7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:23, 22 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Dyna'n union sydd ei angen arnom, a dyna fy nhrydydd pwynt, a'r olaf mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ymateb i fy mhwynt ar Fflecsi wrth ymateb i'r ddadl. Ond mae'n beth eithaf rhyfeddol fod Janet Finch-Saunders wedi gallu siarad am bron i chwe munud am ddyfodol gwasanaethau bws heb sôn am drychineb dadreoleiddio. Mae wedi bod yn gatastroffig.