7. Dadl Plaid Cymru: Cynllun brys ar gyfer y sector bysiau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 22 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:40, 22 Mawrth 2023

Dwi'n falch iawn clywed am yr enghraifft dda yna. Dwi'n meddwl, er tegwch i'r Dirprwy Weinidog, ei fod e wedi sôn am yr angen i edrych ar arferion da eraill, a cheisio eu mabwysiadu nhw. A dyna rai o'r atebion tymor canolig sydd wedi cael eu rhoi, ac mi ddof i ymlaen atynt yn y munud. Ond mae'r creisis yma rŵan, heddiw hyn, yn ein wynebu ni ar hyn o bryd. 

Ac fel roeddwn i am sôn, dwi wedi sôn am enghreifftiau yn fy etholaeth i. Cymrwch yr etholwr yn Harlech sy'n gorfod teithio pedair awr i fynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor er mwyn cael triniaeth. Neu'r hen ddynes ym Mlaenau Ffestiniog sydd bellach yn gorfod symud i fyw i Landudno oherwydd bod y T19 wedi mynd. Neu'r gŵr sydd o Gaernarfon, ond yn gorfod cysgu'r nos mewn pabell ym Mhwllheli, oherwydd nad oes yna fws i fynd â fo adref efo'r nos ar ôl ei shifft. Dyma'r mathau o enghreifftiau sydd yn ein hwynebu ni. Dŷn ni wedi clywed enghreifftiau eraill—Jane Dodds wedi sôn am y ddynes yna yn Llangynog sydd yn mynd i Groesoswallt; roeddwn i'n gwbl argyhoeddedig bod Croesoswallt yn rhan o Gymru—hwyrach bod yna ddadl arall yn fanna rhyw dro. Ond, ie, dyna'r mathau o enghreifftiau sydd yn wynebu pob un o'n cymunedau ni, a dŷn ni wedi'u clywed nhw. 

Roedd Huw Irranca a Jenny Rathbone yn sôn am y just transition yma. Ac, wrth gwrs, yn rhan o ateb y Dirprwy Weinidog, dŷn ni wedi clywed am y syniadau tymor canolig yma sydd yn cael eu cyflwyno. Ac mae'r angen yna am just transition yn gwbl, gwbl greiddiol i gael pobl i ffwrdd o'u ceir i drafnidiaeth gyhoeddus. Ond dydy pobl ddim yn gallu gwneud hynny oherwydd y diffyg buddsoddiad rŵan hyn. A dyna'r gwendid sydd yn ein hwynebu ni ydy ein bod ni'n gweld colled yn y ddarpariaeth yna, ein bod ni'n gweld colled yn y pres sydd yn mynd i'r gwasanaethau bysys yma. 

Dŷn ni wedi clywed ambell i syniad da am fws Fflecsi, er enghraifft, ac mae'n rhaid i mi yn y fan yma ganu clodydd gwasanaeth bws Fflecsi o ddrws i ddrws yn Nefyn, sydd yn mynd o amgylch Llŷn. Mae yna arfer da yn fanno dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi clywed amdano. Ond mae'r creisis yma yn ein hwynebu ni heddiw. Ddaru'r cwestiwn gael ei ofyn, 'Wel beth ydy'r ateb? Sut dŷn ni'n mynd i ariannu o?' Mae yna gwestiwn—roedd y bus emergency scheme yn cael ei ariannu yn ystod y gyllideb wreiddiol, ond, am ryw reswm, mae o wedi diflannu—felly, mae yna gwestiwn yn fanno am ble mae'r pres gwreiddiol yna oedd yn y gyllideb wreiddiol wedi mynd. Mae'r blaid yr ochr yma wedi rhoi cynigion ymlaen ynghylch trethi, a'r ffordd y gellid defnyddio'r system dreth yng Nghymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ond dydy'r Llywodraeth ddim wedi penderfynu cyd-fynd efo ni ar hynny. Ac o ran y tymor hir, wrth gwrs, mae'r HS2 yn cymryd £5 biliwn allan o gyllideb Cymru. Mae'r Northern Rail Powerhouse—neu beth bynnag ydy ei enw o—yn cymryd £1 biliwn yn ychwanegol allan, ac mae'r Ceidwadwyr yn gwrthod ymladd amdano fo, ac mae'n flin gen i i weld bod arweinydd Llafur yn y Deyrnas Gyfunol wedi gwrthod dweud y bydd e'n ymroi i roi'r pres yna yn ôl. Efo'r pres yna, mi fuasem ni yn medru buddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus. 

Felly, dwi am weld y Dirprwy Weinidog, a'r Llywodraeth yma, yn ymrwymo i sicrhau y bydd Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn San Steffan yn rhoi'r pres yna i Gymru, ac yn gweld y buddsoddiad yn ein trafnidiaeth gyhoeddus ni. 

Felly, i gloi, diolch yn fawr iawn i bob un am gymryd rhan. Mae yna heriau yn ein hwynebu ni, ond yr ateb ydy buddsoddi, nid torri.