Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn. Rydym mewn sefyllfa anodd iawn yma, a chredaf ei bod yn gwbl briodol ein bod yn cynnal dadl ar y mater hwn, felly diolch i Blaid Cymru am hynny. Mae hon yn mynd i fod yn ddadl lawer mwy cynhyrchiol na’r un rydym newydd ei chael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £150 miliwn o gymorthdaliadau i’r diwydiant bysiau ers y pandemig, ac nid oes unrhyw amheuaeth nad yw nifer y bobl a arferai ddefnyddio’r gwasanaethau bysiau wedi dychwelyd o hyd. Hyd yn oed yng Nghaerdydd, lle mae'r nifer sydd wedi dychwelyd wedi bod yn well na'r cyfartaledd, dim ond 75 y cant i 80 y cant o'r bobl a oedd yn defnyddio'r bysiau cyn y pandemig sy'n eu defnyddio nawr. Felly, mae rhai pobl wedi newid y ffordd y maent yn byw eu bywydau yn llwyr, naill ai oherwydd eu bod yn rhy ofnus i adael eu cartrefi am amrywiaeth o resymau, neu am eu bod naill ai wedi prynu beic—sy'n annhebygol; hoffem obeithio hynny—neu mae ganddynt gar preifat. Wrth gwrs, dyma'r cyfeiriad cwbl anghywir i'r un rydym am i bobl fynd iddo, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn ceisio cadw car preifat pan nad oes ganddynt arian i wneud hynny; maent yn byw mewn tlodi trafnidiaeth.
Rwy’n llongyfarch y Dirprwy Weinidog am y pethau arwrol y mae wedi bod yn ceisio’u gwneud i gynnal y gwasanaethau bysiau, gan ein bod ar ymyl y dibyn ac yn wynebu argyfwng gyda hyn. Ond rydym wedi clywed ddoe mai £1 filiwn o gyfalaf yn unig sydd yn y gyllideb gan Lywodraeth y DU ar gyfer popeth, ar gyfer yr holl wasanaethau a'r pethau y mae'n rhaid i ni eu hariannu. Felly, nid oes rhagor o arian ar hyn o bryd, a sut rydym yn mynd i lwyddo i ymdopi â hyn a pharhau i gael y gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnom i newid o'r car preifat—mae'n anodd iawn gweld sut y gwnawn hynny.
Rydym mewn sefyllfa amhosibl, gan fod y rhan fwyaf o’r bysiau sy’n cael eu defnyddio yn defnyddio petrol a diesel, felly mae pris y tanwyddau hyn wedi codi’n esbonyddol. Ychydig iawn o awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i gael y grantiau i drydaneiddio eu bysiau. Gwn fod Caerdydd a Chasnewydd wedi llwyddo i wneud hynny. Mae awdurdodau lleol eraill naill ai heb wneud cais neu wedi cael eu gwrthod, ac ni allaf ddweud pa un ydyw, ond yn amlwg, mae hwnnw'n gwestiwn da iawn.
Nid oes gennym unrhyw gyfarwyddyd canolog o ran ble mae ein bysiau'n mynd. Bydd cwmnïau preifat yn dewis y llwybrau y maent am eu cynnig er mwyn gwneud cymaint o arian ag y gallant o x neu y. Golyga hynny eu bod yn tanseilio hyfywedd gwasanaethau bysiau’r sector cyhoeddus, a oedd mewn sefyllfa i groes-sybsideiddio, os mynnwch, y gwasanaethau a oedd yn cael llawer o ddefnydd gyda’r rheini a oedd yn gymdeithasol bwysig ond nad oeddent yn cael llawer o ddefnydd.
Rydym wedi cael blynyddoedd lawer o danfuddsoddi mewn rheilffyrdd, sy’n ei gwneud yn anodd ofnadwy inni ddatblygu’r math o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig anhygoel sydd gan Lundain. Ond y rheswm am hynny yw bod gennym system lywodraethol sy'n gwbl annheg. Mae llawer mwy o arian wedi’i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr nag a gawsom yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae gennym Lywodraeth sy’n darparu ffuglen i ni sy'n dweud, rywsut, fod HS2, sy’n rhedeg rhwng Old Oak Common a Birmingham, o fudd i Gymru. Fe’ch gwahoddaf i edrych ar y ddaearyddiaeth.
Felly, hyd nes y cawn Lywodraeth newydd ag ychydig mwy o synnwyr cyffredin yn y trefniadau ynghylch ariannu teg, mae gennym y sefyllfa a ganlyn: mae gennym gwmni preifat yn gweithredu'r C8 o Heol Eglwys Fair yng nghanol Caerdydd, ac maent wedi cyhoeddi'n sydyn na fydd y gwasanaeth hwnnw'n weithredol ar ôl 4 Ebrill. Mae hyn yn bwysig i chi, oherwydd mae'n rhaid i rai o'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau i ni yn y Senedd ddechrau am 7 o'r gloch y bore. Ar ôl i’r gwasanaeth bws hwnnw gael ei ddiddymu, nid oes ganddynt unrhyw ffordd o gyrraedd yma erbyn 7 o’r gloch y bore, gan nad oes gwasanaeth bws arall. Oni bai eu bod, yn sydyn, ar ôl 40 mlynedd, yn prynu beic, ni fyddant yn gallu cyrraedd mewn pryd. Bydd yn rhaid i'w rotâu newid i gyd-fynd ag unrhyw wasanaethau bysiau sy'n dal i fodoli.
Yn yr un modd, y mater enfawr arall yn fy etholaeth yw cost cludiant i'r ysgol. Nid yw plant yn mynychu’r ysgol am fod hyd yn oed y rheini sy’n cael prydau ysgol am ddim yn gorfod talu £400 am y fraint o fynd i’r ysgol os ydynt yn byw'n rhy bell i allu cerdded, ac yn syml iawn, nid oes gennym ddewisiadau eraill eto o ran teithio llesol, gan y dylai'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ysgol uwchradd allu teithio ar feic. Felly, mae gennym sefyllfa anodd iawn, ac nid wyf yn gwybod sut gallwn ei datrys, a hoffwn wybod gan bwy mae'r atebion.