Tribiwnlysoedd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:55, 29 Mawrth 2023

Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn i'n falch iawn i glywed y tribiwnlysoedd Cymreig yn cael eu trafod fan hyn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Dyma ran bwysig o’r system gyfiawnder sy’n aml iawn yn cael ei hanghofio, ac, wrth gwrs, rhan o’r system gyfiawnder sydd wedi’i datganoli yn barod i Gymru. Yr hyn rôn i am ofyn ichi, Gwnsler Cyffredinol, yw beth yw’r amserlen ar gyfer y Papur Gwyn, a phryd ŷch chi'n gobeithio y bydd y system tribiwnlysoedd unedig a system apêl y tribiwnlysoedd—sy'n mynd i fod yn hanesyddol iawn; y system apêl gyntaf yng Nghymru ers canrifoedd—pryd ŷch chi'n gobeithio y bydd rheini'n cael eu sefydlu? Diolch yn fawr.