ein gilydd ar drafnidiaeth gyhoeddus—ond mae angen inni flaenoriaethu ei ddefnydd. Mae angen inni annog eraill i'w ddefnyddio. Rydym ar fin gwneud y broblem yn waeth, ac yn y pen draw, os ydym am wireddu gweledigaeth o Gymru werdd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus yn brif ddull o deithio, mae angen inni gael bysiau'n iawn, ac mae angen inni annog eu defnydd uwchlaw popeth arall. Mae hynny'n golygu bod mewn dwylo cyhoeddus, sy'n golygu ymwneud y gymuned wrth fapio llwybrau—pŵer yn unrhyw fan lle ceir pobl.

Rwyf hefyd yn falch o glywed cludiant ysgol yn cael ei godi, mater y mae gwir angen inni ei ddatrys. Y glaw rydym wedi'i gael dros y dyddiau diwethaf, ac mae plant wedi bod yn cerdded yn y glaw hwnnw, dros awr, yn cyrraedd yr ysgol yn wlyb diferol. Ar drafnidiaeth ysgol, byddwn yn gwerthfawrogi eglurder ar ddau bwynt. Yn gyntaf, a oes gan Lywodraeth Cymru rôl yma? Yn dibynnu ar bwy y byddwch chi'n gofyn iddynt, fe gewch chi ymatebion gwahanol. Yn ail, fel arfer, sut y telir am gontractau? A wneir hynny yn ôl llwybr neu yn ôl y nifer o blant? Mae gennym enghreifftiau o fysiau hanner gwag yn mynd heibio i blant, er enghraifft, ac mae gennym enghreifftiau o fysiau'n stopio ar strydoedd gyda rhai plant ar y stryd honno yn cael mynd ar y bws ac eraill nad ydynt yn cael gwneud hynny oherwydd rheol brodyr a chwiorydd y gwn ei bod yn weithredol ym Mhen-y-bont ar Ogwr; mae'n bosibl fod awdurdodau lleol eraill yn ei defnyddio. Ni chânt ddefnyddio'r gwasanaeth, yn y bôn, ac mae rhieni'n awyddus iawn i weld eu plant yn cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac yn sych, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder ar y mater hwnnw gan y Gweinidog.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 6:14, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Blaid Cymru am y cynnig hwn. Byddaf yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio.

Gadewch imi ddweud stori fach wrthych am guro ar ddrysau mewn pentref o'r enw Llangynog, sydd ychydig i'r de o Lanwddyn, ger llyn Efyrnwy. Deuthum ar draws dynes a ddywedodd wrthyf am y gwasanaeth bws yr oedd hi'n ei gael bob wythnos gyda'i ffrindiau, yn cael ei redeg gan Tanat Valley Coaches, sydd wedi'u lleoli yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Unwaith bob dydd Mawrth, byddai'r bws yn eu codi i gyd tua 11 y bore. Byddent yn mynd i Groesoswallt, mewn gwirionedd—yn Lloegr, mae arnaf ofn—i gael gwneud eu gwalltiau, i wneud eu siopa ac i gael paned o goffi, a byddent yn dod yn ôl. Dyna'r unig wasanaeth bws, unwaith yr wythnos. Ond i fynd yn ôl at bwynt Delyth, roedd mor bwysig i'r gymuned honno. Câi ei redeg gan Tanat Valley Coaches, cwmni yr ymwelais â hwy. Roedd yn wasanaeth a oedd yn cynnig gwasanaethau bws i ysgolion hefyd, ac mewn gwirionedd, fe ddywedasant wrthyf eu bod yn gwneud colled, ond roeddent yn teimlo ei bod hi mor bwysig eu bod yn parhau gyda'r adnodd cymunedol hwn. Rwy'n eu canmol ac yn eu cefnogi am hynny. I'r cymunedau gwledig hynny, fe wyddom—. Mae llawer ohonom yn eu cynrychioli ac rydym wedi clywed gan lawer o Aelodau yma pa mor hanfodol ydynt. Roedd y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau mor hanfodol iddynt hefyd i ddiogelu'r gwasanaethau hynny, ac rydym bellach yn wynebu ymyl clogwyn gyda chyllid. Rwy'n cytuno'n llwyr â phopeth sydd wedi cael ei ddweud am ddadreoleiddio hefyd, ond mewn ardaloedd gwledig, mae angen ateb arnom. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod angen cyllid hirdymor. Byddai'n drychinebus i'n cymunedau pe baem yn colli'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau ar ei ffurf bresennol. Bu'n achubiaeth. Mae Graham Vidler o'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr wedi dweud y byddai rhai cymunedau yng nghefn gwlad gorllewin Cymru yn cael eu hynysu'n gyfan gwbl. Mae angen inni sicrhau nad yw llwybrau pwysig sy'n cysylltu cymunedau â gwasanaethau, fel rydych chi wedi clywed, mewn lleoliadau gwledig, fel ysbytai lleol ac ysgolion, yn gweld gostyngiad sylweddol yn eu gwasanaethau. 

Mae angen sicrwydd ar ardaloedd gwledig, ac mae angen buddsoddiad ar ein cymunedau. Rydym i gyd eisiau hyrwyddo economi gynaliadwy yn ein hardaloedd gwledig, ond mae'n dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gweddus, ac yn ymwneud â dirywiad hirdymor yn y defnydd o fysiau. Rwy'n ategu pwynt Huw Irranca-Davies hefyd: mae angen inni eu defnyddio, neu fe wnawn eu colli. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r gwasanaeth bws Fflecsi, sydd wedi'i dreialu. Mae wedi creu argraff fawr arnaf, ar ôl ei weld yn sir Benfro, felly rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hwnnw.

Rydym yn gwybod na allwn gyflawni sero net heb gynyddu'r defnydd o fysiau. Mae effaith ymyl clogwyn bellach yn golygu y gallai'r diwydiant bysiau wynebu trychineb i deithwyr ac i'r diwydiant, ac mae'n tanseilio ymrwymiad y Llywodraeth i nodau amgylcheddol. Yng Nghymru y ceir y gyfradd uchaf o gymudo ceir yng ngwledydd y DU eisoes, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn edrych ar iaith argyfwng hinsawdd drwy'r lens honno. Rwy'n cymeradwyo'r adolygiad ffyrdd. Rwy'n credu mai fi oedd yr unig Aelod yma mae'n debyg a gefnogodd yr adolygiad ffyrdd heb unrhyw amodau o gwbl. Felly, diolch i chi am hwnnw, ac mae angen inni symud ymlaen ar hynny; mae hynny'n bwysig iawn.

Rwyf wedi bod yn argymell ers amser hir hefyd y dylid cyflwyno teithio am ddim ar fysiau i bawb dan 25 oed. Byddai'n cael effaith drawsnewidiol ar fywydau llawer o bobl ifanc, eto, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig hynny. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn ategu ei uchelgeisiau drwy weithredu. Mae angen inni roi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i weithredwyr bysiau i ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni ar gyfer twf cynaliadwy yn y math o ardaloedd gwledig rwy'n eu cynrychioli. Nid wyf yn credu y gallwn dynnu'r cymorth brys yn ôl nes bod gennym o leiaf gynllun ariannu priodol ar waith, oherwydd dyna sydd ei angen ar wragedd Llangynog. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:19, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael cyfle i drafod y pwyntiau hyn yn y fforwm hwn, fel rydym yn ei wneud y prynhawn yma. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn trafod y pwyntiau hyn, ein bod yn gwrando ar beth sydd gennym i'w ddweud, ac yna ein bod yn derbyn ymyriadau gan ein gilydd fel ein bod yn cael dadl, yn hytrach na dim ond darllen cyfraniad wedi'i baratoi ymlaen llaw. Oherwydd os yw'r ddadl hon i olygu unrhyw beth, mae'n golygu gwrando, ein bod yn gallu derbyn ac nid trosglwyddo'n unig. Mae'r Gweinidog hwn, i fod yn deg ag ef, yn gallu gwneud hynny. Weithiau byddai'r Prif Weinidog yn hoffi pe na bai. Ond rwy'n siŵr ei fod yn gwrando ar yr holl bethau gwahanol hyn, ac yna'n ateb yn ei ffordd ei hun. [Chwerthin.]  

Mae yna dri pheth yr hoffwn i'r Gweinidog fynd i'r afael â hwy yn ei gyfraniad i'r ddadl y prynhawn yma. Y cyntaf yw polisi'r Llywodraeth, oherwydd mae'r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn wrth amlinellu beth yw ei pholisi, ac rydym newydd glywed Jane Dodds yn disgrifio rhai elfennau o hynny, a Sioned Williams cyn hynny'n rhoi sylw i hynny. Ond os yw'r Llywodraeth o ddifrif am ddefnyddio bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus, fe fydd yn sicrhau, pan fydd yn cynllunio'r ffordd y bydd yn darparu gwasanaethau cyhoeddus, fod trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o hynny. Ers pum mlynedd rwyf wedi dod i'r lle hwn ac wedi dadlau am wasanaethau bws i gysylltu fy etholaeth ag ysbyty'r Faenor, ac ers pum mlynedd nid oes unrhyw Weinidog erioed wedi anghytuno â mi. Dim un. Ac ni ddarparwyd yr un bws. Dim un. I fod yn deg â'r Gweinidog presennol, mae'n ateb fy ngohebiaeth, ac mae'n tynnu sylw at y ffaith bod bysiau'n rhedeg o lefydd eraill, ac mae hynny'n gysur mawr, wrth gwrs, ond nid dyna'r ateb i'r cwestiwn. Os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â beth yw ei huchelgeisiau, mae'n rhaid iddi sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus—yn yr achos hwn, bysiau—yn cysylltu â'r holl wasanaethau cyhoeddus a ddarperir, ac ni ddylid ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus heb gynllun trafnidiaeth gyhoeddus i gynnal ac i gefnogi'r ad-drefnu hwnnw. Mae hynny'n golygu'r ddynes y bûm yn siarad â hi yn fy etholaeth yr wythnos hon, a ddywedodd wrthyf, pan oedd ei mam yn sâl ac yn ysbyty'r Faenor dros y penwythnos diwethaf, ei bod hi'n teimlo'n fregus ac yn sâl, ond yn ynysig hefyd, ac ni ddylai neb deimlo felly pan fyddant yn wynebu triniaeth mewn ysbyty. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod hynny.

Yr ail beth yr hoffwn ei ofyn i'r Gweinidog yn y ddadl hon—. Gwenais pan soniodd Jane Dodds gymaint o argraff a wnaeth Fflecsi arni. Byddwn yn ei chynghori i ddod i Lynebwy, oherwydd yng Nglynebwy, lle mae'r rhaglen Fflecsi wedi bod gennym ers y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae rhai elfennau da'n perthyn iddo. Peidiwn â gwamalu: mae'r mynediad at ystadau diwydiannol ac at gymunedau mwy anghysbell wedi golygu bod yno wasanaeth na châi ei ddarparu o'r blaen. Un o'r problemau, wrth gwrs, gyda'r defnydd o bàs bws a thrafnidiaeth â chymhorthdal yw bod patrymau teithwyr wedi newid, ac felly nid oes model masnachol ar gael i ni bob amser ar gyfer darparu trafnidiaeth gyhoeddus i bobl sy'n mynd i weithio'n gynnar yn y bore ac yn dychwelyd yn hwyr y nos. Mae Fflecsi wedi gweithio yno, ac mae wedi gweithio i gysylltu ardaloedd fel Garnlydan a stad ddiwydiannol Rasa. Mae wedi gweithio yno. Ond yr hyn nad yw wedi'i wneud yw darparu ar gyfer anghenion trafnidiaeth gyhoeddus tref Glynebwy yn ystod y dydd. Mae'r awdurdod lleol yno'n dweud, 'Mewn gwirionedd, yr hyn rydym ei eisiau yw Fflecsi hyblyg, fel bod gennym y gwasanaeth Fflecsi ar ddechrau a diwedd y dydd i alluogi'r gwasanaeth i ddarparu'—[Torri ar draws.] fe wnaf ildio—'ar yr adegau hynny o'r dydd, ond yn ystod oriau craidd y dydd, rydym eisiau'r gwasanaeth cylchol o gwmpas y dref yn ei ôl', sef gwasanaeth sy'n rhedeg o gwmpas y dref gan ddarparu cyfleoedd i bobl ddal y bws hwnnw, sy'n rhoi sicrwydd iddynt o wybod pryd fydd y bysiau yno. Fe wnaf ildio.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:23, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Alun, diolch yn fawr iawn i chi am ildio. A fyddai'n cytuno â mi, wrth inni geisio pontio i'r dyfodol gwell hwn gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw cysylltu'r holl ddulliau hynny, gan gynnwys nid yn unig bws Fflecsi ond trafnidiaeth gymunedol hefyd? Rydym yn rhoi cannoedd o filoedd o bunnoedd i mewn i drafnidiaeth gymunedol dda iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ond cysylltu'r rheini â'r gwasanaeth wedi'i drefnu, â'r trenau ac ati yw'r hyn sydd ei angen arnom wrth inni symud i system wedi'i hail-reoleiddio, gyda mewnbwn democrataidd i ddweud, 'Dyma sut rydym yn tynnu'r cyfan at ei gilydd.'

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Dyna'n union sydd ei angen arnom, a dyna fy nhrydydd pwynt, a'r olaf mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb i fy mhwynt ar Fflecsi wrth ymateb i'r ddadl. Ond mae'n beth eithaf rhyfeddol fod Janet Finch-Saunders wedi gallu siarad am bron i chwe munud am ddyfodol gwasanaethau bws heb sôn am drychineb dadreoleiddio. Mae wedi bod yn gatastroffig.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:24, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Fe ddywedoch chi y byddech chi'n derbyn ymyriadau. Alun, ni allwch wadu ein bod wedi cael 25 mlynedd o ddatganoli. Mae trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i datganoli. Ni allwch daflu hyn yn ôl at Lywodraeth y DU, ni waeth faint y ceisiwch chi wneud hynny.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn gwybod ble i ddechrau weithiau. Janet, rydych chi'n hollol iawn ein bod ni wedi cael 25 mlynedd o ddatganoli, ond rydym wedi cael bron i 30 neu 40 mlynedd o wasanaethau bws wedi'u dadreoleiddio sydd wedi methu. Maent wedi gwneud cam â'r wlad. Mae'r Llywodraeth hon yn mynd i newid y gyfraith yn ystod y ddwy flynedd nesaf, ac rwy'n disgwyl i chi bleidleisio drosto, a bod yn gwbl onest, a gobeithio y bydd eich holl gyd-Aelodau yn pleidleisio dros hynny.

Lywydd, rwyf am ddod â fy sylwadau i ben nawr. Yr hyn rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ei wneud—nid y prynhawn yma efallai, ond rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn cyfrannu at ei syniadau—yw mynegi ei weledigaeth newydd ar gyfer gwasanaethau bws. Oherwydd pan gafodd y maniffesto ei ysgrifennu, pan ydym wedi cael y dadleuon hyn yn y gorffennol, roeddent i gyd yn ymwneud â gwasanaethau bws a oedd heb eu heffeithio gan COVID. Mae'n amlwg fod COVID wedi newid y cyd-destun yr ydym bellach yn gweithredu ynddo, ac rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno datganiad yma ar eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol fel y gallwn ddeall ble maent yn gweld gwasanaethau bws yn datblygu. Mae'r estyniad i'r arian presennol ar gyfer bysiau yn beth da, ond rwyf eisiau, er enghraifft, gweld rôl i'r gweithredwyr llai. Nid wyf eisiau gweld ein holl wasanaethau bws yn cael eu prynu a'u diberfeddu gan sefydliadau mwy o faint sydd â'u bryd ar wneud elw ac nad ydynt yn malio am y bobl a wasanaethant. Rwyf eisiau gweld y rôl honno. Rwyf eisiau gweld gwasanaethau'n darparu ar gyfer y cymunedau llai, y cymunedau ynysig—ac nid ydynt i gyd mewn cymunedau gwledig, maent yng nghanol ein dinasoedd a'n trefi. Mae hynny'n golygu bod rhaid inni gael gweledigaeth hollgynhwysol, a chyflawni ar ei chyfer, lle bydd y gyllideb a beth fydd y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer darparu'r gwasanaethau hyn. Wedyn rwy'n disgwyl i'r Ceidwadwyr dderbyn ein hymyriadau, i wrando ar yr hyn a ddywedwn a phleidleisio dros y polisi.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 22 Mawrth 2023

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl y prynhawn yma ar y pwnc hollbwysig hwn ac am y cyfraniadau rhagorol niferus ar draws y Siambr yn nodi'r heriau amlwg sy'n ein hwynebu. Rwy'n credu bod yna gonsensws cryf ynghylch yr angen am wasanaeth bws cynhwysfawr a fforddiadwy. Ond fel y nododd Huw Irranca yn gywir, mae'r rhestr o heriau'n glir; mae'r rhestr o atebion yn llai eglur.

Rwy'n credu bod pedwar prif rym ar waith yma sy'n ein harwain at ble rydym heddiw, ac yna fe ddof at y pwyntiau a godwyd yn y ddadl a'n camau nesaf. Y cyntaf, rwy'n credu, yw un a gydnabyddir gan y dadansoddiad yn yr adolygiad ffyrdd, ein bod ni fel gwlad, dros genedlaethau, dros nifer o Lywodraethau, wedi blaenoriaethu'r car preifat yn lle teithio torfol a rhoi dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd da i bobl. Pan edrychwch ar rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus llwyddiannus ar draws y cyfandir, maent yn gyson yn gwario mwy na ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac wedi gwneud ers cenedlaethau. Rydym yn dechrau o'r safbwynt etifeddol o ddiffyg pwyslais sylfaenol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Yr ail ffactor y credaf ein bod yn ymwneud ag ef yma yw effaith preifateiddio ar ddechrau'r 1980au. Nid oes amheuaeth fod y system fysiau wrth fynd i mewn i COVID yn hynod fregus. Dôi dros hanner holl refeniw'r gweithredwyr bysiau preifat gan y Llywodraeth. Tynnodd Delyth Jewell sylw yn ei chyfraniad at y gwersi i'w dysgu o Lundain. Wel, y brif wers o Lundain yw i beidio â phreifateiddio eich gwasanaeth bws. Llundain oedd yr unig ran o'r wlad na wnaeth ddadreoleiddio ei bysiau yn yr 1980au, a gallwch weld canlyniadau hynny. Mae bysiau'n wasanaeth cyhoeddus, ond cânt eu rhedeg er elw.

A dyma'r trydydd ffactor: chwythodd COVID y model hwnnw'n dipiau. Rwy'n meddwl mai dyna yw ein problem; mae model bregus wrth fynd i mewn i argyfwng dirfodol wedi gwthio'r model gweithredu dros y dibyn. Mae'r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr yn dweud bod lefelau teithwyr yn gyson 15 y cant yn is na'r lefelau cyn y pandemig, pan oeddent eisoes wedi bod yn gostwng. Nid problem yng Nghymru'n unig yw hon, mae'n broblem ar draws y byd. Roeddwn yn gwrando ar y BBC World Service yn ystod yr oriau mân y noson o'r blaen, yn clywed am broblemau tebyg yn Japan, lle mae gwasanaethau bysiau yn Tokyo yn cael eu dirwyn i ben am nad yw niferoedd y teithwyr wedi dychwelyd i'r lefelau cyn COVID. Felly, ceir problem fyd-eang yma gyda phobl yn cael hyder i fynd yn ôl ar drafnidiaeth torfol.

Y peth arall a wnaeth COVID wrth gwrs oedd taro'r gweithlu yr oedd y diwydiant bysiau yn dibynnu arno. Un o ganlyniadau preifateiddio yw ein bod wedi gweld cyflogau'n cael eu cadw'n isel yn y diwydiant bysiau ers preifateiddio. Rydym wedi dibynnu ar weithlu sy'n heneiddio, gyda llawer ohonynt wedi penderfynu peidio â dychwelyd ar ôl COVID, ac mae'r broblem y tynnodd Sioned sylw ati gyda bysiau nad ydynt yn dod ar amser yn ffactor sy'n deillio'n bennaf o brinder staff o ganlyniad i'r her honno yn y gweithlu.

Felly, dyna'r tair prif her y credaf ein bod yn ymdrin â hwy. Y bedwaredd, sydd wedi rhoi'r farwol i'r cyfan, wrth gwrs, yw cyni. Fel y nododd Huw Irranca-Davies, ni chyhoeddwyd yr un geiniog yng nghyllideb yr wythnos diwethaf ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi cloddio'n ddwfn i'n cyllidebau ariannol i gefnogi'r diwydiant bysiau; £150 miliwn yn ystod COVID, a hebddo, byddai'r diwydiant bysiau wedi mynd yn fethdalwr. Mae'n werth nodi, yn Lloegr, fod tua 20 y cant o lwybrau bysiau wedi diflannu. Yng Nghymru, mae 2 y cant wedi diflannu, oherwydd ein bod ni wedi buddsoddi yn y diwydiant bysiau a'i atal rhag mynd i'r wal—

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 6:30, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Mewn perthynas â'r data rydych chi newydd ei roi i ni am y niferoedd bysiau yn Lloegr, a ydych chi'n teimlo bod y cymhorthdal brys i'r sector bysiau a roddwyd gennym yng Nghymru wedi cael effaith sylweddol ar hynny?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'r diwydiant bysiau yn dweud hynny eu hunain; maent yn glir iawn y byddai'r diwydiant bysiau wedi dymchwel hebddo. Ac rwyf am ddweud hyn yn ddifrifol wrth y siaradwyr Ceidwadol: rydym wedi gwneud dewisiadau yn y Llywodraeth hon i gefnogi bysiau, a hoffem barhau i wneud y dewisiadau hynny, ond yn wyneb y gyllideb cyni barhaus sydd gennym, nid oes gennym adnoddau ar gael i barhau i ariannu'r cymhorthdal brys ar y raddfa y buom yn ei wneud. Rydym eisoes wedi gwario dros £100 miliwn y flwyddyn yn sybsideiddio cwmnïau preifat i redeg bysiau. Ar ben hynny, mae chwarter y gyllideb addysg yn cael ei gwario ar gludiant ysgol. Felly, mae symiau sylweddol o arian cyhoeddus yn mynd i gwmnïau preifat i fodel toredig, sydd heb ddarparu'r system rydym ei hangen. Ac rwy'n credu bod yr argyfwng presennol hwn yn dangos yn fwy na dim—mae'n gwneud yr achos dros ddiwygio masnachfreinio a nodwyd gennym yn ein Papur Gwyn.

Felly, rwy'n hyderus fod gennym y cynllun tymor canolig cywir i unioni llawer o'r diffygion a nodwyd y prynhawn yma. Ond wrth gwrs, mae gennym fwlch, a dyna rydym yn ymrafael ag ef ar hyn o bryd. Nawr, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd gyda'r gweithredwyr bysiau, rydym yn cyfarfod yn wythnosol; fe gyfarfûm â hwy ddydd Llun, ac rwy'n cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rydym yn ceisio meddwl am ffordd ymlaen sy'n pontio'r bwlch rhwng ble rydym ni a chyrraedd masnachfreinio. Nid yw'r arian yno i gadw'r holl wasanaethau presennol i redeg, ac fel y nododd Janet Finch Saunders yn gywir—rwy'n cytuno â hi ynglŷn â hyn—mae'r cymhelliant a adeiladwyd i mewn i system y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau gyfredol, a oedd yn ymateb brys, yn datgymell ail-addasu'r gwasanaethau bws i ateb gofynion teithwyr heddiw. Rydym yn rhedeg rhwydwaith bysiau yn seiliedig ar yr ôl troed cyn COVID, gyda 7 y cant o elw gwarantedig i ddiogelu'r gweithredwyr rhag realiti'r farchnad, ac nid yw hynny'n rhywbeth yr ydym am barhau i'w wneud. Felly, rydym am ddod â'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ben ym mis Mehefin, ond rydym am greu rhywbeth yn ei sgil sy'n caniatáu inni gyrraedd y cam nesaf mewn ffordd sy'n rhesymegol a synhwyrol a fforddiadwy.

Nid yw'r Ceidwadwyr yn dweud dim am wasanaethau bysiau yn Lloegr sy'n methu; am nad yw Llywodraeth y DU yn gwario unrhyw arian ar fysiau yn Lloegr, nid ydym ni'n cael cyfran Barnett o hynny. Felly, mae gennym her ariannol go iawn yma, ac fel y mae Plaid Cymru'n gwybod yn dda iawn o'r trafodaethau y maent wedi bod yn eu cael gyda ni am weddill y gyllideb eleni, rydym ar y cyd wedi blaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus eraill pwysig iawn, ond ni allwn wario'r arian hwnnw ddwywaith, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen iddynt ei gydnabod am y dewisiadau rydym wedi'u gwneud ar y cyd a chanlyniadau'r dewisiadau hynny. Nid oes unrhyw opsiynau hawdd yma. Felly, rydym yn wynebu problem wirioneddol, nid oes modd gwadu hynny. Gyda'r diwydiant, rydym yn gweithio drwy ffordd o wneud y gorau o'r arian sydd gennym, felly rydym wedi ymestyn y cyllid am dri mis; mae'r Prif Weinidog wedi dweud yn glir ein bod yn barod i sicrhau cyllid pellach, ac rydym yn ceisio cyd-gynllunio ffordd o wneud hynny gyda'r diwydiant sy'n diogelu cymaint o wasanaethau â phosibl, ond mae llai o arian ar gael na'r llynedd, ac felly, bydd lleihad yn y rhwydwaith bysiau. Nid yw'n rhywbeth rwyf am ei weld; nid yw'n rhywbeth y mae unrhyw un yn yr ystafell hon eisiau ei weld, ond dyna ganlyniad y pedwar grym a nodais, ac yn enwedig y gyllideb cyni sy'n ein hwynebu.

Er mwyn mynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau eraill a wnaed yn y ddadl eang hon, hoffwn ddweud wrth Janet Finch-Saunders fy mod yn cytuno â hi hefyd ynghylch yr angen am ymgyrch fawr, a chyda Huw Irranca-Davies hefyd, i gael pobl yn ôl ar fysiau. Un o'r problemau mwyaf sydd gennym ar y rhwydwaith bysiau yw bod y blwch tocynnau i lawr oherwydd nad yw niferoedd y teithwyr yno. Nid yw'r refeniw'n dod i mewn ac ni fydd y model sydd gennym yn gweithio. Felly, rwy'n awyddus iawn i weithio gyda'r diwydiant i gael ymgyrch i ddenu pobl yn ôl ar fysiau.

Rwy'n cytuno hefyd gyda'r hyn a ddywedodd Luke Fletcher am rôl cludiant ysgol. Ar hyn o bryd mae gennym system aneffeithlon iawn lle rydym yn trin cludiant ysgol fel endid ar wahân. Yr hyn yr hoffwn ei wneud fel rhan o'r masnachfreinio yw dod â chludiant ysgol i mewn i'r cysylltiadau wedi'u trefnu ac rydym yn gweithio gyda sir Fynwy yn enwedig i weld a allwn dreialu hynny gyda'u bysiau ysgol, wrth inni wneud cynnydd tuag at fasnachfreinio. 

Ar bwynt Alun Davies ar y Faenor, mae'n bwynt y mae wedi'i wneud yn gryf ac yn gywir ers peth amser. Rwyf wedi ysgrifennu ato eto heddiw, yn nodi un o'r rhesymau sydd gennym, fel rwyf wedi'i grybwyll o'r blaen, sef bod y system bresennol o ddadreoleiddio wedi torri. Ac rydym wedi ceisio cyflwyno gwasanaethau a gynhelir yn gyhoeddus, ond maent wedi cael eu herio gan weithredwyr eraill, a oedd yn ein hatal, o dan y gyfraith gystadleuaeth bresennol, rhag dod â hynny i mewn. Ond rydym yn credu ein bod bellach wedi dod o hyd i ffordd o amgylch hynny ac rydym yn gobeithio y byddwn yn gwneud cyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf ar wasanaeth i'w etholwyr i'r gwasanaethau iechyd cyhoeddus allweddol hynny. Ac ar y Fflecsi, wrth gwrs, mae'n iawn fod iddo gryfderau a gwendidau, a dyna bwynt cynllun peilot—treialu pethau. Ac rydym yn ei werthuso, ac mae'n gywir, mewn sawl man, mai gwasanaeth wedi'i drefnu yw'r hyn sydd ei angen, ac mae Fflecsi'n gwneud yr ychydig ychwanegol nad yw'r gwasanaeth wedi'i drefnu wedi'i wneud yn dda. 

Gallaf sicrhau Jane Dodds nad yw menywod Llangynog wedi cael eu hanghofio, na phobl cwm Nedd ychwaith na chwm Gwendraeth nac unrhyw ran arall o Gymru. Mae gennym broblem go iawn yma y mae angen i bob un ohonom ei hwynebu: am gyfnod rhy hir, nid ydym wedi buddsoddi digon mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym yn ymdrin â system etifeddol sydd wedi torri; mae COVID wedi ei gwthio dros yr ymyl ac mae cyni yn ein hatal rhag dod i'r adwy. Hyd yn oed o ystyried y cyfyngiadau real iawn hynny, fe wnaf fy ngorau glas, gan weithio gyda'r diwydiant a llywodraeth leol, i ddod o hyd i ateb sy'n ein cael o ble rydym i fasnachfreinio, sydd, yn fy marn i, yn cynnig llawer o'r atebion tymor canolig rydym i gyd yn cytuno bod eu hangen.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb am gymryd rhan yn y drafodaeth yma. Wel, os mai trafnidiaeth gyhoeddus ydy'r Cinderella o wasanaethau cyhoeddus, yna gwasanaeth bysiau ydy chwaer fach angof Cinderella.

Diolch yn fawr i ti, Delyth, am agor y ddadl yma mor huawdl, gan beintio darlun inni ar y cychwyn—rydyn ni wedi clywed mai cwmnïau cymunedol ydy nifer o'r cwmnïau yma sydd yn darparu'r gwasanaethau yma a pha mor bwysig ydy'r gymuned yng nghanol y ddarpariaeth honno.

Rŵan, os ydym yn edrych ar ein cymunedau ni, am lawer rhy hir, mae yna bobl llawer mwy gwybodus na fi wedi bod yn gofyn pam ein bod ni'n gweld diboblogi yn ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae’r ateb, wrth gwrs, i'r diboblogi hynny yn un dyrys, ond un elfen ddiymwad ydy oherwydd y diffyg mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Gall ein cymunedau ni ddim fforddio colli mwy o wasanaethau, ond fel y saif pethau, dyna sydd am ddigwydd, ac os nad ydym ni am weld y BES yn cael ei ailgyflwyno, yna, mi fyddwn ni'n gweld mwy o wasanaethau’n diflannu. Fe soniodd y Dirprwy Weinidog rŵan hyn ein bod ni wedi gweld nifer y staff yn y gwasanaethau bysys yn diflannu yn ystod COVID, wel, mae’n flin gen i i ddweud, os na fydd y BES yn cael ei ailgyflwyno, bydd gweddill y staff hefyd yn diflannu, gan golli swyddi oherwydd y llwybrau bydd yn cael eu colli.

Mae gan y Llywodraeth yma, mae arnaf i ofn dweud, arfer gwael o ddatblygu polisi yn seiliedig ar brofiadau dinesig, gan geisio gorfodi'r drefn honno ar gymunedau eraill. Mae iechyd a hamdden yn enghreifftiau perffaith o hyn. A phan fod y model yma'n methu, yna, yn hytrach na llunio model newydd addas i bwrpas, yr hyn sy’n digwydd ydy bod ein cymunedau ni'n cael eu hamddifadu. Mewn gwirionedd, mae o'n fodel trefedigaethol—mae ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol yn cael eu hecsbloetio am eu hadnoddau gwerthfawr, yn arbennig, felly, ein pobl ifanc ni sy’n cael eu hechdynnu allan o’r cymunedau yna, ac yna does yna ddim buddsoddiad yn yr ardaloedd hynny i gymryd eu lle a'u cadw'n hyfyw. Dyna i chi, mewn gwirionedd, y diffiniad o broses drefedigaethol ar waith yma yng Nghymru.

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld gwasanaethau iechyd, swyddfeydd post, banciau ac eraill yn cael eu canoli i ffwrdd o’n cymunedau ni. Canlyniad hyn oll a mwy ydy bod disgwyl i bobl deithio am y gwasanaethau yma i’r dref neu’r ddinas agosaf, fel y clywsom ni efo Luke yn gynharach. Ac fe glywsom ni hefyd yn y cyfraniad yna am effaith hyn ar economi ein cymunedau ni.

Dyma i chi felly y broses sydd wedi bod ar waith yma yng Nghymru a cholli y grant yma, y BES, ydy rhoi y geirios ar ben cacen Margaret Thatcher. Ond, wrth gwrs, roeddwn i'n falch iawn o glywed Huw Irranca ac eraill yn galw am wyrdroi polisïau dadreoleiddio Thatcher yn yr 1980au ac yn falch o glywed ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i drio gwthio i’r cyfeiriad yna.

Dwi wedi nodi enghreifftiau o fy etholaeth i yma o'r blaen—

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Fel rhywun a oedd yn teithio ar fysiau cyn dadreoleiddio, gallaf eich sicrhau nad oedd yn oes aur ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond er hynny, a ydych chi'n cydnabod, yn Lloegr, am chwe blynedd o dan Ddeddf gwasanaethau bysiau trafnidiaeth 2017, maent eisoes wedi gallu dewis tri opsiwn, gan gynnwys masnachfreinio, na fu ar gael yng Nghymru oherwydd y model anhrefedigol?

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Dwi'n falch iawn clywed am yr enghraifft dda yna. Dwi'n meddwl, er tegwch i'r Dirprwy Weinidog, ei fod e wedi sôn am yr angen i edrych ar arferion da eraill, a cheisio eu mabwysiadu nhw. A dyna rai o'r atebion tymor canolig sydd wedi cael eu rhoi, ac mi ddof i ymlaen atynt yn y munud. Ond mae'r creisis yma rŵan, heddiw hyn, yn ein wynebu ni ar hyn o bryd. 

Ac fel roeddwn i am sôn, dwi wedi sôn am enghreifftiau yn fy etholaeth i. Cymrwch yr etholwr yn Harlech sy'n gorfod teithio pedair awr i fynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor er mwyn cael triniaeth. Neu'r hen ddynes ym Mlaenau Ffestiniog sydd bellach yn gorfod symud i fyw i Landudno oherwydd bod y T19 wedi mynd. Neu'r gŵr sydd o Gaernarfon, ond yn gorfod cysgu'r nos mewn pabell ym Mhwllheli, oherwydd nad oes yna fws i fynd â fo adref efo'r nos ar ôl ei shifft. Dyma'r mathau o enghreifftiau sydd yn ein hwynebu ni. Dŷn ni wedi clywed enghreifftiau eraill—Jane Dodds wedi sôn am y ddynes yna yn Llangynog sydd yn mynd i Groesoswallt; roeddwn i'n gwbl argyhoeddedig bod Croesoswallt yn rhan o Gymru—hwyrach bod yna ddadl arall yn fanna rhyw dro. Ond, ie, dyna'r mathau o enghreifftiau sydd yn wynebu pob un o'n cymunedau ni, a dŷn ni wedi'u clywed nhw. 

Roedd Huw Irranca a Jenny Rathbone yn sôn am y just transition yma. Ac, wrth gwrs, yn rhan o ateb y Dirprwy Weinidog, dŷn ni wedi clywed am y syniadau tymor canolig yma sydd yn cael eu cyflwyno. Ac mae'r angen yna am just transition yn gwbl, gwbl greiddiol i gael pobl i ffwrdd o'u ceir i drafnidiaeth gyhoeddus. Ond dydy pobl ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd y diffyg buddsoddiad rŵan hyn. A dyna'r gwendid sydd yn ein hwynebu ni ydy ein bod ni'n gweld colled yn y ddarpariaeth yna, ein bod ni'n gweld colled yn y pres sydd yn mynd i'r gwasanaethau bysys yma. 

Dŷn ni wedi clywed ambell i syniad da am fws Fflecsi, er enghraifft, ac mae'n rhaid i mi yn y fan yma ganu clodydd gwasanaeth bws Fflecsi o ddrws i ddrws yn Nefyn, sydd yn mynd o amgylch Llŷn. Mae yna arfer da yn fanno dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed amdano. Ond mae'r creisis yma yn ein hwynebu ni heddiw. Ddaru'r cwestiwn gael ei ofyn, 'Wel beth ydy'r ateb? Sut dŷn ni'n mynd i ariannu o?' Mae yna gwestiwn—roedd y bus emergency scheme yn cael ei ariannu yn ystod y gyllideb wreiddiol, ond, am ryw reswm, mae o wedi diflannu—felly, mae yna gwestiwn yn fanno am ble mae'r pres gwreiddiol yna oedd yn y gyllideb wreiddiol wedi mynd. Mae'r blaid yr ochr yma wedi rhoi cynigion ymlaen ynghylch trethi, a'r ffordd y gellid defnyddio'r system dreth yng Nghymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ond dydy'r Llywodraeth ddim wedi penderfynu cyd-fynd efo ni ar hynny. Ac o ran y tymor hir, wrth gwrs, mae'r HS2 yn cymryd £5 biliwn allan o gyllideb Cymru. Mae'r Northern Rail Powerhouse—neu beth bynnag ydy ei enw o—yn cymryd £1 biliwn yn ychwanegol allan, ac mae'r Ceidwadwyr yn gwrthod ymladd amdano fo, ac mae'n flin gen i i weld bod arweinydd Llafur yn y Deyrnas Gyfunol wedi gwrthod dweud y bydd e'n ymroi i roi'r pres yna yn ôl. Efo'r pres yna, mi fuasem ni yn medru buddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus. 

Felly, dwi am weld y Dirprwy Weinidog, a'r Llywodraeth yma, yn ymrwymo i sicrhau y bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn San Steffan yn rhoi'r pres yna i Gymru, ac yn gweld y buddsoddiad yn ein trafnidiaeth gyhoeddus ni. 

Felly, i gloi, diolch yn fawr iawn i bob un am gymryd rhan. Mae yna heriau yn ein hwynebu ni, ond yr ateb ydy buddsoddi, nid torri. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:43, 22 Mawrth 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dyma ni'n gohirio'r cynnig a'r bleidlais yna tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.