2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2023.
5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb diweddaraf Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru? OQ59355
Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel dywedais i yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, rŷn ni wedi derbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn eu hanfod, ac rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio. Byddwn ni'n cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf ac yn deddfu er mwyn gwneud y newidiadau.
Diolch yn fawr iawn, Gwnsler Cyffredinol. Roeddwn i'n falch iawn i glywed y tribiwnlysoedd Cymreig yn cael eu trafod fan hyn yn y Senedd yr wythnos diwethaf. Dyma ran bwysig o’r system gyfiawnder sy’n aml iawn yn cael ei hanghofio, ac, wrth gwrs, rhan o’r system gyfiawnder sydd wedi’i datganoli yn barod i Gymru. Yr hyn rôn i am ofyn ichi, Gwnsler Cyffredinol, yw beth yw’r amserlen ar gyfer y Papur Gwyn, a phryd ŷch chi'n gobeithio y bydd y system tribiwnlysoedd unedig a system apêl y tribiwnlysoedd—sy'n mynd i fod yn hanesyddol iawn; y system apêl gyntaf yng Nghymru ers canrifoedd—pryd ŷch chi'n gobeithio y bydd rheini'n cael eu sefydlu? Diolch yn fawr.
Well, thank you for the supplementary question. The timetable for a White Paper, I would hope, will be imminent. Obviously, it’s up to the First Minister to make statements on the announcement of the legislative programme. Of course, in the 'Delivering Justice' paper, we make very specific reference to tribunal reform, and, of course, the intention of Welsh Government is to legislate within this term in order to implement the recommendations of the Law Commission, of course, after the White Paper consultation. So, it is every intention that we will do that, that we will reform the tribunals. I think it will be an exciting and historic legal reform, with many opportunities in terms of how it may provide an embryonic base for the further development of the Welsh justice system, and I will of course make further statements in the not-too-distant future.