Polisi Caffael

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

4. A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ynghylch y polisi caffael ar gyfer deunydd ar ystâd y Senedd? OQ59367

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:26, 29 Mawrth 2023

Mae polisi caffael y Comisiwn yn cyd-fynd ag egwyddorion datganiad polisi caffael Cymru. O ran prynu deunyddiau, bob tro y byddwn yn caffael nwyddau gwerth dros £25,000, byddwn yn cynnal asesiad risg cynaliadwyedd. Mae'r asesiad hwn yn ystyried prif effeithiau cylch bywyd y deunyddiau a brynwn.

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Llywydd. Wythnos diwethaf, fe wnes i ofyn cwestiwn i’r Gweinidog amaeth ynghylch defnyddio grym caffael y Llywodraeth i ddefnyddio gwlân Cymru, er enghraifft mewn carpedi yn ein cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, pa ystyriaeth mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i sicrhau bod gwlân Cymru yn cael ei ddefnyddio ar ystâd y Senedd, a bod polisi caffael yn nodi’r angen am wlân Cymru, er enghraifft, yn y ffabrig sydd i’w weld ar lawr y Siambr yma, neu ar hyd waliau’r Siambr yma, yn enwedig pan fyddwn ni’n gweld y Siambr yn ymestyn yn fwy o faint? Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:27, 29 Mawrth 2023

Ie, dwi’n ymwybodol o’ch cefnogaeth ar gyfer y deunydd pwysig hynny, sef gwlân yng Nghymru. Dwi’n rhannu eich uchelgais chi ar gyfer y deunydd cynaliadwy iawn hynny. Dwi’n meddwl ein bod ni yn neunawfed blwyddyn y Siambr yma, ac mae’r gwlân sydd ar y welydd ac ar y llawr wedi para mor hir â hynny, sy’n dangos, wrth gwrs, pa mor dda yw’r cynnyrch yna. Fel y sonioch chi, fe fydd yna gyfnod, os bydd deddfwriaeth yn mynnu hynny, pan fydd angen ymestyn y Siambr yma ac, o bosibl, bryd hynny bydd angen rhoi ystyriaeth i weld a fydd y gwlân yn para ac angen cael ei brynu o’r newydd ar gyfer y Siambr yma. Ac os byddwn ni’n prynu gwlân bryd hynny, yna dwi’n gobeithio y bydd yn lliw mwy diddorol na’r llwyd yma a benderfynwyd arno 18 mlynedd yn ôl.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:28, 29 Mawrth 2023

Bydd cwestiwn 5 yn cael ei ateb gan Ken Skates. Huw Irranca-Davies.