Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 22 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb am gymryd rhan yn y drafodaeth yma. Wel, os mai trafnidiaeth gyhoeddus ydy'r Cinderella o wasanaethau cyhoeddus, yna gwasanaeth bysiau ydy chwaer fach angof Cinderella.
Diolch yn fawr i ti, Delyth, am agor y ddadl yma mor huawdl, gan beintio darlun inni ar y cychwyn—rydyn ni wedi clywed mai cwmnïau cymunedol ydy nifer o'r cwmnïau yma sydd yn darparu'r gwasanaethau yma a pha mor bwysig ydy'r gymuned yng nghanol y ddarpariaeth honno.
Rŵan, os ydym yn edrych ar ein cymunedau ni, am lawer rhy hir, mae yna bobl llawer mwy gwybodus na fi wedi bod yn gofyn pam ein bod ni'n gweld diboblogi yn ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae’r ateb, wrth gwrs, i'r diboblogi hynny yn un dyrys, ond un elfen ddiymwad ydy oherwydd y diffyg mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Gall ein cymunedau ni ddim fforddio colli mwy o wasanaethau, ond fel y saif pethau, dyna sydd am ddigwydd, ac os nad ydym ni am weld y BES yn cael ei ailgyflwyno, yna, mi fyddwn ni'n gweld mwy o wasanaethau’n diflannu. Fe soniodd y Dirprwy Weinidog rŵan hyn ein bod ni wedi gweld nifer y staff yn y gwasanaethau bysys yn diflannu yn ystod COVID, wel, mae’n flin gen i i ddweud, os na fydd y BES yn cael ei ailgyflwyno, bydd gweddill y staff hefyd yn diflannu, gan golli swyddi oherwydd y llwybrau bydd yn cael eu colli.
Mae gan y Llywodraeth yma, mae arnaf i ofn dweud, arfer gwael o ddatblygu polisi yn seiliedig ar brofiadau dinesig, gan geisio gorfodi'r drefn honno ar gymunedau eraill. Mae iechyd a hamdden yn enghreifftiau perffaith o hyn. A phan fod y model yma'n methu, yna, yn hytrach na llunio model newydd addas i bwrpas, yr hyn sy’n digwydd ydy bod ein cymunedau ni'n cael eu hamddifadu. Mewn gwirionedd, mae o'n fodel trefedigaethol—mae ein cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol yn cael eu hecsbloetio am eu hadnoddau gwerthfawr, yn arbennig, felly, ein pobl ifanc ni sy’n cael eu hechdynnu allan o’r cymunedau yna, ac yna does yna ddim buddsoddiad yn yr ardaloedd hynny i gymryd eu lle a'u cadw'n hyfyw. Dyna i chi, mewn gwirionedd, y diffiniad o broses drefedigaethol ar waith yma yng Nghymru.
Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld gwasanaethau iechyd, swyddfeydd post, banciau ac eraill yn cael eu canoli i ffwrdd o’n cymunedau ni. Canlyniad hyn oll a mwy ydy bod disgwyl i bobl deithio am y gwasanaethau yma i’r dref neu’r ddinas agosaf, fel y clywsom ni efo Luke yn gynharach. Ac fe glywsom ni hefyd yn y cyfraniad yna am effaith hyn ar economi ein cymunedau ni.
Dyma i chi felly y broses sydd wedi bod ar waith yma yng Nghymru a cholli y grant yma, y BES, ydy rhoi y geirios ar ben cacen Margaret Thatcher. Ond, wrth gwrs, roeddwn i'n falch iawn o glywed Huw Irranca ac eraill yn galw am wyrdroi polisïau dadreoleiddio Thatcher yn yr 1980au ac yn falch o glywed ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i drio gwthio i’r cyfeiriad yna.
Dwi wedi nodi enghreifftiau o fy etholaeth i yma o'r blaen—