Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 22 Mawrth 2023.
Iawn. Fel cyd-Aelod yma, cawn ein hethol yn Aelodau o Senedd Cymru yma, felly fy mhryder i yw—. Byddwn yn dychmygu y bydd ASau draw yn Lloegr yn dal Llywodraeth y DU yn atebol, os oes angen iddynt, ond fy ngwaith i yw craffu ar y Llywodraeth hon a Lee Waters yn benodol.
Nawr, rwy'n siomedig, Ddirprwy Weinidog, eich bod chi, gyda Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd—Plaid Cymru—Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi caniatáu i'r T19 rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno gael ei ddirwyn i ben heb fawr o rybudd. Tair wythnos—tair wythnos—sydd wedi mynd heibio ers i'ch swyddogion Trafnidiaeth Cymru wneud addewid, yn fy nghyfarfod rhithiol o randdeiliaid, i edrych ar wasanaeth fflecsi dyffryn Conwy a'r 19X fel atebion posib. Mae'r gweithredwyr bysiau hyn wedi cynnig atebion ond wedi cael eu hanwybyddu. Mae'n frawychus. I ddyfynnu cwmni bysiau yn Aberconwy, 'Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn cyfathrebu nac yn gohebu ac nid oes ganddynt arbenigedd yn y farchnad. O draciau i darmac, mae Trafnidiaeth Cymru wedi'u llethu'n ddifrifol.' Eu geiriau hwy, nid fy ngeiriau i. Mae hyn yn effeithio ar y bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas, ac mae Trafnidiaeth Cymru'n gwybod hynny. Maent hwy eu hunain wedi dweud nad oes gan 13 y cant o gartrefi Cymru gar at eu defnydd. Mae gan 25% o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor. Ac mae Sustrans Cymru—fe fyddwch chi'n cofio Sustrans Cymru, Lee—wedi dweud bod tlodi trafnidiaeth yn brofiad cyffredin yma yng Nghymru. Byrdwn Plaid Cymru yw'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, ac rwy'n cefnogi hynny—wrth gwrs fy mod—ond nid yw'n ddigon. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad i ymestyn cyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau am o leiaf 18 mis, ond gadewch inni fod yn glir, ni fyddai camau o'r fath yn darparu sicrwydd ariannol mwy hirdymor i weithredwyr bysiau ledled Cymru. I ddyfynnu rhanddeiliad, 'Ateb ariannol dros dro yw'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, wedi'i gynllunio i wneud iawn am golledion i fusnesau sy'n gwneud fawr ddim, os rhywbeth, i ddenu cwsmeriaid yn ôl ar eu bysiau mewn gwirionedd'.
Nawr, rwy'n gwybod ei fod yn eithaf tebyg i'r swyddfeydd post gyda bysiau. Os nad ydych chi'n ei ddefnyddio, rydych chi'n mynd i'w golli, ac nid wyf yn meddwl eich bod chi'n cael y neges honno allan ddigon. Fel arfer mae'n llawer rhy hwyr ac mae pobl yn teimlo wedi'u gadael ar ôl ac yn ynysig. Nid yw lefelau defnydd lleol o fysiau ond tua 75 y cant i 80 y cant o'r lefelau cyn y pandemig, felly dywedwch wrthyf heddiw beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud am hynny? Mae angen ymgyrch fawr arnom sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a phob gweithredwr i farchnata gwasanaethau, nid yn unig er mwyn cael penolau ar seddi bysiau, ond i argyhoeddi'r cyhoedd mai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw'r ffordd orau o gael mynediad at siopau, gweithgaredd cymdeithasol a gwaith. Dylai'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau fod yn ddibynnol ar allu i brofi twf, buddsoddiad, gwelliant yn ansawdd y gwasanaeth a marchnata mawr. Fodd bynnag, mae gweithredwyr bysiau y siaradais i â hwy wedi rhybuddio ynglŷn â phroblem enfawr sydd ond ychydig o arosfannau i ffwrdd, sef y syniad hwn o fasnachfreinio. Mae un cwmni bysiau wedi ysgrifennu ataf i ddweud, 'Nid oes gennym unrhyw ddealltwriaeth o'r hyn y mae masnachfreinio yn ei olygu i'r sector'—[Torri ar draws.] A ydych chi eisiau ymyrryd? [Torri ar draws.] Popeth yn iawn.
'Mae bod yn gyfan gwbl yn y tywyllwch yn golygu na allwn gynllunio na buddsoddi yn ein busnesau nac mewn cynnal gwasanaethau allweddol'. Nawr, fel rhywun sy'n dod o'r sector preifat fy hun, mae nifer y bobl yn y sector preifat sy'n gofidio am y diffyg crebwyll busnes yn eich adran—. Yn fwy pryderus fyth, mae yna bryder yn y sector nad ydych chi, hyd yn oed chi, y Dirprwy Weinidog, a Trafnidiaeth Cymru, yn gwybod ychwaith. Mae unigolion sy'n gweithio yn y sector wedi awgrymu wrthyf y bydd gweithredu model masnachfreinio tebyg i un Llundain—dewch, Blaid Cymru, ni fyddwch yn hoffi hyn—ledled Cymru'n costio o leiaf £300 miliwn y flwyddyn. Nid yw'n syndod, felly, fod y sector yn galw'n briodol am esboniad clir pam eich bod yn credu bod masnachfreinio yn hynod o hyfyw. [Torri ar draws.] Fe dderbyniais ymyriad.
Ar draws y diwydiant bysiau a choetsys, mae yna amheuaeth enfawr a yw Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru â gallu mewn gwirionedd i lunio, contractio a rheoli fframwaith masnachfraint ar gyfer Cymru gyfan. Lywydd, mae angen inni glywed gan y Dirprwy Weinidog heddiw nid yn unig sut y bydd yn cefnogi cwmnïau bysiau yn y tymor byr, ond sicrwydd bod y cynllun mwy hirdymor i fasnachfreinio yn fforddiadwy ac yn ymarferol hyd yn oed. Nid oes angen i mi eich atgoffa sut mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'i pherchnogaeth ar faes awyr. Diolch, Lywydd.