Tribiwnlysoedd Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:54, 29 Mawrth 2023

Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Fel dywedais i yn y lle hwn yr wythnos diwethaf, rŷn ni wedi derbyn argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn eu hanfod, ac rŷn ni wedi ymrwymo i ddiwygio. Byddwn ni'n cyhoeddi Papur Gwyn yn y misoedd nesaf ac yn deddfu er mwyn gwneud y newidiadau.